Ffynnu mewn Ymarfer
Mae’r syniad o ffynnu yn hollbwysig i fyfyrwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gyda darparu gwasanaeth yn mynnu meddylfryd entrepreneuraidd a gwydnwch i gynnal hirhoedledd mewn ymarfer.
Sefydlodd ymchwil a wnaed gan Dr Liz Cade bwysigrwydd datblygu ymdeimlad o hunaniaeth a chymhwysedd trwy wydnwch, entrepreneuriaeth a gwahaniaeth unigol i fyfyrwyr therapi galwedigaethol mewn lleoliadau sy’n datblygu rôl.
Gellir ehangu'r canfyddiadau i daith ddysgu'r myfyrwyr trwy gydol eu cyfnod astudio a sut y gellir cryfhau'r elfennau hyn trwy fodel datblygiadol.
Arwyr Gofal Iechyd: Byd Yfory
Yn seiliedig ar ymchwil PhD Liz, trafododd Liz sut mae’n rhaid i ddarparwyr addysg iechyd, er mwyn cynnal y gofynion a roddir ar ymarferwyr, feithrin cymhwysedd sy'n seiliedig ar sgiliau, hunaniaeth broffesiynol, meddylfryd entrepreneuraidd, a gwytnwch o ran myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen trwy eu hyfforddiant.