.jpg)
Ariannu Gwaith Ymchwil Mewnol
Ym Mhrifysgol Wrecsam rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol a rhyngddisgyblaethol sy’n gwella capasiti ac sy’n cyflawni canlyniadau ardderchog, tra’n cefnogi cymuned amrywiol o ymchwilwyr. Trwy brosiectau cydweithredol, ceisiadau ariannu ar y cyd a phartneriaethau dylanwadol gyda’r byd academaidd, diwydiant a chymunedau, ein nod yw gyrru arloesi a masnacheiddio sy’n trawsnewid cymdeithas.
Rydym yn falch o gynnig rhaglen ariannu fewnol gynhwysfawr er mwyn cefnogi datblygu ein hymchwilwyr a'u syniadau ymhellach. Mae ein Rhaglen Ariannu Mewnol 2025-26 yn cyflwyno 13 o wahanol ffynonellau ariannu er mwyn darparu adnoddau ariannol a chefnogaeth i staff, timoedd ymchwil, a myfyrwyr ymchwil ôl-ddoethurol.
Mae’n hanfodol prisio a chyllidebu eich prosiect yn fanwl gywir. Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Rheolwyr Datblygu Bidiau Emma Taylor a Rachel Lacey am gymorth gyda chostio a’r broses ymgeisio. Noder bod gan wahanol alwadau am grantiau wahanol feini prawf cymhwysedd, dyddiadau agor a chau, ffurflenni cais a gweithdrefnau adrodd. Ni dderbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag adroddiadau cynnydd yn eisiau.