.jpg)
Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig
Mae Ymchwil Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael y profiad gorau posibl wrth gwblhau eu gradd ymchwil yn Wrecsam.
Mae Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig yn arolwg cenedlaethol dan oruchwyliaeth Advance HE, sy’n casglu adborth dienw gan ymchwilwyr ôl-raddedig ar ystod o faterion gan gynnwys goruchwyliaeth, adnoddau, asesiad, sgiliau a datblygiad proffesiynol. Mae’n ein helpu i werthuso pa mor dda yr ydym ni’n cefnogi ein myfyrwyr ôl-raddedig, ac i wella mewn meysydd lle’r ydym ni’n derbyn adborth adeiladol.
Cwblhewch yr arolwg eleni, sydd ar agor o 09 Ebrill tan 16 Mai, 2025. Bydd angen treulio tua 15 munud i gwblhau'r arolwg.
Cymerwch olwg i weld beth mae ein hymchwilwyr ôl-raddedig wedi’i ddweud dros y blynyddoedd diwethaf a sut yr ydym wedi defnyddio’r adborth i wella’r profiad ymchwil.
PRES video transcript / trawsgrifiad