(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Raglennu

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025, 2026
Hyd y cwrs
10 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae'r cwrs hwn yn berffaith i ehangu eich sgiliau cyfrifiadura technegol drwy archwilio iaith raglennu gyflwyniadol. Mae'r cwrs hwn wedi ei anelu at fagu eich hyder o ran rhaglennu, a bydd yn mynd i'r afael â sawl agwedd fel strwythur a chystrawen, cyn canolbwyntio ar hanfodion cyfrifiadurol a rhaglennu.
Gallwch ymgymryd â'r cwrs hwn fel cyflwyniad neu fel llwyfan i archwilio opsiynau astudio yn y dyfodol yn y maes Cyfrifiadura a rhaglennu.
Prif nodweddion y cwrs
- Cwrs ar-lein dros 10 wythnos
- Astudiaeth gyfeiriedig a chymorth i'ch helpu i weithio drwy'r cwrs
- Datblygu eich gallu technegol o ran rhaglennu
- Gwella eich hyder wrth ddefnyddio pecynnau rhaglennu
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y cwrs hwn yn mynd i'r afael ag ystod o bynciau, gan gynnwys:
- Cyflwyniad i Python ac Anaconda
- Newidion a Mathau o Ddata
- Gweithio gyda Rhifau a Llinynnau
- Cael Mewnbwn gan y defnyddiwr
- Rhestrau a Phlygion
- Swyddogaethau a Dychwelyd
- Datganiadau Os
- Dolenni Profi ac Arbrofi
- Dolenni o fewn Dolenni
- Darllen ac Ysgrifennu i Ffeiliau
- Cyflwyniad i Wrthrychau a Dosbarthiadau
Addysgu ac Asesu
Asesiad: Bydd asesiad y cwrs hwn yn cynnwys darnau o waith cwrs sy'n canolbwyntio ar feysydd unigol o arbenigedd o fewn gweithgareddau IDE a rhaglennu.
Ffioedd a chyllid
AM DDIM
Dyddiadau’r cwrs
Dyddiadau’r cwrs:
- Dydd Llun 6 Hydref 2025 - Archebwch Nawr
- Dydd Llun 2 Chwefror 2026 - Archebwch Nawr
Mae dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein yn annibynnol bob wythnos yn eu hamser eu hunain.