Polisi a Gweithdrefnau Prifysgol
Polisi a Gweithdrefnau Moeseg Ymchwil y Brifysgol
Mae Polisi Moeseg y Brifysgol yn berthnasol i'r holl staff a myfyrwyr sy'n cynnal ymchwil o dan adain y Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn gofyn bod yr holl ymchwil a wneir dan ei nawdd, sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, deunydd dynol, data personol, anifeiliaid, neu ymchwil, a all gael effaith ar yr amgylchedd, yn derbyn cymeradwyaeth moeseg ymchwil cyn dechrau'r ymchwil.
Dylai holl staff a myfyrwyr y Brifysgol gael eu harwain gan yr egwyddorion canlynol:
- Dylai ymchwil geisio gwella'r buddion i unigolion a chymdeithas a lleihau risg a niwed posibl. Dylid lliniaru'r holl risgiau a niwed posibl gyda rhagofalon llym a dylid rhybuddio'r holl gyfranogwyr cyn iddynt gymryd rhan.
- Lle bo'n bosibl, rhaid i holl gyfranogwyr ymchwil gymryd rhan yn wirfoddol, heb unrhyw orfodaeth na dylanwad gormodol. Dylid parchu a gwarchod eu hawliau, eu hurddas a'u hannibyniaeth mewn modd priodol.
- Rhaid parchu cyfrinachedd y wybodaeth a ddarperir gan gyfranogwyr ymchwil, ac anhysbysrwydd ymatebwyr. Lle bo'n bosibl, dylid gwneud data yn ddienw, a dylid cydymffurfio'n llawn ag egwyddorion Deddf Diogelu Data 2018. Gellir trafod data dim ond pan mae'r caniatâd i wneud hynny'n rhan o'r weithdrefn gydsynio.
- Dylid cynnal annibyniaeth ymchwil, ac os na ellir osgoi gwrthdaro buddiannau, dylid eu gwneud yn glir.
- Dylid dylunio, adolygu a gwneud ymchwil er mwyn sicrhau bod safonau uniondeb cydnabyddedig yn cael eu bodloni, ac y sicrheir ansawdd a gonestrwydd.
- Mae'n rhaid i'r ymchwil gyd-fynd â'r holl ofynion statudol perthnasol, a gofynion y sefydliad lle gwneir y gwaith ymchwil.
Gweithdrefnau Prifysgol
Mae gan y Brifysgol nifer o weithdrefnau y dylid eu darllen ochr yn ochr â Pholisi Moeseg Ymchwil y Brifysgol.
Ymchwil a Wneir y tu allan i'r DU
Dylai unrhyw ymchwil sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r DU, gan gynnwys gwledydd yr UE a’r AEE, sicrhau cymeradwyaeth moeseg ymchwil yn gyntaf gan bwyllgor moeseg ymchwil lleol cyn gwneud cais am gymeradwyaeth gan bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam
Mae hyn oherwydd bod barn yr hyn sy'n fethodolegau ymchwil sy'n dderbyniol yn foesegol yn dibynnu ar amgylchedd diwylliannol, gwleidyddol a rheoleiddiol y lleoliad lle cynhelir yr ymchwil. Mae ystyriaethau moesegol ymchwil, sut rydym yn cysyniadu syniadau hawliau unigol mewn ymchwil, a'r sensitif gwleidyddol a diwylliannol o fewn ymchwil yn amrywio ledled y byd.
- Gweithdrefn Cymeradwyo Moeseg Ymchwil ar gyfer Ymchwil a Wneir y tu allan i'r DU
- World Health Organisation list of International Research Ethics Committees
- The Office for Human Research Protections list annually of over 1,000 laws, regulations, and guidelines on human subject protections in over 100 countries.
- Guidance on completing a research ethics application for an overseas project W
Gwaith ymchwil a wnaed gydag Anifeiliaid
Mae Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986 (ASPA) yn rheoli unrhyw arbrofion neu weithdrefn wyddonol yn ymwneud ag anifail gwarchodedig a all gael effaith sy'n cynnwys achosi poen, dioddefaint, gofid neu niwed tymor hir i'r anifail. Mae angen tair trwydded gan yr ASPA cyn y gellir dechrau unrhyw waith gydag anifeiliaid a reoleiddir dan y ddeddf, ac mae'n rhaid cael Corff Sefydliadol Lles Anifeiliaid ac Adolygu Moesegol (AWREB) ar waith; Isod, gweler y tair trwydded gan y Swyddfa Gartref sydd eu hangen:
- trwydded bersonol ar gyfer pob unigolyn sy'n cwblhau triniaethau ar anifeiliaid
- trwydded prosiect ar gyfer y rhaglen waith
- trwydded sefydliad ar gyfer y lleoliad lle mae'r gwaith yn cael ei gwblhau
Mae'n drosedd, dan ASPA, i wneud gweithdrefnau rheoledig ar anifail gwarchodedig oni bai yr awdurdodir hynny gan drwydded bersonol, trwydded prosiect a thrwydded sefydliad.
Nid oes gan Brifysgol Wrecsam drwydded sefydliad nag AWERB ar waith; mae'r rhan fwyaf o ymchwil ar anifeiliaid, sy'n cael ei wneud gan ein hymchwilwyr a'n myfyrwyr, yn cynnwys gorchwylio anifeiliaid yn eu cynefinoedd naturiol.
- Gweithdrefn Moeseg Ymchwil ar gyfer gwaith a wneir gydag Anifeiliaid
- Replacement, Reduction and Refinement
- ASPA Guidance
Effaith andwyol bosib ar yr amgylchedd
Yn unol â Pholisi Moeseg Ymchwil y Brifysgol, mae'n rhaid i bwyllgor moeseg ymchwil perthnasol y Brifysgol gynnal adolygiad a chymeradwyo unrhyw ymchwil a all gael effaith amgylcheddol andwyol. Sylwer, mae'r weithdrefn hon yn ymwneud yn uniongyrchol â methodolegau a gweithgareddau ymchwil sy'n ymwneud â'r amgylchedd, yn hytrach na'r camau y gall unigolion eu cymryd fel rhan o'u bywydau gwaith dydd i ddydd. Gellir dod o hyd i ymrwymiadau a pholisïau'r Brifysgol, o ran yr amgylchedd a chynaliadwyedd, ar dudalennau Cynaliadwyedd y Brifysgol.
- Gweithdrefn Moeseg Ymchwil: Effaith andwyol bosib ar yr amgylchedd
- University Sustainability Procedures
- Legislation Update Service
Gwaith a wneir gyda Gweddillion Dynol.
Diffinnir 'gweddillion dynol' fel unrhyw ysgerbydau dynol cyflawn neu anghyflawn, neu samplau o ddeunyddiau biolegol sydd dros 100 oed a gedwir mewn amgueddfeydd a chasgliadau, neu'r rheiny sy'n ymddangos o ganlyniad i archwiliadau archaeolegol ac archwiliadau eraill.
Rhaid i ymchwil sy'n cael ei gynnal o dan nawdd Prifysgol Wrecsam sy'n cynnwys trin, dadansoddi dinistriol, neu ddelweddu digidol o weddillion dynol dderbyn cymeradwyaeth foesegol cyn i'r ymchwil ddechrau.
- Gweithdrefn Moeseg Ymchwil ar gyfer gwaith a wneir gyda Gweddillion Dynol.
- BABAO Code of Ethics
- BABAO guidance on digital imaging
- Guidance for Best Practice for the Treatment of Human Remains Excavated from Christian Burial Grounds in England
- Guidance for the Care of Human Remains in Museums
Adrodd Digwyddiadau Niweidiol ar astudiaethau a gymeradwywyd gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam
Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod rhai astudiaethau penodol sy'n ymwneud â chyfranogwyr dynol neu ddata personol yn cynnwys y risg y gallai digwyddiadau andwyol ddigwydd. Mae deddfwriaeth a fframweithiau llywodraethu'n bodoli i sicrhau bod asesu, monitro, ac adrodd am ddigwyddiadau andwyol yn cael eu diffinio'n glir er mwyn rhwystro a lliniaru digwyddiadau andwyol a hyrwyddo a diogelu diogelwch cyfranogwr.
Mae'r Brifysgol yn diffinio digwyddiad andwyol (DA) fel digwyddiad anffafriol yn ystod astudiaeth ymchwil a arweiniodd at neu a ellir fod wedi arwain at niwed, colled neu ddifrod anfwriadol neu annisgwyl. Dylai'r Prif Ymchwilydd neu Oruchwyliwr roi gwybod i'r Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol o fewn 10 diwrnod i'r digwyddiad andwyol ddigwydd.