Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol

Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol (UREC) yn gyfrifol am gael manylion ac ystyried yr agweddau moesegol ar brosiectau ymchwil y Brifysgol ble ystyrir bod graddau’r risg foesegol yn fwy na’r risg leiaf bosibl, a ble nad yw’r ymchwil yn dod yn gyfan gwbl o dan gylch gorchwyl corff adolygu arall.

Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod unwaith y mis i adolygu ceisiadau sy'n cael eu hystyried yn fwy na risg isel. Cadeirydd y Pwyllgor yw'r Athro Iolo Madoc-Jones ac mae'n cynnwys staff academaidd o bob rhan o'r Brifysgol ac aelodau lleyg allanol.

Cyfeiriwch at y dyddiadau cau isod a dyddiadau cyfarfodydd pwyllgor os gallai eich prosiect ymch wil fod o bosibl yn fwy na risg isel.

Siart Llif Cymeradwyo Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Dyddiadau'r Pwyllgor

Dydd Llun 7 Gorffennaf 2025

Dydd Mercher 6 Awst 2025

Dydd Llun 4 Awst 2025 Dydd Mercher 3 Medi 2025
Dydd Llun 1 Medi 2025 Dydd Mawrth 7 Hydref 2025
Dydd Llun 6 Hydref 2025 Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
Dydd Llun 3 Tachwedd 2025 Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025
Dydd Llun 1 Rhagfyr 2025 Dydd Mercher 7 Ionawr 2026
Dydd Llun 5 Ionawr 2026 Dydd Mawrth 3 Chwefror 2026
Dydd Llun 2 Chwefror 2026 Dydd Mercher 4 Mawrth 2026
Dydd Llun 2 Mawrth 2026 Dydd Iau 9 Ebrill 2026
Dydd Llun 6 Ebrill 2026 Dydd Mercher 6 Mai 2026
Dydd Llun 4 Mai 2026 Dydd Iau 4 Mehefin 2026
Dydd Llun 1 Mehefin 2026 Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2026
Dydd Llun 6 Gorffennaf 2026 Dydd Mercher 5 Awst 2026

 

Cylch Gorchwyl Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Brifysgol (UREC)

Adolygiad Cyflym

Adolygiad cyflym yw pan fydd cais yn gofyn am adolygiad pwyllgor llawn yn gyflym, dim ond mewn achosion eithriadol y bydd UREC yn caniatáu adolygiad cyflym sydd wedi'i gyfiawnhau'n glir. Gall eithriadau gynnwys gyrwyr allanol sydd y tu hwnt i reolaeth yr ymchwilydd. Rhaid cyflwyno cais am adolygiad cyflym i Gadeirydd y pwyllgor ochr yn ochr â'ch cais i rescadmin@wrexham.ac.uk.

Pwyllgorau Moeseg Ymchwil y Gyfadran

Mae Pwyllgorau Moeseg Ymchwil y Gyfadran yn gyfrifol am gael manylion ac ystyried yr agweddau moesegol ar brosiectau ymchwil y Brifysgol ble ystyrir bod graddau’r risg foesegol gyn ised â phosibl, a ble nad yw’r ymchwil yn dod yn gyfan gwbl o dan gylch gorchwyl corff adolygu arall.

Mae gan y Brifysgol ddau Bwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran. Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd yw'r Athro Mandy Robbins, ac  mae Dr Karen Heald yn cadeirio Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Mae gan y ddau bwyllgor aelodaeth amrywiol o staff academaidd o bob rhan o'r gyfadran.

Caiff ceisiadau a dderbynnir i Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran eu hadolygu o bell ac nid oes angen gwrandawiad arnynt mewn cyfarfod pwyllgor ffurfiol.

Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd - frec@Wrexham.ac.uk

Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg- FASTFREC@wrexham.ac.uk

Cylch Gorchwyl Pwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran (FREC)

Gweithdrefn Apelio

Gall ymchwilydd wneud apêl yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Moeseg Ymchwil Cyfadran, neu Brifysgol, sy'n ymwneud â'u cais yn seiliedig ar unrhyw rai o'r amodau canlynol, Os gwrthodir cais , mae'r amodau gofynnol yn annerbyniol i'r ymgeisydd am resymau ymchwil dilys

Gweler Gweithdrefn Apeliadau'r Brifysgol