Sbringfwrdd 2024 Hyrwyddo Cynwysoldeb mewn Ymchwil ac yn y Gweithle
Thema ein Cynhadledd Sbringfwrdd fewnol flynyddol ar gyfer eleni yw Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn ymchwil ac yn y gweithle. Cynhelir y gynhadledd undydd ar 17 Ebrill 2024 a bydd sesiynau ymylol yn cael eu cynnal drwy gydol wythnos y 15fed - 19eg Ebrill.
Rydym eisiau bod yn rhan o amgylchedd diogel, teg a chroesawgar sy’n dathlu gwahaniaethau ac yn grymuso unigolion. Mae deall ein gwahaniaethau a dysgu am ragfarnau (yn cynnwys rhagfarn ddiarwybod a rhagfarn o fath arall) a sut i ymdrin â nhw a’u rheoli yn rhan hollbwysig o greu diwylliant cynhwysol. Bydd y gynhadledd eleni yn cynnig cyfle i archwilio, dysgu a thrafod pob agwedd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a cheir cyfle hefyd i ddathlu ein gwaith ymchwil yn y maes cynwysoldeb. Dyma ragor o wybodaeth am ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Hefyd, rhwng 15-19 Ebrill byddwn yn cynnal Gŵyl Ymylol sy’n gysylltiedig â’r gynhadledd. Canolbwynt yr Ŵyl Ymylol fydd Niwrowahaniaeth yn y Gweithle. Beth yw niwrowahaniaeth? Sut y gallwn gynorthwyo ein cydweithwyr a’n hymchwilwyr niwrowahanol yn y ffordd orau? Sut y gallwn bennu a defnyddio’r myrdd o sgiliau a chryfderau a ddaw law yn llaw â meddwl yn wahanol? Dyma ddetholiad yn unig o’r pynciau y byddwn yn treiddio iddynt yn ystod digwyddiadau ein Gŵyl Ymylol.
Mae gennym lu o siaradwyr mewnol ac allanol a fydd yn cynnal gwahanol sesiynau drwy gydol y Gynhadledd a’r Ŵyl Ymylol, yn cynnwys ein Prif Siaradwr, Dr Louise Bright, Is-ganghellor Menter, Ymgysylltu a Phartneriaethau ym Mhrifysgol De Cymru, a fydd yn trafod Menywod Cymru mewn STEM.
Content Accordions
-
Diffiniadau hollbwysig
Cydraddoldeb: cyfleoedd a hawliau cyfartal. Cael eich trin yn deg. Mae hefyd yn golygu eich bod yn gallu cyrraedd eich potensial a’ch bod yn cael cymorth i wneud hynny.
Amrywiaeth: cynrychiolaeth gymesur ar draws yr holl wahaniaethau sy’n perthyn i bobl.
Cynwysoldeb: cynnwys, croesawu, gwerthfawrogi a pharchu pawb, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hymylu.
Niwrowahaniaeth: ymennydd sy’n gweithio ac sy’n profi’r byd mewn ffyrdd gwahanol i’r ymennydd ‘niwronodweddiadol’ mwy cyffredin.
Niwronodweddiadoldeb: y niwroteip mwyaf cyffredin – câi ei ystyried fel ymennydd ‘safonol’ o’r blaen.
Niwrolleiafrif: grŵp sy’n rhannu’r un gwahaniaeth.
Geirfa Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Prifysgol Efrog
-
Rhagor o wybodaeth
Adjust – Sefydliad sy’n tanio trafodaethau ynglŷn â niwrowahaniaeth yn y gweithle
Myfyrdodau Beirniadol ar Hil mewn Addysg Uwch - Prifysgol Wrecsam
Gofalwyr hŷn LHDTC+: Archwilio eu hanghenion iechyd a’u hanghenion cymdeithasol
‘Neurodiverse or Neurodivergent? It’s more than just grammar’
Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil – ‘Irlen’s, it’s not just black and white’
-
Diolch!
Mae trefnu’r digwyddiad Sbringfwrdd yn golygu ymdrech enfawr a hoffem ddiolch o galon i bawb sy’n gweithio mor galed i wireddu’r syniadau a’r cynlluniau i gyd. Fel y dywedodd rhywun rhywdro, does dim rhaid i ddiolchiadau fod yn hir, dim ond yn ddiffuant – ac yn ddi-os, mae’r diolch hwn yn fyr ond yn ddiffuant.