Rhagnodi anfeddygol i Nyrsys, fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2026

Hyd y cwrs

Amrywiol

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Datblygu

dull systematig a myfyriol, seiliedig ar dystiolaeth o wneud penderfyniadau clinigol mewn arferion rhagnodi.

Dangos

sgiliau meddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau sy'n ofynnol i ragnodi'n ddiogel.

Astudio

modiwlau sy'n benodol i'ch proffesiwn.

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae ein modiwlau rhagnodi anfeddygol yn caniatáu i chi ddatblygu'r gallu i ymarfer yn ddiogel a phriodol mewn perthynas â safonau proffesiynol a nodwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu'r Cyngor Proffesiynol Gofal Iechyd (HCPC).

  • Datblygu dull systematig a myfyriol, seiliedig ar dystiolaeth o wneud penderfyniadau clinigol mewn arferion rhagnodi.
  • Archwilio'n feirniadol a chymhwyso'r ddeddfwriaeth berthnasol i arferion rhagnodi anfeddygol o fewn fframwaith llywodraethu clinigol gan gynnwys materion cadw cofnodion a defnyddio meddyginiaethau didrwydded.
  • Cymhwyso gwybodaeth o weithredoedd a rhyngweithiadau cyffuriau mewn arferion rhagnodi.
  • Dangos dealltwriaeth feirniadol o'ch cyfathrebu/perthynas effeithiol eich hun â chlaf/cleientiaid, gofalwyr, rhagnodwyr eraill ac aelodau o'r tîm gofal iechyd.

Prif nodweddion y cwrs

  • Ymgymryd ag asesiad/hanes clinigol yn effeithiol, yn cynnwys hanes meddyginiaeth er mwyn hysbysu diagnosis gweithredol neu, os bydd angen, monitro ac addasu cynllun triniaethau yn cynnwys y defnydd o feddyginiaeth ddidrwydded neu gyfeirio/ymgynghori/gofyn am gyngor gan aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd.
  • Archwilio’n feirniadol y dylanwadau cymhleth – dymuniadau a gwerthoedd cleifion neu ofalwyr, a all effeithio ar arferion rhagnodi gan ddangos dealltwriaeth systematig drwy reolaeth briodol a moesegol o'ch rhagnodi eich hun.
  • Myfyrio'n feirniadol ar rôl eich hun ac eraill sy'n ymwneud â rhagnodi, cyflenwi a rhoi meddyginiaethau.
  • Dangos y sgiliau meddwl a phenderfynu beirniadol sydd eu hangen i ragnodi'n ddiogel, yn briodol ac yn gost-effeithiol.
  • Ymarfer yn gymwys o fewn fframwaith o atebolrwydd a chyfrifoldeb proffesiynol gan barhau i ddatblygu ei ysgolheictod ei hun drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Dangos ymwybyddiaeth systematig a beirniadol o'r materion iechyd y cyhoedd sy'n ymwneud â defnyddio meddyginiaethau.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r rhaglenni sydd ar gael i’w hastudio yn cynnwys:

  • Rhagnodi Annibynnol/Atodol ar gyfer Nyrsys: (*yn cynnwys Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN)) (V300) NHS6A5 (israddedig) neu NHS7C1 (ôl-raddedig) Cymeradwywyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
  • Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr: NHS7D8 (ôl-raddedig) Disgwyl am ganlyniad ail-achrediad, Mehefin 2025.
  • Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd:  HLT704 Cymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
  • Rhagnodi Atodol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd: NHS736 (ôl-raddedig) Cymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)

Mae’r modiwlau Rhagnodi Annibynnol/Atodol ar gyfer nyrsys (V300), Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr, Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Rhagnodi Atodol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn darparu rhaglen addysgol ar gyfer Nyrsys, Bydwragedd neu Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol, Fferyllwyr a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd i’w paratoi ar gyfer eu cofrestru fel rhagnodwyr anfeddygol gan eu priod gyrff proffesiynol (NMC, GPhC a’r HCPC). Cyflwynir y modiwl ar lefel israddedig (Lefel 6) ar gyfer nyrsys, ac ar lefel ôl-raddedig (Lefel 7) ar gyfer nyrsys ac ar lefel ôl-raddedig (Lefel 7) yn unig ar gyfer Fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.


Mae'r rhaglenni uchod i gyd yn fodiwlau 40 credyd naill ai ar Lefel 6 neu Lefel 7, ac yn cael eu cyflwyno ar sail ran amser. Mae'r rhaglen yn cynnwys 400 awr o ymdrech myfyrwyr ac mae'n cynnwys 26 diwrnod o sesiynau damcaniaethol ac o leiaf 78 awr o ddysgu ymarfer lleoliad clinigol i Nyrsys a 90 awr i Fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. 


Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Rhagnodi Annibynnol/Atodol ar gyfer Nyrsys* (V300), (*gyn cynnwys Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol)

Ar gyfer nyrsys, bydwragedd a nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol dylai ymgeiswyr fodloni’r HOLL feini prawf canlynol:

  • Cofrestriad dilys ar Ran 1, 2 a 3 o’r Gofrestr Broffesiynol a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
  • Meddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad nyrsio clinigol ôl-gofrestru fel nyrs, bydwraig neu nyrs iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol a chael eich ystyried yn gymwys gan eich cyflogwr i ymgymryd â’r rhaglen. O’r tair blynedd yma, rhaid i’r flwyddyn yn union cyn gwneud cais i ymuno â’r rhaglen fod yn y maes clinigol yr ydych yn bwriadu rhagnodi ar ei gyfer, e.e. Cyn-enedigol, iechyd meddwl.  Rhaid bod gweithwyr rhan-amser wedi ymarfer am gyfnod digonol i gael eu hystyried yn gymwys gan eu cyflogwr.
  • Meddu ar brofiad priodol yn y maes ymarfer y byddant yn rhagnodi ynddo; bydd y sefydliadau cyflogi yn asesu a chadarnhau’r profiad A’R cymhwysedd priodol mewn meysydd ymarfer. Mae’n ofynnol gan yr NMC bod cyflogwyr yn cynnal arfarniad o addasrwydd cofrestrai i ragnodi cyn iddynt wneud cais am le hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys gallu’r ymgeisydd i wneud diagnosis yn eu maes arbenigedd a sgiliau rhifedd priodol.
  • Gall ymgeiswyr gofrestru ar fodiwl asesu, diagnosis a thriniaeth glinigol sydd yn dechrau yn Semester 1 (Hydref) cyn cael mynediad i’r modiwl Rhagnodi yn Semester 2 (Ionawr).

Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr

Rhaid i fferyllwyr fodloni’r HOLL feini prawf canlynol:

  • Mae ymgeiswyr wedi eu cofrestru fel fferyllwyr gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) neu yng Ngogledd Iwerddon, gyda Chymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon PSNI)
  • Mae gan ymgeiswyr enw da gyda’r GPhC a/neu’r PSNI ac unrhyw reoleiddiwr gofal iechyd arall y maent wedi cofrestru ag ef.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr faes penodol o ymarfer clinigol neu therapiwtig i ddatblygu ymarfer rhagnodi annibynnol ynddo.
  • Rhaid iddynt hefyd fod â phrofiad clinigol neu therapiwtig perthnasol yn y maes hwnnw, sydd yn addas i fod yn sail ar gyfer eu hymarfer rhagnodi wrth hyfforddi.
  • Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod ymarferydd rhagnodi penodedig (DPP) wedi cytuno i oruchwylio eu dysgu yn ymarferol am gyfnod o 90 awr neu fwy o ddysgu yn ymarferol.
  • Darperir cyfleoedd sy'n galluogi cofrestreion y GIG, cofrestreion hunangyflogedig neu rai nad ydynt yn gyflogedig gyda’r GIG i wneud cais am fynediad i’r rhaglen rhagnodi gymeradwy.
  • Rhaid cadarnhau bod y strwythurau llywodraethu angenrheidiol ar waith (yn cynnwys cymorth clinigol, mynediad at amser dysgu gwarchodedig a chymorth gan y cyflogwr ble mae hynny’n briodol) i alluogi myfyrwyr i ymgymryd â’r rhaglen, a chael eu cefnogi’n briodol drwyddi draw.
  • Ni chaiff unrhyw gofnod o ddysgu blaenorol ei ystyried ar y rhaglen hon am nad yw Rheoliadau’r Brifysgol yn caniatáu Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL)/Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol Trwy Brofiad (RPEL) ar ran o fodiwl.
  • Mae gan ymgeisydd a ddewisir i ymgymryd â rhaglen rhagnodi’r cymhwysedd, y profiad a gallu academaidd i astudio ar y lefel sy’n ofynnol ar gyfer y rhaglen honno.
  • Wrth wneud cais, rhaid iddynt sicrhau bod gan yr Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig hyfforddiant a phrofiad sy’n briodol i’w rôl. Rhaid i’r Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig fod wedi cytuno i ddarparu goruchwyliaeth, cymorth a chyfleodd cysgodi ar gyfer y myfyriwr am o leiaf 90 awr o ymarfer dan oruchwyliaeth, a bod yn gyfarwydd â gofynion GPhC y rhaglen, a’r angen i gyflawni’r deilliannau dysgu.

Ar gyfer nyrsys

  • Rhaid i Nyrsys a Bydwragedd lefel 6 ddarparu tystiolaeth o’u gallu i weithio ar lefel 6, e.e. meddu ar ddiploma perthnasol a/neu mae’n bosib y bydd angen iddynt gyflwyno tystiolaeth o brofiad a/neu astudiaeth berthnasol.
  • Ar gyfer lefel 7 (Fferyllwyr, Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol), rhaid i bob ymgeisydd feddu ar radd.
  • Rhaid i Fferyllwyr gael cymeradwyaeth eu cyflogwyr neu’r sefydliad noddi yn nodi bod gan yr ymgeisydd faes priodol o ymarfer clinigol sydd yn galw am sgiliau rhagnodi, a bod ganddynt wybodaeth glinigol, ffarmacolegol a fferyllol gyfredol sydd yn berthnasol i’w maes ymarfer arfaethedig.
  • Rhaid i Fferyllwyr, Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol a fydd yn rhagnodi ar gyfer plant fod ag Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig sydd yn brofiadol a chymwys i ragnodi ar gyfer plant.
  • Mae cynnig o le ar y rhaglen Rhagnodi Annibynnol yn amodol ar i ddatgeliad DBS gael ei ystyried yn foddhaol gan Brifysgol Wrecsam.
  • Rhaid cadarnhau statws cofrestriad proffesiynol pob Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig.
  • Rhaid cwblhau ffurflen gais Rhagnodi Anfeddygol a Ffurflen Gais Generig Brifysgol Wrecsam.
  • Rhaid cwblhau ffurflen arolwg addysgol ar gyfer lleoliad byr mewn Rhagnodi Anfeddygol fel rhan o’r broses ymgeisio.
  • Rhaid cael cydsyniad sydd wedi ei gadarnhau gan arweinydd Rhagnodi Anfeddygol yr Ymddiriedolaeth neu gyfatebol er mwyn ymgymryd â’r cwrs (Mae hyn i’w wneud ar y ffurflen gais a’i wirio yn y cyfweliad).
  • Ni chaniateir unrhyw ddigollediad ar y rhaglen hon – Rhaid i bob myfyrwyr fferyllol gwblhau pob elfen o’r asesiadau er mwyn pasio’r modiwl.
  • Rhaid i bob ymgeisydd ar y rhestr fer fynychu cyfweliad.

Meini prawf mynediad ar gyfer y modiwl Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Proffesiynau Perthynol i Iechyd a Rhagnodi Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd:

Rhaid i bob ffisiotherapydd, ciropodyddion/podiatryddion, radiograffwyr, dietegwyr a pharafeddygon fodloni’r holl feini prawf canlynol:

  • Fod wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd naill ai fel ffisiotherapydd neu bodiatrydd/ciropodydd neu radiograffydd
  • Rhaid i barafeddygon fod yn ymarferwyr uwch
  • Rhaid iddynt fod yn ymarfer yn broffesiynol mewn amgylchedd ble mae angen a nodwyd i’r unigolyn ddefnyddio rhagnodi annibynnol neu atodol yn rheolaidd.
  • Fel rheol, bod ag 1 flwyddyn o brofiad clinigol ers iddynt gofrestru.
  • Cael eu noddi gan y sefydliad sy’n eu cyflogi.
  • Bod ag Addysgwr Ymarfer sydd wedi cytuno i ddarparu yn ystod y rhaglen:
    - gyfleoedd i’r myfyriwr ddatblygu cymwyseddau,
    - goruchwyliaeth, cymorth ac asesiad o’u hymarfer
  • Rhaid i’r cyflogwr gydnabod bod yr Addysgwr Ymarfer yn meddu ar brofiad yn y maes ymarfer perthnasol a’u bod wedi paratoi ar gyfer rôl yr Addysgwr Ymarfer
  • Yn gallu astudio ar lefel academaidd 7 neu uwch.
  • Meddu ar wiriad DBS manylach boddhaol.
  • Cadarnhad gan eu rheolwr clinigol eu bod yn gymwys i gymryd hanes, cynnal asesiad clinigol a diagnosis yn eu maes arbenigedd
  • Cwblhau ffurflen gais ar gyfer cyfweliad.
  • Bydd y broses ddethol yn cynnwys cyfweliad ar gyfer pob ymgeisydd ar y rhestr fer.
  • Rhaid i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad panel gyda chynrychiolydd o’r byd academaidd ac o’r gwasanaeth.
  • Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen archwiliad addysgol.

Ymgeisio


Cynghorir ymgeiswyr i adolygu’r pecyn cymorth ‘Preparing to Prescribe Toolkit’ cyn gwneud cais ar gyfer y rhaglen. Mae’n gyflwyniad i’r myfyriwr ar ddefnyddio adnoddau ar-lein, a hefyd y cysyniad o ddysgu gweithredol. Mae hwn yn becyn cymorth ar gyfer rhagnodwyr anfeddygol sydd i’w ddefnyddio ar-lein am ddim. Mae ar gael o ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.surreytoolkit.uk/ 
Bydd angen ichi wneud cais i’r bwrdd iechyd am le wedi ei gomisiynu i astudio ar y rhaglen. Gall ymgeiswyr sector preifat, rhai nad ydynt yn ymgeiswyr y GIG wneud cais uniongyrchol i’r brifysgol ond bydd y lleoedd sydd ar gael yn ddibynnol ar nifer y lleoedd a gomisiynir.

Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Nyrsys, Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr a Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Rhagnodi Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.
Rydym yn derbyn myfyrwyr unwaith y flwyddyn ym mis Ionawr gan addysgu pob dydd Mawrth am 26 wythnos.
Cysylltwch â: postregadmissions@wrexham.ac.uk am becyn ymgeisio.

Bydd yr Arweinydd Rhaglen neu’r Dirprwy Arweinydd Rhaglen a’r arweinydd Rheoli Meddyginiaethau o’r sefydliad cyflogi (Fferyllydd yw hyn ar gyfer ymgeiswyr sy’n Fferyllwyr) yn cyfweld pob myfyriwr i bennu eu cymhwyster ar gyfer y rhaglen, ac fe gaiff unrhyw dystiolaeth ategol ei chadarnhau yn y cyfweliad.  Ni ellir cadarnhau lle i’r myfyriwr ar y rhaglen hyd nes bo’r holl dystiolaeth ar gyfer gofynion mynediad wedi eu gwirio gan aelod o dîm y rhaglen. Hefyd, oherwydd yr angen am ddysgu ar sail ymarfer, dylai myfyrwyr fod yn gweithio o fewn rôl sy’n gofyn iddynt ddiwallu deilliannau dysgu’r rhaglen, h.y. mewn swydd sy'n galw am lefel o ymreolaeth, neu mewn rôl sy'n gweithio tuag at hyn.

Safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol

Addysgu ac Asesu

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr wneud apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd dynodedig i'r cynorthwyo i ymdrin â hanfodion gwaith prifysgol. Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn ein hadran cymorth i fyfyrwyr 

Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Nyrsys, Rhagnodi Annibynnol ar gyfer Fferyllwyr a Rhagnodi Annibynnol ac Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Rhagnodi Atodol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd.

Dogfen Asesu Ymarfer sy’n cynnwys proffil cychwynnol y myfyriwr, cytundeb dysgu, cofnod o oriau ymarfer, log myfyriol o oriau ymarfer, adolygiad canol cyfnod, Cynllun Rheoli Clinigol, adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, Archwiliad Clinigol Strwythurol Gwrthrychol o’u hymarfer, Cyflawni Cymwyseddau’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS), cyffuriau llyfr fformiwlâu personol o fewn cwmpas ymarfer yr ymarferydd unigol a chadarnhad o gyflawniad.

Byddwch yn cwblhau profiad ymarfer dan oruchwyliaeth (78 awr ar gyfer Nyrsys, 90 awr ar gyfer Fferyllwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (12 diwrnod)) o ddysgu seiliedig ar ymarfer gyda’r Goruchwyliwr Ymarfer a’r Asesydd Ymarfer ar gyfer Nyrsys, Bydwragedd a Nyrsys Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN), Addysgwr Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a’r Ymarferydd Rhagnodi Dynodedig ar gyfer Fferyllwyr. Byddwch hefyd yn gwneud Arholiad Dibaratoad Rhan 1 Prawf Rhifedd (marc pasio 100%) ac Arholiad Dibaratoad Rhan 2) 20 Cwestiwn Amlddewis/Cwestiwn ateb byr (marc pasio 80%).

 
 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

O gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus cewch gofnodi’ch cymhwyster gyda’ch corff proffesiynol perthnasol.


Bydd myfyrwyr yn gallu ceisio am swyddi clinigol mewn ystod o feysydd ymarfer sy’n galw am bresgripsiynydd anfeddygol. Byddwch hefyd yn gallu gwella eich perfformiad, a gwella gofal cleifion yn y rôl yr ydych eisoes yn gweithio ynddi.

 
 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Dyddiadau cyrsiau

Mae'r cwrs hwn bellach ar agor ar gyfer mynediad Ionawr 2026. Os dymunwch wneud cais, cysylltwch â postregadmissions@wrexham.ac.uk am becyn cais.