Cyrsiau Wrecsam ar y brig ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr mewn tablau cynghrair newydd

Date: Dydd Lau, Mai 16, 2024

Mae pedwar pwnc ym Mhrifysgol Wrecsam wedi’u rhestru’n gyntaf ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yn nhablau cynghrair addysg uwch y DU gyfan, sydd newydd eu cyhoeddi.

Mae’r Complete University Guide (CUG) 2025 wedi rhestru Prifysgol Wrecsam yn gyntaf yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr yn y tabl cynghrair pwnc Nyrsio 2025. Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i Nyrsio fod ar frig y tabl.

Mae’r Brifysgol yn cynnig cyrsiau Nyrsio BN (Anrh) mewn Nyrsio OedolionNyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl.

I ychwanegu at newyddion da’r sefydliad, daeth pynciau Cymdeithaseg – y mae’r Brifysgol yn cynnig cyrsiau mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (BA Anrh)Y Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol (BA Anrh), a Diploma Addysg Uwch Iechyd a Llesiant (gyda Blwyddyn Sylfaen) – hefyd yn gyntaf yn y DU ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ar lefel pwnc ymhlith prifysgolion Cymru, mae Prifysgol Wrecsam wedi’i rhestru:

Ar lefel pwnc ar draws holl sefydliadau’r DU, mae’r Brifysgol wedi’i rhestru:

  • Yn gyntaf ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr ac yn gydradd gyntaf ar gyfer rhagolygon graddedigion yn y tabl pwnc Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Yn gyntaf ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yn y tabl pwnc Cymdeithaseg.
  • Yn gydradd ail ar gyfer rhagolygon graddedigion yn y tabl pwnc Gwyddor Fforensig.
  • Ymhlith y 10 gorau ar gyfer rhagolygon graddedigion a’r 10 gorau ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yn y tabl pwnc Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol.

Yn y cyfamser, mae’r Brifysgol hefyd ar y brig yng Nghymru ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr, gan sgorio’n wych gyda 83%.

Yn ogystal â bod ar y brig yn y tabl cynghrair yng Nghymru, cafodd y sefydliad ei restru’n gydradd ail ar draws y DU ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr.

Mae’r sgoriau tabl cynghrair newydd yn dangos gwelliant i Brifysgol Wrecsam, yn dilyn ei hail leoliad ar gyfer bodlonrwydd myfyrwyr yng Nghymru, a’i chweched lleoliad yn y DU yn nhabl y llynedd.

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn du hwnt o falch o’n sgoriau uchel cyson o ran bodlonrwydd myfyrwyr a pha mor fodlon yw’n myfyrwyr gydag ansawdd yr addysgu maent yn ei derbyn.

“Mae hon yn set ragorol o sgoriau ar draws ystod o’n meysydd pwnc, ac mae’n arbennig o braf gweld eu bod yn gysylltiedig â bodlonrwydd myfyrwyr yn ogystal â rhagolygon graddedigion.

“Mae’r perfformiad hwn yn brawf o’n cymuned prifysgol anhygoel ac mae’n sicr yn adlewyrchiad o waith caled cydweithwyr, sy’n gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn ffynnu a llwyddo yn eu hastudiaethau, yma ym Mhrifysgol Wrecsam.

“Buaswn yn annog unrhyw un sy’n ystyried cymryd eu camau nesaf i mewn i addysg uwch i ddod draw i’n diwrnod agored nesaf i raddedigion, a gynhelir ddydd Sadwrn 8 Mehefin. Dewch draw i weld drosoch eich hun, a chael blas ar fywyd ac astudiaeth ym Mhrifysgol Wrecsam. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi.”

Bob blwyddyn, mae’r Complete University Guide yn cyhoeddi tablau cynghrair Prifysgolion a phynciau y DU er mwyn cefnogi darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch eu dyfodol.

  • Cynhelir ein diwrnod agored nesaf i raddedigion rhwng 10am – 2pm ar ddydd Sadwrn, 8 Mehefin. Archebwch eich lle yma.