MSc Peiranneg (Gweithgynyrchu Mecanyddol)

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2024
Hyd y cwrs
1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Elwa
o gysylltiadau diwydiant cryf
Mynediad
i feddalwedd masnachol blaengar
Dysgwch
gan weithwyr proffesiynol profiadol ac arbenigwyr yn y maes
Pam dewis y cwrs hwn?
Yma ym Mhrifysgol Wrecsam, ein nod yw sicrhau bod yr MSc Peirianneg (Gweithgynhyrchu Mecanyddol) yn cynnwys addysgu pwrpasol a phrofiad ymchwil i ddarparu cefndir cadarn ar gyfer gyrfa yn y sector diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu.
Mae Llywodraeth yn canolbwyntio'n helaeth ar hybu diwydiant gweithgynhyrchu'r DU; gallai methu â chwrdd â gofynion sgiliau peirianneg gostio £27bn y flwyddyn i'r DU. Bydd 58% o'r holl swyddi newydd yn gysylltiedig â STEM, a mae rhaid i nifer y bobl sy'n astudio am raddau mewn gwyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg gynyddu dros 40% ar y lefelau presennol os am fodloni gofynion. O holl sgiliau STEM, mae'r rheini ym maes peirianneg fecanyddol a gweithgynhyrchu yn dod yn fwyfwy gwerthfawr [1].
- Mae llawer o’n graddedigion bellach mewn swyddi gyda’r prif gwmnïau rhyngwladol fel Rolls-Royce, Siemens, Alstom, ac Airbus.
- Mae’r elfen a addysgir yn y rhaglen yn cynnwys dylunio, a dadansoddi pwysau a dynameg hylif, gan ddefnyddio meddalwedd masnachol o’r radd flaenaf, megis ANSYS.
- Cewch ddatblygu eich sgiliau mewn elfennau penodol trwy eich dewis o brosiect ymchwil MSc, a’r testun yn cyd-fynd ag un o Ganolfannau Ymchwil y Brifysgol.
[1] A. Kumar, N. Randerson, ac E. Johnson, “The state of engineering,” Engineering UK 2015. [ar-lein]. Ar gael yn: https://www.engineeringuk.com/media/1466/enguk-report-2015-interactive.pdf
Prif nodweddion y cwrs
- Polisi drws agored i chi gwrdd â thiwtoriaid
- Cefnogaeth ychwanegol trwy weithdai
- Cewch ddewis o blith modiwlau opsiynol i ategu llwybr eich cwricwlwm
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
- Dulliau Ymchwil Peirianneg ac Astudiaethau Ôl-radd
- Dylunio ac Arloesedd mewn Peirianneg
- Modelu ac Efelychu Systemau Peirianneg Fecanyddol
- Dylunio gyda Chyfansoddion – Theori ac Ymarfer
- Cyfanrwydd ac Optimeiddio Strwythurol
- Gweithgynhyrchu Digidol
- Traethawd hir
Gofynion mynediad a gwneud cais
Y gofynion mynediad arferol ar gyfer cael eich derbyn i astudio’n llawn amser neu’n rhan amser fydd un o’r canlynol:
- Gradd Anrhydedd Baglor mewn Peirianneg, neu Radd Baglor arall mewn disgyblaeth beirianneg briodol, fel arfer gydag o leiaf dosbarthiad 2:2 neu gyfwerth.
- Gellir derbyn ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad ond sydd â phrofiad proffesiynol sylweddol mewn maes arbenigol perthnasol, yn amodol ar gyfweliad a geirda.
- Cymwysterau cyfatebol o wlad dramor a ystyrir yn foddhaol gan dîm y rhaglen.
Fel arfer, bydd gofyn i ymgeiswyr sy’n gwneud cais trwy bwyntiau mynediad (b) ac (c) fynychu cyfweliad. Nid yw hyn bob amser yn bosibl, e.e., myfyrwyr tramor, ac os felly defnyddir y ffurflen gais ac argymhellion y tiwtor ‘cartref’ i benderfynu a ydynt yn addas; gellir defnyddio ffôn, y rhyngrwyd a fideo-gynadledda hefyd. Bydd lle ar y rhaglen yn cael ei gynnig yn seiliedig ar gymwysterau cefndir yr ymgeiswyr a, lle bo’n briodol, eu profiadau.
Meini prawf ansafonol i gael mynediad
Yn ôl y Rheoliadau ar gyfer ‘Graddau Meistr a Addysgir’ Prifysgol Wrecsam, mae’n bosibl i berson heb radd gael eu derbyn i ymgeisio, ar yr amod:
- Bod ganddynt gymhwyster nad yw’n radd y mae Prifysgol Wrecsam wedi barnu ei fod o safon foddhaol at ddiben derbyn i gwrs ôl-radd, a
- bod ganddynt swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r rhaglen, a’u bod wedi bod yn y swydd honno am o leiaf dwy flynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf.
Waeth beth fo cymwysterau mynediad ymgeisydd, rhaid i’r myfyriwr ddangos tystiolaeth sy’n bodloni’r panel cyfweld o’u gallu i gwblhau gwaith academaidd i’r safon ofynnol i gwblhau’r cynllun astudio arfaethedig yn llwyddiannus.
Addysgu ac Asesu
Sail y rhaglen yw’r Fframwaith Dysgu Gweithredol (ALF). Mae’r dull dysgu cyfunol hwn yn rhan allweddol o’r cyflwyno ac mae’n cynnwys addysgu, cymorth dysgu, a chynnal sesiynau ar-lein. Mae’r Fframwaith yn cynnig dull mwy hyblyg o ddysgu i fyfyrwyr ac mae’n hanfodol i roi cyfle cyfartal i bob myfyriwr lwyddo.
Mae’r dulliau dysgu ac addysgu yn adlewyrchu disgrifyddion nodweddion gradd Meistr yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) yn y ffyrdd canlynol:
- Defnyddir darlithoedd i rannu gwybodaeth allweddol a dangos ffyrdd newydd o weithio a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion eu maes astudio yn ogystal â chanfod ffyrdd newydd o weithio.
- Bydd astudiaethau achos, chwarae rôl, a gweithio mewn grŵp yn cael eu defnyddio i gynorthwyo wrth roi’r egwyddorion ar waith yn ehangach. Byddant hefyd yn cael eu defnyddio i ysgogi trafodaeth ac ymarfer sgiliau datrys problemau. Bydd hyn hefyd yn galluogi myfyrwyr i werthuso pa mor briodol yw gwahanol ddulliau o ddatrys problemau.
- Mae defnyddio portffolios yn ysgogi adfyfyrio ar y rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, a hynny’n gofyn am ysgwyddo cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau. Yn ogystal, maent yn galluogi myfyrwyr i nodi terfynau eu gwybodaeth a’u sgiliau a nodi strategaethau ar gyfer datblygu.
- Defnyddir asesiadau i hybu dysgu yn ogystal â rhoi syniad am gyflawniad y myfyriwr.
Mae cyfleoedd yn y rhaglen i gael adborth ffurfiannol, diagnostig a chrynodol. Defnyddir dulliau asesu sy’n adlewyrchu anghenion y grŵp myfyrwyr ac yn rhoi modd profi gwybodaeth a deilliannau dysgu’r rhaglen yn ogystal â galluogi datblygu ac asesu sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy.
Pan wneir gwaith grŵp wedi’i asesu, bydd disgwyl i chi greu nodiadau am gyfarfodydd a llunio cynlluniau gweithredu, a thrwy’r rheiny ddangos eich bod wedi cyfrannu’n gyfartal at y dasg. Yr elfen hon o gyfraniad personol fydd yn pennu asesiad eich modiwl yn gyffredinol. h.y., ni ddylai pob myfyriwr o fewn grŵp ddisgwyl cael yr un marc.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Mae'r dulliau addysgu'n cynnwys darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau a arweinyr gan fyfyrwyr ac ymchil gan gyfarwyddyd.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig o bob modiwl, gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pwnc-benodol a'u sgiliau allweddol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae’r rhaglen MSc Peirianneg (Gweithgynhyrchu Mecanyddol) yn diwallu anghenion ystod o ddiwydiannau amrywiol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, wrth gyflenwi darpar weithwyr o’r radd flaenaf iddynt yn y dyfodol. Mae’r rhaglen wedi’i llunio i roi cyfleoedd i chi ddangos eich arbenigedd technegol perthnasol, eich arloesedd, eich ymrwymiad a’ch crebwyll, gan felly gynhyrchu myfyrwyr sy’n weithwyr Peirianneg proffesiynol ac yn ased y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr y dyfodol. Mae cyn-fyfyrwyr naill ai mewn cyflogaeth amser llawn neu wrthi’n astudio am PhD.
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae'r cwrs yn eich cyfarparu â gwybodaeth drylwyr a sgiliau mewn peirianneg sydd ar flaen y gad pan ddaw i dechnolegau newydd a'r rhai sy'n dod i'r amlwg. Bydd gan raddedigion y fantais o ddod yn arbenigwyr yn y diwydiant neu i fynd ar drywydd gyrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.