Renewable engineering students with solar panels

Manylion cwrs

Côd UCAS

RS23

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

4 BL (LlA) 5 BL (gyda lleoliad)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Darlithwyr â

phrofiad yn y diwydiant sy’n ymhél â gwaith ymchwil yn ymwneud â chynaliadwyedd.

Ymweliadau â chwmnïau

diwydiannol lleol, yn cynnwys safleoedd ynni’r haul, ynni dŵr ac ynni’r gwynt.

Cysylltiadau â’r diwydiant

Tai Clwyd Alyn, Dragon Drilling, Scottish Power.

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd y cwrs hwn yn cynnig y sgiliau a’r wybodaeth drylwyr y byddwch eu hangen i fod ar flaen y gad yn y maes peirianneg ynni adnewyddadwy. Bydd graddedigion mewn sefyllfa dda i ddatblygu’n arbenigwyr yn y diwydiant ynni adnewyddadwy a sero net, neu ddilyn gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.

Bydd y rhaglen hon o fudd i fyfyrwyr sy’n dymuno bod yn rhan o’r ateb ar gyfer newid hinsawdd, oherwydd bydd yn ymdrin ag amryfal elfennau’n ymwneud â’r chwyldro sero net.

Mae’r cwrs MEng yn cynnwys Prosiect a Lleoliad Diwydiannol sy’n anelu at wneud y canlynol:

  • Rhoi cyfle i fyfyrwyr ymarfer gweithgareddau’n ymwneud â rheoli tasgau a datrys problemau, sef gweithgareddau a ddaw i ran peirianwyr proffesiynol, ynghyd ag archwilio syniadau gwreiddiol.
  • Rhoi cyfle i’r myfyriwr gymhwyso ac ymestyn y dulliau, y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth a enillodd yn ystod gwahanol rannau o’r rhaglen fel y gall ddatblygu a gwerthuso dyluniad gwreiddiol o system neu gynnyrch peirianneg.
  • Meithrin yr wybodaeth a’r sgiliau, trwy gyfranogi a thrwy brofiad, fel y gellir dod o hyd i atebion i broblemau gwirioneddol yn y maes peirianneg tra’n gweithio fel aelod o dîm yn y byd diwydiant.

Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam

Meddwl am yrfa mewn Peirianneg? Clywch gan ddarlithwyr a myfyrwyr am ein graddau Peirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam.

Prif nodweddion y cwrs

Modiwlau arbenigol yn y meysydd canlynol:

  • Peirianneg Ynni’r Gwynt ac Ynni Dŵr
  • Peirianneg solar, biomas a storio ynni
  • Gridiau clyfar, storio ynni a chymysgedd ynni
  • Cyfleuster prototeipio cyflym (dull dyddodi ymdoddedig)
  • Cynnal arbrofion mewn labordy yn ymwneud ag ynni’r gwynt, ynni’r haul ac ynni dŵr.
  • Byddwch yn gallu defnyddio pecynnau meddalwedd o safon ddiwydiannol megis RetScreen, Altium Designer, Multisim, HP VEE, MATLAB & Simulink, Abaqus, AutoCAD, Fluent, Pro Engineer, SolidWorks.

Beth fyddwch chin ei astudio

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Rhoddir gwybodaeth a sylfaen dda i’r myfyrwyr, gan gynnig y ‘darlun mawr’ o ran cynhyrchu ynni, mathemateg, a sgiliau peirianneg. Mae’r modiwl yn cynnwys:

  • Cynaliadwyedd a Systemau Ynni’r Dyfodol
  • Mathemateg Peirianneg
  • Cyflwyniad i Wyddoniaeth Drydanol a Pheirianneg Fecanyddol
  • CAD a Gwyddoniaeth Cynhyrchu
  • Datblygiad Proffesiynol mewn Peirianneg
  • Deunyddiau ac Amgylchedd

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Modiwlau mwy arbenigol yn ymwneud â pheirianneg gwynt, solar a biomas, a chyflwyniad i ymchwil.

  • Peirianneg Ynni’r Gwynt ac Ynni Dŵr
  • Peirianneg Ynni’r Haul a Biomas
  • Dyfodol Peirianneg – Ymchwil, Moeseg a Chynaliadwyedd
  • Mathemateg Peirianneg Uwch
  • Mecaneg, Strwythurau ac FEA
  • Peirianneg Pŵer Trydanol

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

  • Lleoliad dewisol yn y byd diwydiant
  • Prosiect neu Leoliad Diwydiannol


Blwyddyn 4 (Lefel 6)

Bydd modd i’r myfyriwr arbenigo mewn disgyblaeth o’i ddewis ei hun gyda’r prosiect ynghyd â dilyn modiwlau arbenigol mewn electroneg ac arbed ac ailgylchu ynni.

Prosiect

  • Gridiau Clyfar, Storio Ynni a Chymysgedd Ynni
  • Modelu Peirianneg Fecanyddol ac Efelychu (opsiwn)
  • Modelu Peirianneg Drydanol ac Electronig ac Efelychu (opsiwn)
  • Systemau Arbed Ynni, Carbon Isel ac Ailgylchu (opsiwn)
  • Electroneg Pŵer a Pheiriannau Trydanol (opsiwn)

Blwyddyn 5 (Lefel 7)

Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd y myfyriwr yn mynd i’r afael â gwaith ymchwil ac astudiaeth hunangyfeiriedig.

  • Newid Hinsawdd, Canlyniadau, Atebion a Pholisïau
  • Cynaliadwyedd a Lleihau Ynni
  • Prosiect Dylunio mewn Grŵp
  • Modelu Systemau Peirianneg Fecanyddol ac Efelychu (opsiwn)
  • Modelu Systemau Peirianneg Drydanol ac Electronig ac Efelychu (opsiwn)
  • Technoleg Adnewyddadwy a Pheirianneg Integreiddio Storio (opsiwn)
  • Dylunio Systemau E Ddeallus a Pheirianneg Rheolaeth (opsiwn)
  • Dylunio gyda Chyfansoddion – Theori ac Ymarfer (opsiwn)

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

I gael mynediad uniongyrchol i Lefel 6 y rhaglen, rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill cymhwyster ar Lefel 5 neu well mewn disgyblaeth berthnasol. Caniateir mynediad i’r rhaglen i fyfyrwyr sy'n gallu cyflwyno un o'r darnau o dystiolaeth a restrir isod:

a) Wedi pasio Dip AU mewnbwn disgyblaeth berthnasol.
b) Wedi pasio DUT Ffrengig
c) Wedi cyflawni o leiaf 120 o gredydau ECTS mewn disgyblaeth berthnasol.
d) Wedi pasio Gradd Sylfaen neu HND mewn disgyblaeth gywasgedig.
e) Wedi pasio cymhwyster o’r UE neu gymhwyster cyfatebol o wlad dramor arall sy’n cyfateb i NARIC, i DipHE neu well mewn disgyblaeth berthnasol.

Gall ymgeiswyr ymuno â'r rhaglen ar wahanol lefelau gyda Chydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) neu Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol drwy Brofiad (RPEL) yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y Brifysgol.

Addysgu ac Asesu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o'u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd fel ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau yn effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu i ddelio ag agweddau ymarfer gwaith prifysgol. Mae mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn ein hadran cymorth i fyfyrwyr.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol  ddarparu arweiniad a chymorth priodol pe bai angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyrwyr oherwydd anabledd cyffredinol cydnabyddedig, cyflwr meddygol, neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Bydd y rhaglen hon yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer gyrfa’n ymwneud ag Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwyedd, megis:

  • Swyddogion ynni
  • Peirianwyr grid trydanol
  • Peirianwyr tyrbinau gwynt
  • Peirianwyr dŵr
  • Swyddogion / peirianwyr cynaliadwyedd
  • Ymgynghorwyr carbon isel / lleihau carbon

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.