A group of colleagues working together

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

Medi 2027

Hyd y cwrs

1 BL (Llawn-amser) 2 BL (Rhan-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu cyfunol (Wrecsam)

Pam dewis y cwrs hwn?

Ydych chi'n angerddol dros ddysgu a rhannu'r wybodaeth sydd gennych chi? Trowch eich arbenigedd yn yrfa sy'n gwneud gwahaniaeth. P'un a oes gennych chi arbenigedd galwedigaethol, sgiliau proffesiynol neu brofiad academaidd, bydd Tystysgrif Addysg Prifysgol Wrecsam (AHO) yn eich helpu chi i ddatblygu'r wybodaeth i ddod yn athro effeithiol.

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i:

  • Ddatblygu'r sgiliau i rannu eich gwybodaeth alwedigaethol, arbenigedd proffesiynol neu brofiad academaidd gyda dysgwyr.
  • Paratoi ar gyfer dysgu mewn colegau addysg bellach, dysgu oedolion, prifysgolion, y GIG, elusennau, cwmnïau preifat a lleoliadau addysg arbenigol.
  • Cwblhewch 100 awr o ymarfer dysgu mewn lleoliad addysg a hyfforddiant ôl-orfodol priodol.
  • Derbyniwch arweiniad, sylwadau ac adborth er mwyn eich helpu i ddatblygu eich hyder a gwella eich ymarfer dysgu.
  • Dysgwch i gynllunio gwersi effeithiol, paratoi adnoddau apelgar, darparu gweithgareddau dysgu a chefnogi cynnydd myfyrwyr.
  • Darganfyddwch ddulliau newydd o ddysgu, addysgu ac asesu, gan gynnwys cyfleoedd i archwilio technolegau addysgol.
  • Datblygwch y sgiliau i asesu dysgu, darparu adborth adeiladol a helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial.
  • Dysgwch werthuso eich dysgu, ymateb i adborth ac adnabod cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Archwiliwch ddulliau addysgu sy'n seiliedig ar ddysgu a datblygu eich gallu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eich ymarfer.

A wyddoch chi?

Drwy astudio Tystysgrif Addysg a Prifysgol Wrecsam, cewch fynediad i fuddion unigryw wedi’i llunio i’ch helpu i lwyddo…

Cyfleoedd gwaith dysgu

mewn colegau addysg bellach, dysgu oedolion, prifysgolion, y GIG, elusennau, a lleoliadau addysg arbenigol.

Datblygu eich sgiliau dysgu

drwy weithgareddau ymarferol, micro-addysgu a bod ar leoliad dysgu

Adeiladu ar eich profiad ac sgiliau

i ysbrydoli dysgwyr, a rhannu eu gwybodaeth a helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial.

Prif nodweddion y cwrs

Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer pobl sydd am ysbrydoli eraill, rhannu eu gwybodaeth a helpu dysgwyr i gyflawni eu potensial. Gallech fod yn weithiwr proffesiynol profiadol sy'n chwilio am gyfeiriad newydd mewn gyrfa, crefftwr medrus sy'n awyddus i drosglwyddo ei arbenigedd, neu rywun sydd â gwybodaeth academaidd sydd eisiau cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Os ydych chi'n teimlo'n frwd ynghylch eich pwnc a'ch bod yn awyddus i helpu eraill i lwyddo, gallai'r cwrs yma fod yn gam nesaf i chi.

Yn y cwrs hwn byddwch yn:

  • Datblygu eich sgiliau dysgu drwy weithgareddau ymarferol, micro-addysgu a bod ar leoliad dysgu. Byddwch yn derbyn cefnogaeth ac adborth gan diwtoriaid prifysgol a mentor lleoliad wrth i chi ddatblygu eich ymarfer, adfyfyrio ar eich cynnydd ac adnabod meysydd ar gyfer gwelliant.
  • Archwiliwch strategaethau addysgu creadigol ac arloesol, gan gynnwys defnyddio technolegau addysgiadol er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr a gwella profiadau dysgwyr. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn cynllunio gwersi, paratoi adnoddau, asesu, adborth ac ymarfer adfyfyriol, gan eich paratoi chi i ymateb i anghenion amrywiol dysgwyr.
  • Gweithio'n agos gyda busnesau ac asiantaethau er mwyn datblygu cyfleoedd i'n myfyrwyr ac atgyfnerthu cysylltiadau rhwng profiad proffesiynol ac ymarfer addysgiadol.
  • Adeiladu ar eich profiad ac ennill y sgiliau i ysbrydoli dysgwyr, rhannu gwybodaeth a gwneud gwahaniaeth arhosol
  • Ymgymryd â darllen yn annibynnol, ymgysylltu â llenyddiaeth ysgolheigaidd a chwblhau asesiadau sy'n datblygu eich meddwl beirniadol, eich ysgrifennu academaidd a sgiliau cyfathrebu proffesiynol
  • Datblygu cysylltiadau rhwng eich profiad proffesiynol presennol ac ymarfer cyffredinol, wedi'u cefnogi gan waith y Brifysgol gyda busnesau ac asiantaethau.
  • Cwblhau'r Dystysgrif Addysg amser llawn dros 1 flwyddyn neu ran amser dros ddwy flynedd, gan symud ymlaen o astudiaethau Lefel 4 ym Mlwyddyn 1 i Lefel 5 ym Mlwyddyn 2.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r flwyddyn gyntaf yn cyfuno theori addysgiadol gyda gweithgareddau dysgu ymarferol yn yr ystafell ddosbarth ac ar leoliad, gan helpu myfyrwyr i gymhwyso eu dysgu o fewn eu harbenigedd pwnc eu hunain a'u lleoliad proffesiynol. Mae hefyd yn cyflwyno'r sgiliau adfyfyriol sydd eu hangen er mwyn gwerthuso ymarfer dysgu ac adnabod meysydd ar gyfer gwelliant.

Blwyddyn lleoliad

Bydd eich lleoliad yn eich galluogi chi i gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd drwy gydol eich astudiaethau mewn gosodiad addysgol go iawn. Byddwch yn ennill profiad dysgu ymarferol, gweithio gyda dysgwyr yn eich maes pwnc a datblygu eich hyder wrth gynllunio, darparu a gwerthuso gweithgareddau dysgu. Drwy gydol eich lleoliad, byddwch yn derbyn adborth ac yn cymryd rhan mewn ymarfer adfyfyriol er mwyn adnabod eich cryfderau a'ch meysydd ar gyfer datblygu. Mae'r rhaglen angen 100 awr o ymarfer dysgu yn ystod eich astudiaethau mewn lleoliad addysg a hyfforddiant ôl-orfodol priodol. Bydd y profiad hwn yn eich helpu i gysylltu theori addysgol gydag ymarfer proffesiynol, datblygu eich sgiliau dysgu a'ch paratoi ar gyfer y cam nesaf o'ch siwrne.

Modiwlau

Dim ond blynyddoedd 1 a 2 y byddwch yn eu cwblhau os ydych yn dilyn y llwybr rhan-amser. Bydd y cwrs amser llawn yn cwmpasu pob un o’r chwe modiwl mewn un flwyddyn.

Blwyddyn 1 (Lefel 4)

Paratoi i addysgu yn y sector ôl-orfodol (Craidd): Dysgwch hanfodion cynllunio gwersi effeithiol a pharatoi adnoddau i gefnogi eich myfyrwyr. Byddwch yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dysgu hanfodol er mwyn datblygu eich sgiliau fel eich bod yn gallu darparu dysgu effeithiol yn eich lleoliad neu eich gwaith.

Rhagoriaeth addysgu: arsylwi, adfyfyrio a datblygu ymarfer (Craidd): Byddwch yn datblygu eich ymarfer addysgu drwy arsylwi, adfyfyrio a gwerthuso. Byddwch yn dysgu i adnabod dulliau addysgu effeithiol, ymateb i adborth ac adnabod meysydd sydd angen eu gwella. Drwy adfyfyrio ar eich ymarfer eich hun a sylwi ar eraill, byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen er mwyn dod yn athro mwy effeithiol ac adfyfyriol.

Dysgu, addysgu, asesu ac adborth (Craidd): Byddwch yn archwilio sut mae dysgu, addysgu, asesu ac adborth yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn cefnogi cynnydd myfyrwyr. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o wahanol theorïau dysgu a strategaethau asesu, sut i asesu dysgu'n effeithiol, a sut i ddarparu adborth adeiladol.

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Yn ystod yr ail flwyddyn o'r Dystysgrif Addysg (AHO), byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd ym Mlwyddyn 1, gan archwilio dulliau pellach o addysgu a dysgu. Byddwch yn astudio dulliau addysgu'n seiliedig ar dystiolaeth, gwytnwch a lles, a chreadigrwydd, arloesi a dysgu a datblygu'r sgiliau er mwyn gwerthuso strategaethau dysgu yn feirniadol.

Byddwch yn defnyddio ymchwil addysgol yn sail i'ch ymarfer, ac yn dylunio profiadau dysgu creadigol ac apelgar. Bydd hyn yn eich helpu i baratoi i gymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau proffesiynol a pharhau gyda'ch datblygiad fel athro effeithiol.

Gwytnwch, lles ac adfyfyrio ar gyfer athrawon AHO (Craidd): Archwiliwch bwysigrwydd gwytnwch a lles mewn addysgu, a sut mae'r rhain yn dylanwadu ar ymarfer proffesiynol a phrofiadau dysgu eich myfyrwyr. Byddwch yn datblygu strategaethau i gefnogi eich lles eich hun, rheoli heriau addysgu ac adfyfyrio ar eich profiadau proffesiynol. Bydd hyn yn eich helpu i feithrin y gwytnwch a'r hunan-ymwybyddiaeth sydd eu hangen er mwyn ffynnu yn eich gyrfa ddysgu.

Dulliau addysgu'n seiliedig ar dystiolaeth (Craidd): Yn y modiwl hwn, byddwch yn archwilio dulliau dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyried sut y gall ymchwil fod yn sail i'ch ymarfer addysgu. Byddwch yn datblygu'r sgiliau i werthuso syniadau addysgiadol, ymgysylltu gyda llenyddiaeth berthnasol ac adnabod strategaethau effeithiol er mwyn cefnogi dysgu myfyrwyr. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eich addysgu a datblygu dull sy'n fwy seiliedig ar dystiolaeth at ymarfer proffesiynol.

Creadigrwydd, arloesi a dysgu (Craidd): Byddwch yn archwilio sut y gall creadigrwydd, arloesi a thechnoleg addysgiadol wella addysgu a dysgu. Byddwch yn ystyried gwahanol ddulliau o ddylunio profiadau dysgu apelgar, datblygu adnoddau a defnyddio strategaethau arloesol er mwyn bodloni anghenion eich myfyrwyr. Bydd hyn yn eich paratoi i addasu eich addysgu i anghenion sy'n newid gan ddysgwyr a'r sector addysg ehangach.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Rhaid i ymgeiswyr fod ag o leiaf un cymhwyster lefel 3 yn eu pwnc arbenigol.

Addysgu ac Asesu

Bydd y rhaglen yn cael ei hastudio'n amser llawn (dros un flwyddyn) neu'n rhan amser (dros ddwy flynedd), gyda 60 credyd ar Lefel 4 ym Mlwyddyn 1 a 60 credyd ar Lefel 5 ym Mlwyddyn 2. Byddwch yn symud ymlaen o ddatblygu sgiliau wrth gynllunio gwersi, addysgu, asesu ac adfyfyrio i archwilio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gwytnwch a lles, a chreadigrwydd ac arloesi mewn addysg.

Ochr yn ochr ag addysgu a gynlluniwyd, disgwylir i chi gwblhau astudiaethau annibynnol, paratoi ar gyfer asesiadau, ymgysylltu gyda llenyddiaeth addysgiadol ac adfyfyrio ar eich datblygiad proffesiynol. Byddwch hefyd yn cwblhau 100 awr o ymarfer dysgu ar draws y rhaglen. Bydd y cyfuniad yma o sesiynau a ddysgir, dysgu annibynnol a phrofiad ymarferol yn eich helpu i ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen er mwyn dod yn athro effeithiol mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Asesiadau

Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o aseiniadau sydd wedi'u bwriadu i ddatblygu eich sgiliau addysgu, gwybodaeth am bwnc ac ymarfer proffesiynol. Mae'r rhan yn cynnwys gweithgareddau micro-addysgu, aseiniadau adfyfyriol, portffolios ac aseiniadau clytwaith, gan eich galluogi i arddangos eich dealltwriaeth o addysgu, dysgu, asesu ac adborth effeithiol.

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn arsylwi a gwerthuso ymarfer dysgu, gan ddefnyddio adborth i adnabod cryfderau a meysydd ar gyfer gwelliant.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cwblhau asesiadau megis adolygiad llenyddiaeth, cyflwyniadau, portffolio adfyfyriol a chyflwyniad poster, gan eich galluogi i archwilio ymchwil, gwytnwch a lles addysgol, a dulliau creadigol at addysgu a dysgu. Bydd eich ymarfer dysgu hefyd yn cael ei asesu drwy arsylwadau ffurfiol gan diwtoriaid prifysgol a mentoriaid lleoliad. Bydd y dulliau asesu amrywiol yma'n eich helpu i gysylltu theori addysgiadol gyda phrofiad ymarferol, datblygu eich sgiliau adfyfyrio a'ch paratoi ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus fel athro.

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ymroddedig wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni'ch nodau proffesiynol. Maent yn darparu cyngor personol, adnoddau defnyddiol, a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.

Gall graddedigion y cwrs hwn ddilyn gyrfaoedd yn:

Teitlau swyddi gyrfa

  • Athro addysg bellach
  • Athro dysgu oedolion ac yn y gymuned
  • Mentor dysgu
  • Hyfforddwr dysgu'n seiliedig ar waith, neu aseswr
  • Gweithiwr cefnogi addysg

Yn ogystal, efallai y byddwch yn dewis datblygu eich arbenigedd trwy astudiaethau ôl-raddedig. Archwiliwch ein cyrsiau ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Llety

Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas! 

Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych. 

Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref. 

Peidiwch â Cholli Allan Ar Ymweld â Ni.

Gallwch chi ymuno â ni o hyd yn ein Diwrnod Agored nesaf. Dewch i gwrdd â'n  hacademyddion, sgwrsio â myfyrwyr presennol ac archwilio ein campws. Dyma'ch cyfle i ddarlunio'ch dyfodol yma.

21 Tachwedd 2026

Israddedig
Archebwch Nawr

13 Mawrth 2027

Israddedig
Archebwch Nawr