O 2024/25, ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam fydd £9250* y flwyddyn ar gyfer cwrs gradd israddedig llawn amserNid oes rhaid i chi dalu unrhyw arian ymlaen llaw os ydych yn gymwys i gymryd benthyciad ffioedd dysgu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. 

Efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciadau i'ch helpu i dalu'ch ffioedd dysgu a'ch costau byw; mae gan yr adran cyllid myfyrwyr fwy o wybodaeth am ba becynnau cymorth ariannol sydd ar gael.

Mae'r ffioedd a restrir ar y dudalen hon yn berthnasol i fyfyrwyr cartref, os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol cyfeiriwch at ein ffioedd rhyngwladol.

*Mae'r holl ffioedd yn amodol ar unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth

Yn unol ag uchafswm ffi israddedigion a ganiateir gan Lywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr israddedig llawn amser yn talu ffi o £9,250 y flwyddyn. Bydd eich ffi am eich blwyddyn gyntaf yn cael ei nodi yn eich llythyr cynnig.  Bydd ffioedd ar gyfer blynyddoedd astudio dilynol yn cynyddu fel y caniateir gan Lywodraeth Cymru Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn cynyddu’r swm y gellir ei hawlio ar gyfer ffioedd dysgu ar gyfer unrhyw un yr effeithir arno gan y cynnydd hwn. Am ragor o wybodaeth, gweler ein Cwestiynau Cyffredin ar gyfer ffioedd dysgu myfyrwyr israddedig sy'n dychwelyd.

Ffioedd Dysgu Llawn Amser i Israddedigion

Math o Gwrs Ffioedd 2023/24 Ffioedd 2024/25 Ffioedd 2025/26
Gradd Baglor £9000 £9250 £9250
TAR £9000 £9250 £9250
Gradd Meistr Integredig £9000 £9250 £9250
HNC/HND £9000 £9250 £9250
Gradd Sylfaen £9000 £9250 £9250
Gradd Llwybr Carlam £9000 £9250 £9250
Blwyddyn Sylfaen £9000 £9250 £9250
Blwyddyn Lleoliad Diwydiannol £1800  £1850 £1850
Diploma AU llawn amser   £9250  
Ffioedd y Modiwl      
Ffi Modiwl Unigol/Ail-sefyll Blwyddyn ar gyfer myfyrwyr yr UE/DU (fesul 10 credyd)  £750 £750 £800

 

Ffioedd Dysgu Rhan-amser i Israddedigion

Math o Gwrs

Ffioedd 2023/24

Ffioedd 2024/25 

Ffioedd 2025/26

Gradd Baglor 

£4500  

£4500 

£4625

TAR 

£4500  

£4500 

£4625

Gradd Meistr Integredig 

£4500  

£4500 

 

HNC/HND 

£4500  

£4500 

£4625

Gradd Sylfaen 

£4500 

£4500 

£4625

Prentisiaeth Radd (hunan-ariannu/cwmnïau tu allan i Gymru) 

£9000 

£9000

£9250

Ffi Modiwl Unigol ar gyfer myfyrwyr yr UE/DU (fesul 10 credyd) 

£750 

£750 

£800

Ail-sefyll Blynyddoedd ar gyfer myfyrwyr yr UE/DU (fesul 10 credyd) 

£750 

£750 

£800

Eithriadau 

 

 

 

Dip AU Cwnsela 

£4995

£4995

£4995

FdA Gofal Plant Therapiwtig

£3250

£3250

Ddim yn berthnasol

BA (Anrh) Gofal Plant Therapiwtig (L6 Atodol)

£3250

£3250

£3250

FdA/BA (Anrh) Rheoli Busnes Cymhwysol Atodol

£3250

£3250

£3250

Therapi Galwedigaethol (codir tâl yn flynyddol dros 4 blynedd) - Ffioedd sy'n berthnasol i'r rhai sy'n ariannu eu hunain ac nad ydynt yn derbyn bwrsariaeth GIG

£6750

£6750

£6937.50


Sylwer bod yr holl ffioedd a restrir uchod ar gyfer myfyrwyr y DU ac yn flynyddol oni nodir yn wahanol. Os ydych yn fyfyriwr sy'n dychwelyd neu'n ail-sefyll blwyddyn, eich ffi fydd £800 fesul 10 credyd. Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ewch i'n tudalen ffioedd rhyngwladol.

Os hoffech gyngor pellach am yr union ffioedd a chyllid a fydd ar gael i chi, mae gan ein hadrannau cyllid israddedig ac ôl-raddedig mwy o wybodaeth.

Dylech fod yn ymwybodol o’n rheoliadau ffioedd sy’n rhoi arolwg o bryd mae ffioedd yn daladwy, ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau'r brifysgol. Gellir dod o hyd i hwn drwy’r linc isod:

Rheoliadau Ffioedd Dysgu Myfyrwyr 2021-2022

Rheoliadau Ffioedd Dysgu Myfyrwyr 2022-2023

Rheoliadau Ffioedd Dysgu Myfyrwyr 2023-2024

Rheoliadau Ffioedd Dysgu Myfyrwyr 2024-2025

Rheoliadau Ffioedd Dysgu Myfyrwyr 2025-2026