.jpg)
Cwestiynau Cyffredin ynghylch ffioedd i fyfyrwyr israddedig llawn amser.
Content Accordions
-
Beth yw’r swm newydd ar gyfer ffioedd dysgu?
£9,535 yw’r uchafswm ffi newydd a ganiateir ar gyfer rhaglenni israddedig llawn amser ym mhrifysgolion Cymru yn 2025/26.
O 2026/27, bydd yr uchafswm ffi yn codi i £9,790.
Bydd ffioedd dysgu a benthyciadau ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd sylfaen yn lleihau i £5,760 ar gyfer pynciau a addysgir yn yr ystafell ddosbarth megis:
- BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Blwyddyn Sylfaen)
- BA (Anrh) Astudiaethau Addysg (gyda Blwyddyn Sylfaen)
- BSc (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen
- BA (Anrh) Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen
- BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned gyda JNC (gyda Blwyddyn Sylfaen)
Mae ffioedd dysgu a benthyciadau ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd sylfaen mewn pynciau na chânt eu hastudio yn yr ystafell ddosbarth yn parhau i fod yn £9,535 yn 2025/26 (£9,790 2026/27). Mae’r pynciau hyn yn cynnwys:
- Gwyddoniaeth
- Peirianneg
- Pynciau meddygol
- Celfyddydau perfformio a chreadigol
Mae'r rhestr o feysydd pwnc ffioedd is i'w chael yma
-
Mae Fy Ffioedd Dysgu yn Cael eu Hariannu gan GIG Cymru drwy Fwrsariaeth Ffioedd Dysgu AaGIC.
Nac oes. Nid oes angen i chi wneud dim os caiff eich ffioedd dysgu eu hariannu gan AaGIC.
Fodd bynnag, os ydych yn astudio ar gwrs AaGIC ond eich bod wedi optio allan o'r fwrsariaeth ffioedd dysgu AaGIC, yna bydd y wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i chi.
-
A fydda i’n gallu cymryd benthyciad myfyrwyr uwch i dalu am y newid yn y ffioedd?
Byddwch. I gefnogi myfyrwyr, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cynyddu’r swm y gallwch ei hawlio ar gyfer ffioedd dysgu. Os ydych chi wedi gwneud cais i fenthyg y swm llawn i dalu eich ffi, bydd y swm hwnnw yn cael ei gynyddu’n awtomatig i swm y ffi dysgu.
-
Rydw i wedi gohirio mynd i’r Brifysgol. Pa ffi fydda i’n ei dalu?
Mae’r Brifysgol yn cyhoeddi ffioedd yn flynyddol ar gyfer pwyntiau mynediad yn y dyfodol a byddwch yn talu'r swm sy’n berthnasol ar y pwynt hwnnw. Caiff hyn ei nodi yn y llythyr cynnig newydd a anfonir atoch cyn i chi ddechrau gyda ni.
-
Rydw i’n fyfyriwr rhyngwladol. A fydd y newidiadau’n effeithio arnaf?
Ni fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ffioedd dysgu israddedig yn effeithio ar y ffi a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd.
-
Mae gen i gwestiwn o hyd ynglŷn â ffioedd, gyda phwy ydw i'n cysylltu?
Os ydych chi’n ymgeisydd newydd sy’n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Wrecsam ym mis Medi, e-bostiwch admissions@wrexham.ac.uk.
Os ydych chi eisoes yn fyfyriwr ac yn dychwelyd ym mis Medi, e-bostiwch fees@wrexham.ac.uk.
-
Beth yw’r swm newydd ar gyfer ffioedd dysgu?
£9,535 yw’r uchafswm ffi newydd a ganiateir ar gyfer rhaglenni israddedig llawn amser ym mhrifysgolion Cymru yn 2025/26.
O 2026/27, bydd yr uchafswm ffi yn codi i £9,790.
O 2025/26, bydd ffioedd dysgu newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer blynyddoedd sylfaen mewn rhai pynciau.
Bydd ffioedd dysgu a benthyciadau ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd sylfaen yn lleihau i £5,760 ar gyfer pynciau a addysgir yn yr ystafell ddosbarth megis:
- BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar (gyda Blwyddyn Sylfaen)
- BA (Anrh) Astudiaethau Addysg (gyda Blwyddyn Sylfaen)
- BSc (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid gyda Blwyddyn Sylfaen
- BA (Anrh) Rheoli Busnes gyda Blwyddyn Sylfaen
-
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymuned gyda JNC (gyda Blwyddyn Sylfaen)