MA Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol (Sain)

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
Medi 2026
Hyd y cwrs
1 BL (LLA) 2 BL (RHA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Gradd Meistr mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol (Sain) yn unigryw yn ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd profiad gwaith eang fel arwain rhai meysydd o’r prosiectau cyfryngau sy’n ymweld â’n gwagleoedd cynhyrchu cyfryngau. Byddwch yn eich ennill credydau academaidd am weithgareddau a fydd yn cefnogi datblygiad eich gyrfa gan gynnwys:
- profiad gwaith
- arweinyddiaeth tîm
- deunyddiau hunan-hyrwyddo
- sgiliau cynhyrchu cyfryngau uwch
A wyddoch chi?
Trwy astudio gradd Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol (Sain) ym Mhrifysgol Wrecsam, byddwch yn cael mynediad at fuddion unigryw sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i lwyddo.
Prif nodweddion y cwrs
- Sgiliau Cynhyrchu Cyfryngau Uwch gan gynnwys rhywfaint o godio a rhaglennu
- Datblygu sgiliau ymchwil i lefel ble byddai modd ichi symud ymlaen i wneud PhD
- Cyfleoedd i astudio cwricwla dan arweiniad diwydiant, e.e. Avid, Adobe a Prifysgol Wrecsam
- Gwagleoedd cynhyrchu cyfryngau rhagorol
- Staff cefnogol ac arbenigol
- Datblygu arteffactau asesu a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer cam nesaf eich gyrfa
- Mae Prifysgol Wrecsam yn bartneriaid balch i Blackmagic Design. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr y cwrs hwn elwa o'r feddalwedd, yr offer a'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn raddedigion hyderus, profiadol sy'n barod i'r diwydiant.

Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
Dulliau Ymchwil ar gyfer y Diwydiannau Creadigol (Craidd): Fe'ch cyflwynir i ystod o fethodolegau ymchwil uwch a ddefnyddir ar draws cynhyrchu cyfryngau creadigol, gan gynnwys ffilm, cerddoriaeth, sain, a chyd-destunau creu cynnwys eraill. Trwy archwilio dulliau ymchwil ansoddol, meintiol, cymysg, a dulliau ymchwil seiliedig ar ymarfer, byddwch yn datblygu'r sgiliau i gasglu, gwerthuso a chymhwyso data ymchwil wrth gynllunio, cynnal a myfyrio ar brosiect ymchwil a all lywio gwaith creadigol yn y dyfodol.
Cydweithrediad Diwydiant (Craidd): Byddwch yn ennill profiad proffesiynol gwerthfawr wrth ennill credyd academaidd trwy raglen strwythuredig o leoliadau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, naill ai ar brosiectau byw o fewn cyfleusterau Diwydiannau Creadigol Prifysgol Wrecsam neu drwy gyfleoedd allanol cymeradwy.*
Technegau Cyfryngau Digidol (Sain) (Craidd): Byddwch yn archwilio technegau prosesu signal digidol uwch (DSP) a dylunio offer prosesu sain wedi'u teilwra ar gyfer cymwysiadau cyfryngau digidol. Gan ddefnyddio rhaglennu gweledol o safon diwydiant ac amgylcheddau codio fel MaxMSP, neu PureData, byddwch yn datblygu datrysiadau DSP arloesol ac yn eu cymhwyso i brosiectau cyfryngau creadigol, gan gynnwys ffilm, teledu, gemau a phrofiadau rhyngweithiol, wrth adeiladu sgiliau technegol a rhaglennu trosglwyddadwy iawn.
Astudiaethau Proffesiynol (Craidd): Bydd y modiwl hwn sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd yn eich grymuso i ddatblygu'r sgiliau proffesiynol, ymwybyddiaeth y diwydiant, a'r strategaethau gyrfa sydd eu hangen i adeiladu gyrfa lwyddiannus a chynaliadwy yn y sector cynhyrchu cyfryngau. Trwy archwilio arweinyddiaeth, mentora, gwaith tîm, rhwydweithio, a brandio personol, byddwch yn creu cynllun datblygiad proffesiynol gydol oes wedi'i deilwra wrth ddatblygu portffolio ar-lein deinamig sy'n arddangos sgiliau, profiad, a photensial creadigol i gyflogwyr a chydweithwyr.
Prosiect Cyfryngau (Craidd): Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i ddangos y wybodaeth uwch, y sgiliau a'r ddealltwriaeth feirniadol a ddatblygwyd trwy gydol eich astudiaethau ôl-raddedig trwy gwblhau prosiect annibynnol sylweddol. Gan weithio'n agos gyda goruchwyliwr academaidd, byddwch yn ymgymryd ag ymchwil wreiddiol, ymarfer proffesiynol, neu waith sy'n seiliedig ar berfformiad sy'n adlewyrchu diwydiant cyfredol ac arferion creadigol o fewn eich arbenigedd dewisol.
*Trwy gwblhau 175 awr o weithgarwch ar leoliad, byddwch yn datblygu sgiliau pwnc-benodol uwch, ymwybyddiaeth broffesiynol, ac ymarfer myfyriol beirniadol, a fydd yn gwella cyflogadwyedd ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol neu astudiaeth bellach.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Yn ddelfrydol, gradd 2.2 mewn cwrs perthynol i Gynhyrchu Cyfryngau. Mae’n bosib y gallai’r broses ddethol gynnwys cyfweliad ac adolygiad portffolio o waith cyfryngau.
Yn absenoldeb gradd gyntaf berthynol, byddwn yn dethol ar sail cyfweliad am brofiad blaenorol yn y diwydiant/cyfryngau ac adolygiad o bortffolio cyfredol o waith.
Addysgu ac Asesu
Bydd yr addysgu yn cael ei ddarparu ar ffurf gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, seminarau, gweithgareddau seiliedig ar diwtorialau a gweithgareddau lleoliad gwaith.
Mae asesiadau yn cynnwys cyfleoedd i arddangos sgiliau cyflwyno ysgrifenedig a llafar, creu offer ac allbynnau cynhyrchu cyfryngau, a hefyd arddangos sgiliau arweinyddiaeth a gweithio mewn tîm -Traethawd, Adroddiad, Blogiau, Portffolio o waith, dogfen CV ryngweithiol ar-lein ar gyfer y diwydiant.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r hyfforddiant a’r arbenigedd i weithio yn un o feysydd cyffrous niferus y diwydiannau darlledu cyfryngol. Gyda chyfleoedd profiad gwaith eang ar gael ar y cwrs hwn, byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant cyfryngau proffesiynol, yn ddibynnol ar y llwybr o’ch dewis, gan gynnwys:
- Darlledu: Mae gennym ystod o ddarlledwyr llwyddiannus sy’n gweithio i gwmnïau cenedlaethol mewn cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
- Cynhyrchu Fideos: Sefydlu eu fideos eu hunain neu weithio i gynhyrchwyr annibynnol ar amryw o brosiectau i ystod eang o gleientiaid.
- Ôl-gynhyrchu: Datblygir sgiliau cyfansoddi a golygu fideos trwy gydol y cwrs, gan gynnig troedleoedd cadarn ar gyfer swyddi VFX ac ôl-gynhyrchu eraill.
- Ffotograffiaeth: Mae dal delweddau, llonydd ac ar fideo, wrth graidd y cwricwlwm, ac mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynhyrchu ystod o waith ffotograffig.
- Cynhyrchu a Rheolaeth Stiwdio: Mae yna lawer o gyfleoedd i raddedigion ddefnyddio eu sgiliau ar gyfer rheoli prosiectau a chomisiynau eraill gan gleientiaid.
- Rheoli Digwyddiadau: Gwyliau, rheoli lleoliadau bach/mawr eu maint, rheoli teithiau
- Technegwyr Clyweledol: Llawrydd, Corfforaethol a hefyd llwybrau addysgol
- Y Theatr: Technegwyr Llwyfan, Dylunwyr goleuo, trydanwyr, rheoli llwyfan
- Addysgu: Mae llawer o'n graddedigion yn gweithio ym myd addysg Bellach ac Uwch yn ogystal ag mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
- Ymchwil a datblygu: Mae'r cwrs wedi profi yn sylfaen gadarn sy'n galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i wneud gradd ymchwil. Oherwydd y lefel uchel o arbenigedd technegol, mae hefyd wedi galluogi myfyrwyr i weithio mewn rolau ymchwil a datblygu ar gyfer cwmnïau sain mawr.
- Sain Deithiol: Blaen tŷ neu Beirianneg Monitor, Peirianneg Systemau, Rheolaeth Llwyfan, Ymchwil a datblygu - Mae'r cwrs wedi profi yn sylfaen gadarn sy'n galluogi myfyrwyr i Technegwyr Offer, Technegwyr Llwyfan, Gweithredwyr hunan-gyflogedig.
- Mae’n bosib hefyd symud ymlaen i astudio ar lefel PhD
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.
Barod i Geisio?
Apply Link Accordions
Content Accordions
Nosweithiau Agored Ôl-raddedig.
Ymunwch â ni am noson agored sydd ar ddod i gysylltu â darlithwyr arbenigol, cael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau arbenigol a'n cyfleoedd ymchwil, cael cip ar ein cyfleusterau uwch a chael teimlad o'n cymuned ôl-raddedig.
Porwch bob un o'n nosweithiau agored ôl-raddedig a'n digwyddiadau.