• Ar Agor: 1af Hydref
  • Dyddiad Cau: 12fed Tachwedd
  • Swm: £5000
  • Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
  • Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
  • Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 10fed o Ragfyr

Mae’r Grant Ymchwil Rhyngddisgyblaethol FACE yn cefnogi ymchwil arloesol, cydweithredol o dan y thema Cynaliadwyedd.  Mae’r ariannu hwn wedi’i fwriadu i annog cydweithrediadau ymchwil rhyngddisgyblaethol ar draws y Brifysgol drwy ddwyn ynghyd staff o wahanol adrannau, disgyblaethau neu gyfadrannau. Ei fwriad yw hyrwyddo rhannu arbenigedd, methodolegau, a dulliau ar draws ffiniau academaidd, gan feithrin amgylchedd ymchwil mwy cysylltiedig ac arloesol.

Bydd y grant yn cefnogi datblygu prosiectau ymchwil sy’n alinio gyda’r thema fras o Iechyd a Lles, gan gynnwys dimensiynau corfforol, meddyliol, emosiynol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Yn y pen-draw, mae’r fenter yn ceisio cryfhau diwylliant ymchwil y Brifysgol drwy sbarduno ceisiadau ariannu, cyhoeddiadau ysgolheigaidd, a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth yn y dyfodol.

Meini Prawf Cymhwysedd

  • Ar agor i academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam
  • Mae’n rhaid i geisiadau gynnwys cydweithrediad rhwng staff mewn o leiaf ddwy wahanol adran, disgyblaeth neu gyfadran.
  • Rhaid i geisiadau arddangos cydweithrediad rhyngddisgyblaethol
  • Rhaid i geisiadau alinio gyda’r thema Cynaliadwyedd
  • Potensial i gynhyrchu gweithgaredd ymchwil yn y dyfodol a chryfhau diwylliant ymchwil
  • Mae’n rhaid i’r arweinydd fod yn aelod o staff yn y Brifysgol, ond mae anogaeth gref i sicrhau cyd-arweinwyr sy’n fyfyrwyr.