.jpg)
Cŵn Dŵr Cadcaver
Mae'r astudiaeth hon, sy'n cael ei harwain gan Amy Rattenbury, yn archwilio cymhwyso cŵn cadaver wrth ganfod gweddillion o dan y dŵr, gan ganolbwyntio ar sut mae amgylchiadau amgylcheddol yn dylanwadu ar gryfder trywydd a chanlyniadau canfod. Ymgymerir â'r gwaith gyda thîm o ymchwilwyr allanol mewn cydweithrediad gyda UK-K9, Cymdeithas Genedlaethol Defnyddwyr Cŵn Arbenigol (NASDU) sy'n ddarparwr hyfforddiant achrededig.
Dros y nifer o fisoedd diwethaf, mae data arsylwi wedi'i gasglu yn ystod sesiynau hyfforddi arferol yn seiliedig ar ddŵr gan ddefnyddio gweddillion mochaidd fel ffynonellau trywydd. Mae'r sesiynau hyn wedi caniatáu recordio amrywiadau amgylcheddol yn systematig (e.e. tymheredd dŵr ac aer, cyflymder gwynt, amser o dan y dŵr) ochr yn ochr gyda chanlyniadau chwilio, gan gynnwys manylder y canfod, amser rhoi gwybod a rhyngweithio rhwng y triniwr a'r ci. Caiff yr holl ddata ei gasglu mewn ffordd anymwthiol ac mae'n digwydd mewn amgylchiadau bywyd go iawn heb i unrhyw weithgareddau hyfforddi sy'n bodoli eisoes gael eu newid.
Mae dadansoddiad cynradd yn awgrymu y gall llwyddiant canfod fod yn hynod o ddibynnol ar gyd-destun, yn arbennig felly mewn perthynas ag anwadalrwydd amgylcheddol a math o ddŵr. Mae'r arsylwadau cynnar hyn yn atgyfnerthu'r angen am ymchwil pellach i ddeinameg gwasgaru trywydd mewn cyd-destunau dŵr, yn ogystal â goblygiadau protocolau chwilio a dulliau hyfforddi. Mae poster yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol wedi cael eu derbyn i'w cyflwyno yng Nghynhadledd yr Hydref Cymdeithas Siartredig Gwyddorau Fforensig (CSFS) yn Leeds fis Tachwedd yma, gyda chasglu data a dadansoddi pellach wedi'u hamserlennu i mewn i dymor yr hydref.