Students doing a practical activity for the course

Manylion cwrs

Côd UCAS

X123

Blwyddyn mynediad

Medi 2026, Medi 2027

Hyd y cwrs

3 BL (Llawn-Amser)

Tariff UCAS

112

Côd y sefydliad

S64

Lleoliad

Wrecsam

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r rhaglen hon gan Brifysgol y Santes Fair yn cael ei chyflwyno ym Mhrifysgol Wrecsam. Dros dair blynedd rydych yn paratoi i addysgu plant oed cynradd, gyda phrofiad ysgol yng Nghymru a Lloegr. Pan fyddwch yn cwblhau'r gofynion proffesiynol, cewch eich argymell ar gyfer Statws Athro Cymwysedig yn Lloegr.

St Marys White Logo

Paratoi i addysgu yng Nghymru a Lloegr

Mae eich hyfforddiant yn eich cyflwyno i Gwricwlwm Cenedlaethol Lloegr a Chwricwlwm i Gymru. Mae profiadau ysgol yng Nghymru a Lloegr yn eich galluogi i arsylwi a chymryd rhan mewn lleoliadau addysgol gwahanol, wrth ddatblygu gwybodaeth sy'n berthnasol i gyflogaeth ar ddwy ochr y ffin.

Cael profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth bob blwyddyn

Mae profiad ysgol wedi'i ymgorffori drwy gydol y cwrs tair blynedd. Trefnir lleoliadau gan dîm y rhaglen, gyda chefnogaeth gan athrawon profiadol, mentoriaid ysgol a thiwtoriaid y brifysgol.

Byddwch yn symud ymlaen o arsylwi arfer sefydledig yn yr ystafell ddosbarth ac addysgu grwpiau bach i gynllunio gwersi a chymryd cyfrifoldeb cynyddol am addysgu dosbarth cyfan.

Dysgu gan weithwyr addysg proffesiynol profiadol

Byddwch yn cael eich addysgu gan ymarferwyr addysg profiadol sy'n weithredol ym maes ymchwil. Mae'r addysgu'n cysylltu theori addysg ag ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, gan eich helpu i ddeall sut mae plant yn dysgu a sut mae athrawon yn cynllunio, addysgu, asesu ac addasu dysgu.

Archwilio'r cwricwlwm cynradd cyfan

Byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau addysgu sydd eu hangen ar draws y cwricwlwm cynradd craidd a'r cwricwlwm ehangach, gan gynnwys:

  • Saesneg
  • mathemateg
  • gwyddoniaeth
  • addysg gorfforol
  • ieithoedd tramor modern
  • celf
  • drama
  • cerddoriaeth
  • hanes
  • addysg grefyddol
  • daearyddiaeth
  • cyfrifiadura
  • dylunio a thechnoleg

Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau Cymraeg a'ch dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru, treftadaeth a Chwricwlwm i Gymru.

Datblygu ymarfer addysgu cynhwysol

Mae cynhwysiant, cydraddoldeb a diwallu anghenion dysgu unigol wedi'u hymgorffori drwy gydol y cwrs. Byddwch yn ystyried sut i addasu addysgu ar gyfer disgyblion gwahanol, gan gynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol.

Gall cyfleoedd cyfoethogi gynnwys profiadau ysgol sy'n canolbwyntio ar AAA neu ADY, yn amodol ar argaeledd.

Dilyn eich diddordebau

Mae modiwlau dewisol ac astudio pwnc penodol yn eich galluogi i ddatblygu meysydd diddordeb arbennig. Gall y cyfleoedd hyn eich helpu i gryfhau eich gwybodaeth bwnc a dechrau paratoi ar gyfer cyfrifoldebau yn y dyfodol, fel arweinyddiaeth pwnc, datblygu cwricwlwm neu addysgu arbenigol.

A wyddoch chi?

Drwy astudio gradd a Addysg Gynradd gyda SAC Mhrifysgol Wrecsam, cewch fynediad i fuddion unigryw wedi’i llunio i’ch helpu i lwyddo

Ceir profiad ar draws Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2

yng nghwricwla cynradd Cymru a Lloegr gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ôl-gymhwyso

5 uchaf

yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr*

5 uchaf

yn y DU ar gyfer Addysgu*

Two teachers at a table working

Addysg Mhrifysgol Wrecsam

Prif nodweddion y cwrs

  •           Mae'r Santes Fair wedi masnachfreinio'r rhaglen lwyddiannus hon er mwyn galluogi myfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
  • Barnir bod cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon Cynradd y Santes Fair yn 'rhagorol' gan Ofsted, sef y radd uchaf y gellir ei chael mewn arolygiad Ofsted.
  • Darlithoedd gan ymarferwyr profiadol, arbenigol, sy'n weithredol ym maes ymchwil, gan sicrhau bod eich dysgu wedi'i seilio ar theori academaidd ac ar ymarfer go iawn yn yr ystafell ddosbarth.
  • Mae cyfleoedd cyfoethogi ar gael, fel lleoliadau penodol ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAA) ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY), i ehangu eich dealltwriaeth a chryfhau eich cyflogadwyedd.
  • Dewis o fewn pynciau yn yr ail flwyddyn, sy'n eich galluogi i arddangos eich talentau a dilyn eich diddordebau penodol.
  • Cesglir profiad ar draws cwricwla cynradd Cymru a Lloegr, gan gynnig cyfleoedd rhagorol ar gyfer cyflogaeth ar ôl cymhwyso yn y ddau leoliad.

Beth fyddwch chin ei astudio

Beth fyddwch chi'n ei astudio?

Mae eich astudiaethau'n cyfuno theori addysg, gwybodaeth bwnc, datblygiad proffesiynol a phrofiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth.

Gall teitlau ac argaeledd modiwlau newid i adlewyrchu gofynion proffesiynol ac adolygiad o'r rhaglen.

Blwyddyn 1

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dechrau datblygu'r wybodaeth bwnc, y ddealltwriaeth broffesiynol a'r sgiliau ystafell ddosbarth sydd eu hangen ar athro cynradd.

Bydd eich astudiaethau'n eich cyflwyno i sut mae plant yn dysgu, cyfrifoldebau athrawon a'r berthynas rhwng cynllunio, addysgu ac asesu. Byddwch yn astudio pynciau craidd ochr yn ochr â'r cwricwlwm cynradd ehangach ac yn dechrau datblygu eich sgiliau Cymraeg.

Profiad Ysgol 1

Yn gynnar yn y flwyddyn academaidd, byddwch yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn yr ysgol am bedair wythnos. Dilynir hyn gan leoliad llawn amser o bedair wythnos.

Byddwch yn arsylwi arfer effeithiol yn yr ystafell ddosbarth ac yn gweithio gydag athrawon dosbarth i baratoi gweithgareddau sy'n ymateb i anghenion disgyblion. Mae profiad cyfoethogi diweddarach yn rhoi cyfleoedd pellach i chi archwilio Cyfnod Allweddol 1, llythrennedd cynnar a mathemateg.

Astudiaethau Proffesiynol 1: Addysgu a Dysgu

Archwiliwch sut mae plant yn datblygu ac yn dysgu, archwiliwch ddamcaniaethau addysgol dylanwadol ac ystyriwch gyfrifoldebau proffesiynol athro. Byddwch yn dechrau datblygu eich gallu i gynllunio, addysgu a gwerthuso dysgu o fewn amgylchedd ystafell ddosbarth ysgogol a diogel.

Modiwlau'r cwricwlwm cynradd

Byddwch yn astudio:

  • Saesneg Craidd 1
  • Mathemateg Craidd 1
  • Gwyddoniaeth Craidd 1
  • Addysg Gorfforol Graidd 1
  • Ieithoedd Tramor Craidd 1
  • Y Cwricwlwm Ehangach: Mynegiant
  • Y Cwricwlwm Ehangach: Cyfathrebu
  • Y Cwricwlwm Ehangach: Arloesi
  • Archwiliadau Gwybodaeth Bwnc Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth 1
  • Cymraeg Sylfaenol i Ymarferwyr Addysgol

Blwyddyn 2

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o ymarfer cynhwysol, cynllunio cwricwlwm a dysgu trawsgwricwlaidd.

Byddwch yn parhau i gryfhau eich gwybodaeth o Saesneg, mathemateg, gwyddoniaeth, addysg gorfforol ac ieithoedd tramor, wrth archwilio meysydd diddordeb a ddewiswyd gennych drwy astudio dewisol.

Profiad Ysgol 2

Mae'r lleoliad llawn amser hwn o saith wythnos yn eich galluogi i gymryd mwy o gyfrifoldeb am gynllunio ac addysgu. Gyda chefnogaeth staff yr ysgol, byddwch yn defnyddio dulliau ac adnoddau addysgu gwahanol i helpu disgyblion i gymryd rhan, symud ymlaen a chyflawni.

Astudiaethau Proffesiynol 2: Gwerthfawrogi Dysgwyr fel Unigolion

Archwiliwch gydraddoldeb, cynhwysiant a phwysigrwydd cydnabod anghenion dysgu unigol. Byddwch yn datblygu dulliau o gynllunio, addysgu ac asesu sy'n cefnogi amrywiaeth o ddisgyblion.

Modiwlau'r cwricwlwm cynradd a modiwlau dewisol

Byddwch yn astudio:

  • Saesneg Craidd 2
  • Mathemateg Craidd 2
  • Gwyddoniaeth Craidd 2
  • Addysg Gorfforol Graidd 2
  • Ieithoedd Tramor Craidd 2
  • Dysgu Trawsgwricwlaidd
  • Archwiliadau Gwybodaeth Bwnc Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth 2
  • Yr Ystafell Ddosbarth a Thu Hwnt
  • Gweithio Heb Daflenni Gwaith
  • Y Gymraeg a Chwricwlwm i Gymru i Ymarferwyr Addysgol

Mae'r modiwl Cymraeg a Chwricwlwm i Gymru yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth ymarferol am Gwricwlwm i Gymru a deall sut mae'n wahanol i Gwricwlwm Cenedlaethol Lloegr. Byddwch hefyd yn parhau i ddatblygu eich hyder i ddefnyddio Cymraeg achlysurol mewn lleoliadau cynradd.

Blwyddyn 3

Mae eich blwyddyn olaf yn cryfhau eich gwybodaeth broffesiynol a'ch ymarfer yn yr ystafell ddosbarth wrth i chi baratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau athro ar ddechrau ei yrfa.

Byddwch yn archwilio dilyniant ac asesu ar draws y cwricwlwm cynradd, yn cwblhau eich profiad ysgol olaf ac yn ymgymryd â phrosiect ymchwil personol.

Profiad Ysgol 3

Mae eich lleoliad llawn amser olaf o wyth wythnos yn eich galluogi i gryfhau eich ymarfer yn yr ystafell ddosbarth ac i ddangos eich cynnydd tuag at Safonau'r Athrawon.

Byddwch yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am gynllunio, addysgu, asesu ac ymateb i anghenion dysgu disgyblion.

Astudiaethau Proffesiynol 3: Hyrwyddo Dilyniant

Datblygwch eich dealltwriaeth o asesiad ffurfiannol a chrynodol, adborth effeithiol a gosod targedau. Byddwch yn ystyried sut mae athrawon yn defnyddio gwybodaeth asesu i gefnogi dysgu a dilyniant disgyblion.

Cwricwlwm cynradd, ymchwil ac astudiaeth arbenigol

Byddwch yn astudio:

  • Saesneg Craidd 3
  • Mathemateg Craidd 3
  • Gwyddoniaeth Craidd 3
  • Addysg Gorfforol Graidd 3
  • Ieithoedd Tramor Craidd 3
  • Archwiliadau Gwybodaeth Bwnc Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth 3
  • Prosiect Ymchwil Personol mewn Addysg Gynradd
  • Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth Bwnc mewn Pwnc Ffocws
  • Cymraeg Dilyniant i Ymarferwyr Addysgol

Mae eich prosiect ymchwil yn eich galluogi i ymchwilio i faes addysg gynradd sydd o ddiddordeb i chi ac i gysylltu ymchwil addysg ag ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Fel arfer bydd angen y canlynol arnoch:

  • 112 o bwyntiau tariff UCAS o gymwysterau Lefel 3
  • TGAU Iaith Saesneg gradd 4/C neu uwch, neu gyfwerth a dderbynnir
  • TGAU mathemateg gradd 4/C neu uwch, neu gyfwerth a dderbynnir
  • TGAU gwyddoniaeth gradd 4/C neu uwch, neu gyfwerth a dderbynnir
  • gwiriad datgelu a gwahardd manylach boddhaol
  • cadarnhad eich bod yn bodloni'r gofynion iechyd a ffitrwydd corfforol a meddyliol ar gyfer addysgu
  • cwblhau'r broses ddethol a'r cyfweliad yn llwyddiannus

Mae Prifysgol y Santes Fair yn cynnig profion cyfwerthedd TGAU. Gwiriwch y canllawiau derbyn cyfredol am gymwysterau a dderbynnir, trefniadau cyfwerthedd ac unrhyw ddyddiadau cau.

Sut i ymgeisio

Er y byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Wrecsam, rhaglen fasnachfraint gan Brifysgol y Santes Fair yw hon. Rhaid i chi felly ymgeisio drwy UCAS gan ddefnyddio:

  • Sefydliad: Prifysgol y Santes Fair
  • Cod sefydliad: S64
  • Cod cwrs: X123
  • Cod campws: G ar gyfer Prifysgol Wrecsam

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis campws Wrecsam wrth gwblhau eich cais.

Nid yw'r cwrs hwn yn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd.

Addysgu ac Asesu

Sut fyddwch chi'n dysgu

Mae addysgu'n defnyddio dulliau ymarferol a rhyngweithiol i'ch helpu i gysylltu theori addysg ag ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.

Gall eich dysgu gynnwys:

  • darlithoedd
  • seminarau
  • gweithdai ymarferol
  • gweithgareddau grŵp
  • lleoliadau ysgol
  • astudio annibynnol
  • datblygu gwybodaeth bwnc
  • ymarfer proffesiynol myfyriol
  • gweithgareddau Hyfforddiant a Phractis Dwys

Yn ystod Hyfforddiant a Phractis Dwys, byddwch yn archwilio egwyddorion addysgu dethol sy'n seiliedig ar dystiolaeth cyn eu hymarfer a'u cymhwyso o fewn eich ymarfer datblygol yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd gennych hefyd fynediad at gymorth sgiliau academaidd, gan gynnwys help gydag ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau a pharatoi aseiniadau.

Sut fyddwch chi'n cael eich asesu

Gall dulliau asesu gynnwys:

  • traethodau
  • rhesymu myfyriol
  • portffolios
  • cynlluniau gwersi
  • cyflwyniadau
  • datblygu adnoddau addysgu
  • archwiliadau gwybodaeth bwnc
  • profiad ysgol
  • ymgysylltu proffesiynol a phresenoldeb
  • prosiect ymchwil personol

Caiff eich profiad ysgol ei asesu yn erbyn Safonau'r Athrawon. Rhaid i chi gwblhau gofynion academaidd a phroffesiynol y rhaglen yn llwyddiannus er mwyn graddio a chael eich argymell ar gyfer SAC.

Rhagolygon gyrfaol

Mae cwblhau'r cwrs a'i ofynion proffesiynol yn llwyddiannus yn eich paratoi i ddechrau eich gyrfa fel athro ysgol gynradd.

Caiff SAC a ddyfernir yn Lloegr ei gydnabod yn awtomatig yng Nghymru. I weithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Gall eich profiad o ysgolion a chwricwla yng Nghymru a Lloegr gefnogi cyfleoedd cyflogaeth ar draws y rhanbarth ar y ffin.

Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, gallech symud i feysydd fel:

  • addysgu ysgol gynradd
  • arweinyddiaeth pwnc neu gwricwlwm
  • anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol
  • rolau bugeiliol neu gynhwysiant
  • arweinyddiaeth addysgol
  • datblygu cwricwlwm
  • ymchwil addysg
  • astudio ôl-raddedig mewn addysg

Gall tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Wrecsam eich cefnogi gyda chynllunio gyrfa, ceisiadau a datblygiad proffesiynol.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Llety

Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas! 

Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych. 

Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref. 

Cwestiynau cyffredin

Pwy sy'n cyflwyno ac yn dyfarnu'r radd Addysg Gynradd gyda SAC?

Cyflwynir y rhaglen ym Mhrifysgol Wrecsam drwy bartneriaeth masnachfraint gyda Phrifysgol y Santes Fair, Twickenham. Mae ymgeiswyr yn ymgeisio i'r Santes Fair drwy UCAS ac yn dewis Prifysgol Wrecsam fel eu campws.

Gwiriwch delerau ac amodau cyfredol y cwrs i gadarnhau'r sefydliad cofrestru a'r sefydliad a enwir ar y dystysgrif radd derfynol.

A yw'r radd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig?

Pan fyddwch yn cwblhau'r radd a'r holl ofynion hyfforddiant proffesiynol yn llwyddiannus, cewch eich argymell ar gyfer dyfarniad SAC yr Adran Addysg yn Lloegr.

A allaf i addysgu yng Nghymru gyda SAC a ddyfernir yn Lloegr?

Caiff SAC a ddyfernir yn Lloegr drwy ddarparwr achrededig ei gydnabod yn awtomatig yng Nghymru. Rhaid i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd cyn gweithio fel athro ysgol mewn ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir yng Nghymru.

A fydda i'n cwblhau lleoliadau ysgol?

Byddwch. Mae profiad ysgol yn digwydd ym mhob blwyddyn o'r cwrs. Trefnir lleoliadau gan dîm y rhaglen, ac maent yn cynnwys cyfleoedd i gael profiad mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr.

A oes angen i mi siarad Cymraeg?

Nid yw'r gofynion mynediad a gyhoeddwyd yn nodi bod rhaid i ymgeiswyr siarad Cymraeg eisoes. Mae'r Gymraeg, treftadaeth a diwylliant wedi'u cynnwys yn y cwrs, gan eich helpu i ddatblygu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad addysg gynradd.

Pa grŵp oedran mae'r cwrs yn fy mharatoi i'w addysgu?

Mae'r radd yn eich paratoi i addysgu plant rhwng pump ac 11 oed ar draws Cyfnod Allweddol 1 a Chyfnod Allweddol 2.

Pa TGAU sydd eu hangen arnaf?

Mae angen TGAU Iaith Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth gradd 4/C neu uwch, neu gyfwerth a dderbynnir. Mae Prifysgol y Santes Fair yn cynnig profion cyfwerthedd; gwiriwch y gofynion cyfredol a'r dyddiadau cau cyn ymgeisio.

A all myfyrwyr rhyngwladol ymgeisio?

Mae tudalen gyfredol y cwrs ym Mhrifysgol Wrecsam yn nodi nad yw'r cwrs hwn yn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Gwiriwch y dudalen eto cyn ymgeisio, gan y gall argaeledd recriwtio newid.

Peidiwch â Cholli Allan Ar Ymweld â Ni.

Gallwch chi ymuno â ni o hyd yn ein Diwrnod Agored nesaf. Dewch i gwrdd â'n  hacademyddion, sgwrsio â myfyrwyr presennol ac archwilio ein campws. Dyma'ch cyfle i ddarlunio'ch dyfodol yma.

10 Hydref 2026

Israddedig
Archebwch Nawr

21 Tachwedd 2026

Israddedig
Archebwch Nawr