Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig

Mae Ymchwil Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl ymchwilwyr ôl-raddedig yn cael y profiad gorau posibl wrth gwblhau eu gradd ymchwil yn Wrecsam. 

Mae Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig yn arolwg cenedlaethol dan oruchwyliaeth Advance HE, sy’n casglu adborth dienw gan ymchwilwyr ôl-raddedig ar ystod o faterion gan gynnwys goruchwyliaeth, adnoddau, asesiad, sgiliau a datblygiad proffesiynol. Mae’n ein helpu i werthuso pa mor dda yr ydym ni’n cefnogi ein myfyrwyr ôl-raddedig, ac i wella mewn meysydd lle’r ydym ni’n derbyn adborth adeiladol. 

Cwblhewch yr arolwg eleni, sydd ar agor o 8 Ebrill tan 16 Mai, 2024.  

Cymerwch olwg i weld beth mae ein hymchwilwyr ôl-raddedig wedi’i ddweud dros y blynyddoedd diwethaf a sut yr ydym wedi defnyddio’r adborth i wella’r profiad ymchwil. 

 

PRES video transcript / trawsgrifiad

Content Accordions

  • Cwestiynau Cyffredin

    Ydw i’n gymwys i gwblhau’r arolwg? 

    Mae pob ymchwilydd ôl-raddedig sydd wedi cofrestru ar gwrs gradd ymchwil yn Wrecsam (drwy Brifysgol Caer) yn gymwys i gwblhau’r arolwg. 

    Sut all ai ddod o  hyd i ragor o wybodaeth? 

    Ewch i AdvanceHE neu cysylltwch gyda’r Tiwtor Datblygu Ymchwilwyr, mandy.robbins@wrexham.ac.uk. 

    A yw’r arolwg yn ddienw? 

    Mae eich atebion i’r arolwg yn gyfrinachol ac ni fydd modd adnabod unrhyw unigolyn. Dylech osgoi cynnwys unrhyw enwau neu gwrs er mwyn sicrhau cyfrinachedd. 

    Mae gen i gwestiynau ynglŷn â’r arolwg - gyda phwy y dylwn i gysylltu? 

    Cysylltwch â’r Tiwtor Datblygu Ymchwilwyr, mandy.robbins@wrexham.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.  

    Beth mae’r arolwg yn ei gwmpasu? 

    Mae’r arolwg yn canolbwyntio ar eich profiadau chi fel myfyriwr o safbwynt goruchwyliaeth, datblygiad personol, llesiant ac adnoddau. 

    Pam y dylwn i gymryd rhan? 

    Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i chi roi adborth ar eich profiadau. Mae hyn yn gadael i ni wybod beth sy’n gweithio’n effeithiol, fel ein bod yn gallu parhau i wneud hynny, a beth sy’n llai effeithiol, fel y gallwn dyfu a datblygu yn y meysydd hyn.