Kirsty Rogers, Ymchwilydd PhD

Mae poblogaeth y DU yn cynnwys dros 11 miliwn o bobl dros 65 oed, ac yn ystod yr 20 mlynedd nesaf mae disgwyl i'r boblogaeth 65 oed a hŷn gynyddu bron i draean. Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yn wynebu tlodi, gwahaniaethu ac iechyd gwael. Mewn ymateb i'r newid mewn demograffeg oedran mae galw am ddulliau newydd sy'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y mae pobl yn eu hwynebu wrth iddynt heneiddio.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod cymunedau'n gwahanu fwyfwy o ran oed a gallai lefelau cynyddol o’r gwahanu hwn fod yn cyfrannu at dwf mewn stereoteipiau rhwng yr hen a'r ifanc. Gallai cefnogi cyswllt rhyngbersonol a lleihau’r gwahanu o ran oed trwy weithgareddau pontio'r cenedlaethau fod o gymorth i atal stereoteipiau negyddol rhag datblygu. Mae osgoi stereoteipiau negyddol rhag datblygu nid yn unig o fudd i oedolion hŷn i atal rhagfarn ar sail oed, ond hefyd i blant wrth iddynt ddatblygu fel nad ydynt yn mewnoli stereoteipiau a allai effeithio ar eu proses heneiddio lwyddiannus eu hunain.

Mae'r ymchwil presennol ynghylch gweithgareddau pontio'r cenedlaethau yn canolbwyntio'n bennaf ar brofiad oedolion hŷn, yn enwedig y rhai â dementia, ac mae wedi'i leoli'n bennaf mewn cartrefi gofal gyda diffyg tystiolaeth gan oedolion hŷn sy'n byw yn y gymuned. Nod yr ymchwil presennol yw ymchwilio i'r manteision a'r anfanteision posibl i blant cyn oed ysgol <4 ac oedolion hŷn >65 sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau pontio'r cenedlaethau, mewn cartrefi gofal ac mewn prosiectau cymunedol. Bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i effeithiau gweithgareddau pontio'r cenedlaethau ar ryngweithio cymdeithasol, unigrwydd, ymdeimlad o gymuned, a lles.

Mae'r astudiaeth yn gynllun triongli sy’n cynnwys nifer o wahanol ddulliau megis arsylwadau heb eu strwythuro, holiaduron ansoddol, a chyfweliadau lled-strwythuredig a bydd y data a gesglir drwy'r dulliau hyn yn cael eu dadansoddi gan ddefnyddio dadansoddiad thematig. Bydd data'r arolwg hefyd yn cael ei gasglu ar ddechrau a diwedd rhaglenni newydd a bydd dadansoddiad meintiol yn cael ei gynnal i benderfynu a yw rhaglenni pontio'r cenedlaethau yn cael unrhyw effaith ar unigrwydd, ansawdd bywyd, ac ymdeimlad o gymuned ar gyfer oedolion hŷn.

Centre for Ageing Better. (2023). Our ageing population: The State of Ageing 2023-24. https://ageing-better.org.uk/our-ageing-population-state-ageing-2023-4  

Crystal, D. S., Killen, Melanie., & Ruck, Martin. (2008). It is who you know that counts: Intergroup contact and judgments about race‐based exclusion. British Journal of Developmental Psychology, 26(1), 51–70. https://doi.org/10.1348/026151007x198910  

Intergenerational Foundation. (2017, July 11). Generations apart? the growth of age segregation in England and Wales. https://www.if.org.uk/research-posts/generations-apart-the-growth-of-age-segregation-in-england-and-wales/  

Office for National Statistics. (2022). Population projections.  https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections