Gweithdai hyfforddiant ar Dosturi ar gyfer Presgripsiynwyr Cymdeithasol

Chwefror 2022.

Mae’r prosiect hwn yn mynd i’r afael â ‘thosturi’ – cysyniad sy’n cael ei gam-gymryd yn aml fel un emosiwn, yn hytrach na bod yn amlochrog1. Mae disgrifiad mwy cynhwysfawr o dosturi yn awgrymu bod ganddo bedair elfen allweddol: ymwybyddiaeth o ddioddefaint, pryder cydymdeimladol am ddioddefaint, yr awydd i leddfu'r dioddefaint, a chymhelliant i helpu i leddfu'r dioddefaint2.

Nod presgripsiynu cymdeithasol yw helpu pobl i wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau drwy greu rhwydweithiau a chysylltiadau rhwng unigolion, grwpiau a gwasanaethau cyhoeddus3. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr i’r hyn rydym fel arfer yn meddwl amdano pan rydym yn clywed y term ‘presgripsiynu'. Mae model cymdeithasol iechyd wedi ennill cryn gefnogaeth dros y blynyddoedd, ac mae presgripsiynwyr cymdeithasol yn annog pobl i geisio treulio amser gyda phobl sy’n bwysig iddynt a chysylltu gyda phethau sy’n bwysig iddynt, a thrwy hynny, hyrwyddo asiantaeth, ymdeimlad perthynol, a gwell llesiant. Fodd bynnag, er mwyn i bresgripsiynu cymdeithasol fod yn gredadwy, rhaid i bresgripsiynwyr fynd ati i bresgripsiynu gyda thosturi, a chaiff ‘tosturi’ ei nodi fel un o’r pum prif anghenion dysgu ar gyfer presgripsiynwyr cymdeithasol. 

Bydd y prosiect archwiliadol yn cael mewnwelediad i natur a chymhwysedd tosturi mewn lleoliad presgripsiynu cymdeithasol, er mwyn datblygu gweithdy hyfforddiant ar dosturi ar gyfer presgripsiynwyr cymdeithasol. Yn gyntaf, bydd yr ymchwilwyr yn archwilio’r llenyddiaeth bresennol ar dosturi ymhlith darparwyr gofal iechyd ac yn nodi unrhyw fylchau yn y wybodaeth bresennol. Wedyn, bydd yr ymchwilwyr yn cyfweld detholiad o bresgripsiynwyr cymdeithasol er mwyn deall eu hymwybyddiaeth o dosturi a sut maent yn ei gymhwyso. Yng ngoleuni eu hymatebion, bydd y tîm yn creu deunyddiau hyfforddi er mwyn gwella llesiant ac arfer y gweithlu presgripsiynu cymdeithasol, a bydd hynny, yn ei dro, yn gwella llesiant unigolion sy’n derbyn presgripsiynau cymdeithasol tosturiol.


1Kirby et al. (2017)
2Jazaieri et al. (2013)
3Thomas et al. (2019)