.jpg)
Siarter Cydraddoldeb Hiliol Cynnydd Cynllun Gweithredu
Cynnydd a wnaed yn ystod Blwyddyn Academaidd 2025/2026
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Brifysgol wedi parhau i symud ei gwaith cydraddoldeb hil ymlaen o ymrwymiad i gamau gweithredu ymarferol, gyda ffocws mwy cryf ar weithrediad, atebolrwydd a phrofiad bywyd.
Cydnabuwyd ymdrechion y Brifysgol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau hiliol a chreu amgylchedd mwy cynhwysol gyda Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol.
Mae'r cynnydd wedi cynnwys atgyfnerthu llywodraethu a llais y myfyriwr, cynyddu ymgysylltu gyda dysgu cydraddoldeb hil a gwella arferion adrodd a recriwtio, datblygu adnoddau hygyrch, dathlu amrywiaeth ein cymuned Prifysgol ac adeiladu partneriaethau allanol cryfach.
Er bod cynnydd yn amlwg, mae dealltwriaeth gan fyfyrwyr a staff yn parhau i lunio ein blaenoriaethau, yn arbennig o amgylch ymwybyddiaeth ddiwylliannol, hyder a chreu profiad sy'n gyson gynhwysol ar draws y Brifysgol.
Llywodraethu, Arweinyddiaeth ac Atebolrwydd
- Gweithredu a monitro Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil y Brifysgol yn barhaus, gyda chynnydd yn cael ei adrodd amdano bob chwarter i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a'r Pwyllgor Pobl a Diwylliant.
- Mae'r Tîm Hunanasesu Siarter Cydraddoldeb Hil (REC SAT) wedi newid i fod yn Grŵp Gweithrediad Strategol Siarter Cydraddoldeb Hil (REC SIG), gan adlewyrchu'r symudiad o ddatblygu'r Siarter i roi'r Siarter ar waith. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn chwarterol ac yn cynnwys cynrychiolaeth o feysydd allweddol ar draws y Brifysgol ac Undeb y Myfyriwr, gan sicrhau bod llais myfyrwyr a staff yn sail i gynnydd.
- Mae cydraddoldeb hil wedi'i atgyfnerthu ar lefel Bwrdd, gyda throsolwg o weithgaredd, cynnydd a blaenoriaethau'r dyfodol yn cael eu hymgorffori i mewn I sesiwn gynefino Bwrdd y Llywodraethwyr.
- Mae'r Grŵp Cydraddoldeb Hil yn parhau i ddarparu gofod pwysig ar gyfer ymgysylltiad, her ac ymwneud staff yn llunio agwedd y Brifysgol at gydraddoldeb.
Llais y Myfyriwr, Profiad y Myfyriwr ac Adrodd
- Mae cyfranogiad yn yr arolwg myfyrwyr REC wedi cynyddu o 37 i 144 o ymatebion, cynnydd o 289%, gan ddarparu gwell dealltwriaeth i brofiadau myfyrwyr. Mae canfyddiadau wedi bod yn sail i ddiweddariadau i'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil, gydag ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn cael ei adnabod fel maes ar gyfer ffocws parhaus.
- Mae llwybrau adrodd mwy eglur bellach yn eu lle i fyfyrwyr a staff sy'n profi neu sy'n dyst i hiliaeth neu wahaniaethu. Gall pryderon myfyrwyr gael eu codi drwy system atgyfeirio GOFYN, lle maent yn cael eu cyfeirio at y gefnogaeth fwyaf priodol neu'r llwybr cwynion fwyaf priodol.
- Mae cynrychiolaeth o Undeb y Myfyrwyr ar REC SIG yn sicrhau bod llais y myfyriwr yn parhau i fod yn ganolog i waith cydraddoldeb hil y Brifysgol.
- Mae cydraddoldeb hil a thrawma hiliol wedi'u hymgorffori i mewn i hyfforddiant TrACE, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cydweithwyr yn Undeb y Myfyrwyr ar Hyrwyddwyr TrACE, gan adeiladu hyder wrth adnabod ac ymateb yn sensitif i brofiadau myfyrwyr.
Dysgu, Ymwybyddiaeth a Chymhwysedd Diwylliannol
- Mae dysgu am gydraddoldeb hil yn parhau i gael ei fewnosod ar draws y brifysgol, gyda 78% o staff yn cwblhau'r eDdysgu Cyflwyniad i Gydraddoldeb Hil.
- Mae rhaglen strwythuredig o ddatblygiad gwrth-hiliol bellach yn ei lle, gan gynnwys Hyfforddiant Herio Hiliaeth, Cyflwyniad i Gydraddoldeb Hil a Chymhwysedd Diwylliannol. Mae'r sesiwn Cymhwysedd Diwylliannol wedi ei threialu gyda 36 o staff a bydd yn cael ei mireinio cyn ei darparu i'r Brifysgol yn ehangach.
- Mae sesiynau Cyswllt Pobl a Diwylliant yn darparu cyfleoedd parhaus i rannu dysgu, arfer da a chynnydd, wedi'u halinio gyda digwyddiadau allweddol megis Wythnos Cydraddoldeb Hil a Mis Hanes Du. Mae 62 o staff wedi ymgysylltu gyda'r sesiynau hyn.
- Mae Canllaw Cyflym i Hiliaeth mewn AU wedi cael ei ddatblygu a'i rannu gyda staff a myfyrwyr, gan helpu pobl i gydnabod, ymateb ac adrodd am ddigwyddiadau gyda chymhelliad hiliol.
- Mae archwiliad bach cychwynnol wedi'i gwblhau, gyda chanfyddiadau'n cael eu hadolygu er mwyn bod yn sail i adnoddau yn y dyfodol a helpu i fewnosod a rhannu arfer da.
Recriwtio Cynhwysol, Cynrychiolaeth a Gwelededd
- Mae 75 o reolwyr llinell wedi cyfranogi mewn datblygiad recriwtio cynhwysol.
- Mae arferion a deunyddiau recriwtio wedi cael eu hadolygu er mwyn cefnogi Siarter Cydraddoldeb Hil y Brifysgol ac ymrwymiadau Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn cynnwys terminoleg monitro cydraddoldeb wedi'i diweddaru, swydd ddisgrifiadau a chwestiynau cyfweliad sy'n gysylltiedig â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ochr yn ochr â chanllawiau arferion da ymarferol ar gyfer recriwtio rheolwyr.
- Mae'r tudalennau recriwtio hefyd wedi cael eu hatgyfnerthu er mwyn darparu mwy o eglurder i ymgeiswyr gan roi gwell adlewyrchiad o ymrwymiad y Brifysgol i ddiwylliant cynhwysol.
- Gan weithio gyda'r Tîm Marchnata, mae llyfrgell ddelweddau amrywiol wedi'i chreu er mwyn cryfhau cynrychiolaeth gyda chyfathrebiadau staff, myfyrwyr a darpar ymgeiswyr.
- Mae'r Tîm Ymchwil ac OD & D yn cymryd agwedd fwy rhagweithiol at adnabod a rhannu cyflawniadau staff, gan gynnwys cyfraniadau ymchwil a phrosiect cydweithwyr o Leiafrifoedd Ethnig, gan helpu i gynyddu gwelededd, dathlu amrywiaeth a dangos diwylliant cynhwysol y Brifysgol.
Adnoddau, Cyfathrebu a Dathlu Ein Cymuned
- Mae Pecyn Cymorth Gwrth-hiliol y Brifysgol a Hwb EDI yn parhau i dyfu, gan ddwyn ynghyd ganllawiau ymarferol, adnoddau dysgu, cefnogaeth fewnol ac allanol, hyfforddiant, rhwydweithiau, gweithgareddau tîm, siaradwyr gwadd a chalendr digwyddiadau diwylliannol. Mae cynnwys perthnasol hefyd yn cael ei addasu er mwyn datblygu adnoddau ar gyfer myfyrwyr a phecyn cymorth gwrth-hiliol.
- Darparodd y Grŵp Cydraddoldeb Hil ddigwyddiad picnic diwylliannol a chwaraeon Mis Treftadaeth De Asia, gan ddod â staff a myfyrwyr ynghyd i rannu bwyd a chymryd rhan mewn gweithgareddau traddodiadol. Bu i'r digwyddiad ddenu 12 o gyfranogwyr, gyda'r gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol cysylltiedig yn cyrraedd 289 o ddilynwyr.
- Darparodd y fenter Mantell y Gymuned ffordd greadigol i staff a myfyrwyr adfyfyrio ar yr hyn mae cymuned yn ei olygu iddynt hwy. Wedi'i harddangos ar draws campysau'r Brifysgol a'i hyrwyddo'n ddigidol, fe wnaeth yr ymgyrch annog cyfraniadau drwy gardiau post, Wal Mantell Gymunedol ar-lein ac adfyfyriadau a ychwanegwyd yn uniongyrchol at y Fantell. Cyrhaeddodd gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol 926 o gyfrifon, gyda'r fideo cysylltiedig yn cael 59 edrychiad.
Noddfa, Partneriaeth ac Ymgysylltiad Cymunedol
- Mae cymeradwyaeth wedi'i roi i symud cais y Brifysgol ar gyfer statws Prifysgol Noddfa yn ei flaen wedi'i gymeradwyo, gyda'r dyddiad cyflwyno wedi'i gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr 2026.
- Er mwyn cefnogi ymwybyddiaeth ehangach o noddfa ac ymfudo, cafodd Canllaw Cyflym i Ymfudwyr, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid ei ddatblygu a'i rannu gyda staff a myfyrwyr yn ystod Wythnos Ffoaduriaid, gan ddarparu gwybodaeth hygyrch a chyfeirio at gefnogaeth leol ac allanol.
- Mae perthnasoedd gyda sefydliadau cymunedol, gan gynnwys Hwb Amlddiwylliannol Wrecsam, EYST, Race Equality First a phartneriaid cydlyniad cymunedol, yn parhau i gael eu hatgyfnerthu drwy weithgaredd cydweithredol, digwyddiadau cymunedol a mynediad at ofodau a gwasanaethau'r Brifysgol.
- Mae'r gwaith Prifysgol Noddfa'n cyd-fynd gyda'r partneriaethau hyn, gan gynorthwyo'r Brifysgol i adeiladu perthnasoedd cryfach gyda'i chymunedau lleol amrywiol a chefnogi ei chyfraniad at ddyhead ehangach Cenedl Noddfa.
Blaenoriaethau ar gyfer 2026/2027
Bydd cam nesaf y gwaith yn canolbwyntio ar:
- Darpariaeth a monitro parhaus o'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil drwy REC SIG.
- Darparu'r Arolwg REC Staff nesaf a chymhwyso dysgu o'r ymgysylltiad arolwg myfyriwr cynyddol.
- Atgyfnerthu cyfathrebiadau ynghylch llwybrau adrodd, gan gynnwys gwybodaeth fwy eglur ynghylch "beth sy'n digwydd nesaf" pan mae pryderon yn cael eu codi.
- Adolygu data ar draws prosesau myfyrwyr ehangach er mwyn deall yn well ble mae profiadau o wahaniaethu'n cyflwyno eu hunain.
- Parhau gyda datblygiad cydraddoldeb hil wedi'i dargedu ac sy'n seiliedig ar dimau er mwyn meithrin hyder cydweithwyr wrth drafod a herio hiliaeth.
- Cynyddu'r pwyslais ar fesur deilliannau a thraweffaith, ochr yn ochr â monitro cwblhau gweithgareddau.
- Datblygiad parhaus o'r Pecyn Cymorth Gwrth-hiliol a Hwb EDI ar gyfer staff a myfyrwyr fel ei gilydd.
- Atgyfnerthu ymgysylltiad gyda MO:SAIC, y Grŵp Cydraddoldeb Hil a phartneriaid cymunedol allanol.
- Symud y cais y Brifysgol fel Prifysgol Noddfa yn ei flaen tuag at gyflwyno ym mis Rhagfyr 2026.
- Parhau i fewnosod ystyriaethau cydraddoldeb hil o fewn recriwtio, cynnydd, profiad y myfyriwr a gwneud penderfyniadau sefydliadol.