Mae gan y tîm Seicoleg a Chwnsela ym Mhrifysgol Wrecsam arbenigedd mewn sawl maes amrywiol sy'n adlewyrchu ein graddau sydd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Gan ddefnyddio dulliau meintiol ac ansoddol, mae yna brosiectau mewn seicoleg wybyddol ac iaith, seicoleg iechyd, seicoleg crefydd, llythrennedd digidol, ac addysg.

Mae’r tîm ar hyn o bryd yn datblygu ap at ddibenion gofal iechyd, gan weithio gyda phlant ysgol gynradd i ddatgelu eu hagweddau at gyfryngau digidol, ac archwilio barn pobl ifanc ynghylch hawliau dynol. Mae'r adran yn awyddus i groesawu myfyrwyr PhD newydd gyda chyfoeth o gyfleusterau i alluogi ymchwil sy'n torri tir newydd, megis labordy seicometrig, efelychydd hedfan, labordy perfformiad chwaraeon uwch-dechnoleg, ciwbiclau arbrofol, a labordy efelychu.

Cwrdd â'r Tîm

“Mae Mandy Robbins ym Mhrifysgol Wrecsam yn Seicolegydd Siartredig ac yn aelod o Gymdeithas Seicolegol America. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar bersonoliaeth a gwahaniaethau unigol mewn perthynas â chred, ymarfer a lles crefyddol. Mae’n gwasanaethu ar fwrdd golygyddol British Journal for Religious Education, yn Olygydd Cyswllt i’r Journal of Empirical Theology ac yn gyd-olygydd y gyfres Brill Studies in Theology and Religion. Mae hi wedi cyd-awduro pum llyfr a dros 200 o benodau ac erthyglau. ”

Yr Athro Mandy Robbins Deon Cyswllt Ymchwil

“Mae gan Shubha brofiad helaeth yn y sector iechyd seicolegol yng Nghymru, gyda diddordebau ymchwil yn cynnwys seicoleg fiolegol, gymdeithasol ac iechyd. Mae Shubha hefyd wedi gweithio'n ddiweddar ar brosiect addysg sy'n archwilio canfyddiadau plant ysgolion cynradd ac athrawon ar ddefnyddio darllen i gŵn i ysgogi ymddygiad darllen. ”

Dr Shubha Sreenivas Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg

“Mae Gwennan yn Ddarlithydd mewn Seicoleg Wybyddol ac yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain. Mae hi wedi cyfrannu at The Cognitive Psychology Bulletin, wedi cyflwyno gwaith yng nghynadleddau Adran Wybyddol Cymdeithas Seicolegol Prydain, ac mae ganddi brofiad o adolygu cymheiriaid ar gyfer y Youth Voice Journal. Mae hi hefyd yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgor concordat ymchwil PW. ”

Dr Gwennan Barton Darlithydd mewn Seicoleg

“Mae Megan yn gwnselydd cymwys sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda'r Gymdeithas Cwnsela Genedlaethol (NCS) ac yn aelod o'r BPS. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gweithio gyda thrawma a sut mae'r amgylchedd yn effeithio ar hwyliau. ”

Megan Brooman Darlithydd mewn Cwnsela Seicoleg

“Mae Soraya yn gwnselydd a goruchwyliwr person-ganolog, wedi’i hachredu gyda’r BACP a dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag oedolion, plant a phobl ifanc, mewn practis preifat, ysgolion a phrifysgolion. Mae Soraya hefyd yn athrawes ac yn ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar cymwys.”

Soraya Bellis Darlithydd mewn Cwnsela