Art student painting

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

1 BL (Llawn-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Datblygu

sgiliau a thechnegau paentio trwy arbenigo mewn cyfrwng penodol.

Yn y deg

uchaf yn y DU ar gyfer ansawdd dysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2024).

Arddangos

eich gwaith celf gyda chyfleoedd i arddangos ar y campws a thu hwnt.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs MA paentio arloesol hwn yn canolbwyntio ar alluogi arlunwyr i esblygu fel artistiaid hunan-fyfyriol a beirniadol sy’n ymgysylltu gyda materion cyfoes a newydd. Mae’r cwrs yn archwiliad manwl o hanes materol a chysyniadol cyfoethog paentio yn benodol.


Y cwrs:

  • Mae’n canolbwyntio ar alluogi arlunwyr i esblygu fel artistiaid hunan-fyfyriol, beirniadol sy’n ymgysylltu gyda materion cyfoes a newydd.
  • Mae’n archwiliad manwl o hanes materol a chysyniadol cyfoethog paentio yn benodol.
  • Mae wedi’i strwythuro i adeiladu eich sgiliau, eich diddordeb creadigol a rhagolygon gyrfa ym maes paentio celfyddyd gain.
  • Mae’n datblygu gallu technegol ac arloesi materol ar lefel uwch wedi’u hymgorffori mewn methodoleg paentio allweddol.
  • Mae’n pwysleisio ar feithrin meddwl creadigol, gwytnwch cysyniadol a chyflogadwyedd.
  • Mae’n cynnig dilyniant trwy ymchwil ymarferol gan helpu i ddod o hyd i atebion arloesol i heriau esthetig a chysyniadol.
  • Bydd yn mireinio eich nodau artistig o fewn maes paentio modern.
  • Mae’n cael ei arwain gan ddysgu annibynnol a chydweithredol. Byddwch yn cwblhau gweithdai, sesiynau adolygu a seminarau sy’n anelu at feithrin ymarferydd paentio amrywiol, chwilfrydig a dynamig sy’n ymgysylltu gyda’r economi greadigol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Mae darlithoedd gwadd, partneriaethau o fewn y diwydiant a lleoliadau gwaith dewisol yn rhoi mewnwelediad i gyd-destunau byd go iawn, gan ehangu ar rwydweithiau a rhagolygon cyflogaeth.
  • Mae arddangosfeydd, sesiynau adolygu a chydweithio gyda chymheiriaid yn rheolaidd yn adlewyrchu lleoliadau celf proffesiynol, gan annog myfyrdod beirniadol a’r gallu i gyfathrebu. 
  • Cyfleoedd i arddangos ar y campws a thu hwnt i feithrin mentergarwch creadigol.
  • Mae model addysgu wedi’i leoli yn y stiwdio yn cyfuno gweithdai creadigol, darlithoedd, seminarau, ac astudiaeth annibynnol.
  • Mae’r dull cyflwyno hybrid yn gwneud defnydd effeithlon o gyfleusterau ar y campws gan hefyd alluogi dysgu o bell.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae gan y cwrs MA Paentio strwythur 3 modiwl sy’n caniatáu cynnydd rhesymegol drwy ddiffinio, ehangu a mynegi eich arferion ar ffurf paentio.

MODIWLAU:

Lleoli (Craidd) - Y modiwl Lleoli yw sylfaen allweddol y rhaglen MA Paentio.  Trwy archwilio materol dwys, ymchwil cyd-destunol, a beirniadaethau dadansoddol, bydd myfyrwyr yn craffu ar agweddau technegol, cyd-destunol a damcaniaethol sylfaenol ym maes paentio. Mae’r modiwl yn canolbwyntio ar osod gwaith pob myfyriwr o fewn cyd-destunau ehangach hanes celf, diwylliant, gwleidyddiaeth ac athroniaeth. Bydd myfyrwyr yn meithrin iaith allweddol  i fynegi’r berthynas gymhleth rhwng paentio, hunaniaeth a chymdeithas.

Cwestiynu (Craidd) - Mae’r modiwl Cwestiynu yn canolbwyntio ar atgyfnerthu arferion paentio myfyrwyr drwy eu gosod o fewn trafodaethau athronyddol a diwylliannol yn ymwneud â natur esblygol y cyfrwng. Bydd myfyrwyr yn cymryd risgiau cysyniadol ac yn gwthio technegau confensiynol drwy arbrofi materol sy’n herio diffiniadau traddodiadol o baentio. Mae’r modiwl Cwestiynu yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n effeithiol gyda thrafodaeth fodern ym maes paentio ar ffurf weledol ac ysgrifenedig.

Mynegiant (Craidd) - Mae’r modiwl Mynegiant yn canolbwyntio ar ddatblygu pecyn cydlynol o waith paentio i’w arddangos yn gyhoeddus, gan leoli arferion myfyrwyr o fewn y byd celfyddydol modern. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn mireinio sgiliau ysgrifennu, mynegiant llafar, cydlynu arddangosfeydd, a dogfennu proffesiynol er mwyn cyfathrebu arwyddocâd eu gweledigaeth artistig yn llwyddiannus. Mae’r modiwl Mynegiant yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu llywio a mynegi eu gwaith yn fedrus mewn lleoliadau celf proffesiynol.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd ar gyfer y rhaglen MA Paentio gyflwyno portffolio fel rhan o’r broses ymgeisio.

Mae pob portffolio fel arfer yn cynnwys 10-15 delwedd o’ch gwaith gorau, mwyaf perthnasol, ond gall hefyd gynnwys elfennau cyfryngau ychwanegol megis fideo, sampl o waith ysgrifenedig, dogfennaeth arddangosfeydd, ac ati.

Mae cyflwyno’r portffolio yn galluogi ymgeiswyr i ddangos eu talent, eu meddwl creadigol, eu sgiliau technegol a’u cymhelliant artistig mewn modd gweledol.

Mae adolygu portffolios ymgeiswyr yn rhoi cyfle  i’n tîm addysgu gael mewnwelediad i botensial darpar fyfyrwyr i gyfrannu ac i gwblhau’r rhaglen ôl-raddedig arbenigol hon yn llwyddiannus.

Addysgu ac Asesu

Mae dysgu ac addysgu ar y rhaglen MA Paentio yn digwydd ar sawl ffurf sy’n cyd-fynd â chwricwlwm sy’n seiliedig ar waith ymarferol.

Yn ystod y rhaglen, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ddulliau dysgu ac addysgu gan gynnwys arweiniad gan diwtor a chydweithio gyda chymheiriaid.

Byddwch yn cynhyrchu gwaith stiwdio ymarferol ac yn cadw dyddiaduron myfyriol i gofnodi eich cynnydd creadigol, dadansoddiadau artistig, ac yn datblygu dealltwriaeth o hanes a damcaniaethau ym maes paentio.

Bydd cymryd rhan mewn sesiynau trafod beirniadol ac ysgrifennu hunan-fyfyriol yn rheolaidd yn meithrin syniadau allweddol ac athronyddol am eich twf.

Mae arddangosfeydd o waith dethol yn eich galluogi i gyflwyno darnau gorffenedig yn gyhoeddus i’w hadolygu. Yn ogystal, byddwch yn cyflwyno elfennau ysgrifenedig crynodol sy’n rhoi cyd-destun eich arferion o fewn fframweithiau allweddol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Nod y rhaglen hon yw helpu i wella cyflogadwyedd myfyrwyr, gan y bydd yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer gweithio mewn arferion celf a dylunio amlddisgyblaethol, megis: 

  • Artist/Arlunydd Proffesiynol
  • Athro Celf (Ysgolion, Colegau, Prifysgolion)
  • Curadur/Rheolwr Oriel
  • Addysgwr mewn Amgueddfa
  • Adolygydd/Ysgrifennydd Celf
  • Ymgynghorydd Celf
  • Cydlynydd Celf Cyhoeddus
  • Gweinyddwr Celf
  • Gweithiwr Celf Cymunedol
  • PhD mewn Celfyddyd Gain/Paentio
  • PhD mewn Hanes/Theori Celf
  • PhD mewn Addysg Celf
  • Achrediadau ychwanegol (e.e. Therapi Celf)
  • Amrywiaeth o lwybrau gyrfa (orielau, amgueddfeydd, curadur ac ati)

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma