
Iechyd Perthynol
Mae Iechyd Perthynol yn faes sy'n ehangu'n barhaus yn PGW, gyda'n Canolfan Efelychu Gofal Iechyd a agorwyd yn ddiweddar yn y Ganolfan Optig yn Llanelwy. Rydym wedi cyflwyno sawl gradd newydd i fyfyrwyr yn y maes, ac rydym yn meithrin portffolio ymchwil.
“Mae gan Dr Liz Cade rôl mewn datblygu ymchwil strategol o fewn meysydd pwnc perthynol i iechyd, gan gefnogi'r timau tiwtoriaid academaidd i feithrin gallu ac allbwn. Mae ei rôl yn ymestyn i feithrin rhwydweithio cydweithredol gyda chlinigwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n astudio’n ôl-raddedig i adeiladu cwmpas ar gyfer cyhoeddi. Mae hefyd yn cefnogi cwricwla ymchwil israddedig i ddatblygu hyder mewn ymchwil a diwylliant ymchwil cryf, wrth i fyfyrwyr drosglwyddo i ymarfer yn eu gyrfaoe”
Dr Liz Cade
Prif Ddarlithydd mewn Iechyd Perthynol
Meysydd pwnc eraill o fewn Iechyd Perthynol:
• Gwyddor parafeddygol
• Ymarfer adran llawdriniaethau
• Dieteteg
• Therapi iaith a lleferydd
• Ffisiotherapi