.jpg)
Grant Ymchwil Rhyngddisgyblaethol
- Agor: 4 Tachwedd
- Cau: 4 Ionawr
- Swm: 2 x £3,000
- Amserlen Ariannu: Rhaid gwario'r holl gyllid erbyn 1 Gorffennaf 2027
- Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31 Gorffennaf 2027
- Amserlen: Rhoddir gwybod i ymgeiswyr erbyn 20 Ionawr
Mae'r Grant Ymchwil Rhyngddisgyblaethol yn cefnogi ymchwil arloesol a chydweithredol, wedi'i gynllunio i annog cydweithrediadau ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ar draws y Brifysgol trwy ddod â staff o wahanol adrannau, disgyblaethau neu gyfadrannau ynghyd. Ei nod yw hyrwyddo rhannu arbenigedd, methodolegau a dulliau ar draws ffiniau academaidd, gan feithrin amgylchedd ymchwil mwy cysylltiedig ac arloesol.
Yn y pen draw, mae'r fenter yn ceisio cryfhau diwylliant ymchwil y Brifysgol trwy sbarduno datblygiad ceisiadau am gyllid yn y dyfodol, cyhoeddiadau ysgolheigaidd a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth.
Meini prawf gwerthuso allweddol: cryfder ac arloesedd y cydweithrediad rhyngddisgyblaethol arfaethedig, integreiddio arbenigedd ar draws gwahanol ddisgyblaethau, y potensial i gynhyrchu allbynnau ymchwil pendant (gan gynnwys cyhoeddiadau a chyfnewid gwybodaeth), a'r gallu i sefydlu cydweithrediadau cynaliadwy sy'n arwain at geisiadau am gyllid allanol ar raddfa fwy yn y dyfodol.
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno adroddiad cynnydd i'r Swyddfa Ymchwil erbyn 31 Gorffennaf 2027
Sylwch nad yw'r cyllid hwn ar gael i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig na staff proffesiynol/technegol - fodd bynnag, gellir eu henwi ar geisiadau.
Sylwch fod y cyllid hwn yn gystadleuol a dim ond DAU gais fydd yn cael y cyllid. Y wobr uchaf yw £3000.
RHAID gwario'r holl gyllid drwy'r wobr hon erbyn 1 Gorffennaf 2027.