MSc Ymarfer Cymunedol Arbenigol Nyrsio Ardal
-3-1360x1360.jpg)
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
2 Fl (RhA)
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Addysgir
gan dîm o nyrsys proffesiynol.
Wedi'i gyllido
gan Lywodraeth Cymru.
Recordadwy
y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Pam dewis y cwrs hwn?
Ehangwch eich dealltwriaeth a datblygwch ymwybyddiaeth feirniadol o rôl a chyfrifoldeb prif agweddau nyrsio ardal, gan gynnwys yr wybodaeth gydlynol a manwl ar flaen y gad ym maes gofal.
- Mae ein cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer nyrsys cymwysedig sy'n meddu ar gofrestriad cyfredol fel nyrs (rhan 1) gyda Chofrestr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y DU (sy'n cyfateb i rannau 1 neu 12 o Gofrestr y CNB). Mae'r rhaglen yn galluogi'r myfyriwr i gymhwyso fel Nyrs Ardal a chofnodi'r cymhwyster gyda'r CNB.
- Un o nodweddion deniadol y rhaglen yw y gall yr elfen Diploma Ôl-raddedig o'r cyrsiau gael eu cymryd yn llawn amser dros 1 flwyddyn (hunan-ariannol) neu'n rhan amser dros 2 flynedd (posibilrwydd o gyllid gan Lywodraeth Cymru os ydych yn gweithio yng Nghymru) neu'n hyblyg drwy ddull fesul modiwl (dros 4 blynedd).
- Mae Diploma Ôl-raddedig (Lefel 7) yn agored i fyfyrwyr sydd â lleiafswm o 120 credyd ar lefel 6. Ar ôl cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig gall myfyrwyr barhau â'u hastudiaethau a chyflawni cymhwyster Meistr llawn sy'n dwyn y teitl (MSc Ymarfer Cymunedol Arbenigol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ).
Prif nodweddion y cwrs
- Defnyddio ymchwil gyfoes ac ysgolheictod uwch i ddadansoddi a gwerthuso'n feirniadol prif agweddau a datblygiadau mewn Nyrsio Ardal.
- Byddwch yn cael eich dysgu gan dîm ymroddedig o nyrsys proffesiynol sydd â chefndiroedd mewn swyddi Nyrsio Ardal a Nyrsio Cymunedol.
- Ar ôl cwblhau'r Rhaglen Ymarfer Cymunedol Arbenigol yn llwyddiannus, gellir cofnodi'r cymhwyster Nyrsio Ardal gyda'r CNB.
- Mae’r cwrs yn cynnwys y rhaglen Rhagnodi gan Nyrsys Cymunedol (V100) y gallwch ei chofnodi gyda’r CNB.
- Mae'r rhaglen yn cynnwys 50% theori a 50% ymarfer (lleiafswm o 600 awr o ymarfer) o fewn tîm nyrsio ardal ac mae ganddo gyfnod o 6 wythnos o gyfnerthu ymarfer ar ddiwedd y rhaglen, sy'n sicrhau eich bod yn teimlo'n hollol barod ar gyfer eich rôl newydd fel Nyrs Ardal.
- Ar ôl cwblhau'r Diploma Ôl-radd yn llwyddiannus cynigir y cyfle i fyfyrwyr sydd wedi cronni'r credydau lefel 7 sydd eu hangen i ymgymryd â thraethawd hir 60 credyd sy'n arwain at gymhwyster Meistr cyflawn dan yr enw MSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ymarfer Cymunedol Arbenigol)
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
- Sylfeini Ymarfer Cymunedol: Bydd y modiwl Sylfeini Ymarfer Cymunedol yn galluogi ymarferwyr cofrestredig i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau datrys problemau hyd at bwynt lle y gallant ymarfer yn gymwys mewn lleoliad cymunedol.
- Dulliau Ymchwil: Nod y modiwl Dulliau Ymchwil yw rhoi dealltwriaeth feirniadol i'r myfyrwyr o gydsyniadau athronyddol, ymarferol a moesegol ymchwil a methodoleg ymchwil o fewn cyd-destun iechyd a chymdeithas.
- Portffolio Clinigol: Bydd y modiwl Portffolio Clinigol yn galluogi'r myfyrwyr i ymgymryd ag adfyfyrio beirniadol yn ystod eu lleoliad cymunedol ac edrych ar eu hymarfer proffesiynol a'u datblygiad personol.
- Rhagnodi gan Nyrsys (V100): Nod y modiwl Rhagnodi gan Nyrsys yw paratoi nyrsys cymunedol i ragnodi yn ddiogel, yn briodol ac yn gost effeithiol o Fformiwlâu Nyrsys sy'n Rhagnodi ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol.
- Asesu Anghenion Cymhleth: Bydd y modiwl Asesu Anghenion Cymhleth yn paratoi myfyrwyr i ddelio â sefyllfaoedd gofal cymhleth yn systematig ac yn greadigol ac yn gwneud dyfarniadau cadarn o fewn ffiniau eu disgyblaeth eu hunain.
- Rheoli Ymarfer Arbenigol Cymunedol: Bydd y modiwl Ymarfer Arbenigol Rheoli Cymunedol yn sicrhau bod gan y myfyrwyr wybodaeth greiddiol arweinyddiaeth a rheolaeth yng nghyd-destun ymarfer nyrsio ardal.
- Arloesi mewn Ymarfer Cymunedol: Bydd y modiwl Arloesi mewn Ymarfer Cymunedol yn gwella gallu'r myfyrwyr i arwain a rheoli tîm nyrsio ardal trwy gydnabod yr angen am newid a dylunio a chynllunio arloesedd i adlewyrchu anghenion yn yr ardal. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi'r myfyrwyr i ledaenu'r arfer da hwn.
- Cyfnerthu Ymarfer (gofyniad CNB): Bydd y myfyrwyr yn cwblhau'r modiwl hwn ar ddiwedd eu hastudiaethau, a bydd yn eu galluogi i reoli baich achosion fach o gleifion yn barod ar gyfer cychwyn ar eu rôl newydd fel Nyrs Ardal. Bydd y myfyrwyr yn teimlo'n gwbl barod ar ôl gweithio tuag at hyfedredd CNB dros gyfnod hir o amser.
Bydd myfyrwyr sydd am barhau â'u hastudiaethau ar ôl cwblhau'r Diploma Ôl-radd yn ymgymryd â modiwl traethawd hir.
- Traethawd: Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddangos meddwl annibynnol a dewis, cynllunio, paratoi ac ysgrifennu traethawd hir sy'n archwilio pwnc sy'n berthnasol i Nyrsio Ardal.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae rhaid i bob ymgeisydd i'r cwrs fodloni'r meini prawf canlynol:
- meddu ar gofrestriad cyfredol fel nyrs (rhan 1) gyda CNB y DU a meddu ar gymhwyster sydd o leiaf 120 credyd ar lefel 6.
- darparu geirda boddhaol gan y cyflogwy/rheolwr llinell presennol.
- darparu hunan-ddatganiad o iechyd a cymeriad da a lle bo angen, ymgymryd ag asesiad iechyd galwedigaethol.
- meddu ar drwydded yrru gyflawn y DU
- cyn i chi gael cynnig lle ar y rhaglen hon bydd angen ichi gwblhau cliriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (CRB gynt) a thalu'r ffi briodol, fel y gellir gwirio'ch addasrwydd i weithio gyda phlant a/neu oedolion sy'n agored i niwed.
- Cynigir cyfweliad i bob ymgeisydd sy'n bodloni'r meini prawf mynediad.
Addysgu ac Asesu
Caiff myfyrwyr Nyrsio Ardal eu hasesu mewn nifer o ffyrdd gwahanol yn ystod eu hastudiaethau. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol dulliau o asesu'n cael ei bennu gan wahanol nodau a deilliannau dysgu'r modiwlau.
Mae dulliau asesu'n cynnwys aseiniadau academaidd, astudiaethau achos, cyflwyniadau poster ac arholiadau. Gan fod y rhaglen am ddysgu mewn ymarfer, mae gan bob myfyriwr bortffolio clinigol sy'n cael ei gwblhau wrth i'r myfyrwyr fynd yn eu blaen trwy'r modiwlau. Pennir mentor/mentor llodnodi i bob myfyriwr sydd mewn ymarfer a fydd yn asesu'ch cymhwysedd yn erbyn Safonau Ymarfer Arbenigol ar gyfer Nyrsio Ardan y CNB.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen Ymarfer Cymunedol Arbenigol, gellir cofnodi'r cymhwyster Nyrsio Ardal gyda'r CNB. Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i wneud cais am swyddi Band 6 mewn Nyrsio Ardal a fydd yn cynyddu cyfleoedd ym maes Nyrsio Cymunedol yn gyffredinol.
Ffioedd a chyllid
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael cyllid i dalu ffioedd cwrs os ydych yn gweithio i’r GIG yng Nghymru ar ôl cofrestru.
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
Gwneud Cais
GWNEUD CAIS: