.jpg)
Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
PlantSea Ltd.
Cwblhawyd y Prosiect Talebau Trosglwyddo Gwybodaeth gyda PlantSea Ltd, yn cael ei arwain gan Dr Jixin Yang, yn llwyddiannus ym mis Ebrill 2025, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr ar arloesi deunydd cynaliadwy. Drwy'r cydweithrediad hwn, fe wnaeth y tîm gynnal dadansoddiad systematig o gyfansoddiad, a nodweddion ffisegol a chemegol echdynion gwymon. Mae'r ddealltwriaeth drylwyr yma wedi bod yn sail i'w potensial fel amnewidion hyfyw ar gyfer plastigau confensiynol. Mae'r canfyddiadau yn cefnogi'n uniongyrchol ddatblygiad deunyddiau gweithredol, deunyddiau sy'n seiliedig ar wymon sy'n cynnig manteision amgylcheddol a masnachol. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, mae'r prosiect wedi gosod y sylfeini ar gyfer menter wedi'i hariannu gan Bartneriaeth SMART Llywodraeth Cymru, sydd yn fod i ddechrau ym mis Medi 2025, er mwyn cyflymu creu'r genhedlaeth nesaf o blastigau amgen cynaliadwy.
Fanci Ltd.
Cyrhaeddodd y Prosiect Talebau Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Fanci Ltd., o dan arweiniad Dr Jixin Yang, ganlyniad llwyddiannus ym mis Mawrth 2025, gan ddarparu manteision sylweddol o ran dewis deunydd ar gyfer matiau glanwaith perfformiad uchel sy'n sugno. Drwy'r cydweithrediad diwydiannol hwn, cafodd ystod o ddeunyddiau posib eu dethol, eu prosesu a'u profi'n drylwyr. Darparodd yr ymchwil dystiolaeth eglur er mwyn arwain y dewis ar gyfer y deunyddiau mwyaf addas ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fawr.
Arddangosodd ymchwiliadau manwl i sugno dŵr, datsugniad, cadw lliw, a gwaredu staen - wedi'u cynnal o dan efelychiadau amgylchiadau o'r byd go iawn - y perfformiad eithriadol posib o'r deunyddiau a ddewiswyd. Mae'r canlyniadau yn gosod Fanci Ltd. mewn sefyllfa i gyflymu datblygiad masnachol y genhedlaeth nesaf o fatiau glanwaith sugno gyda ffwythiant a gwytnwch uwch.