BSc (Anrh) Gwyddor Fforensig (gyda blwyddyn sylfaen)

Manylion cwrs
Côd UCAS
7F28
Blwyddyn mynediad
2024
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
48
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Partneriaeth
gyda nifer o ddiwydiannau ym meysydd gwyddoniaeth fforensig, cemegol, dadansoddol a deunyddiau
Hyfforddi
mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys ymchwilio i leoliad trosedd, bioleg a chemeg
‘Fferm cyrff’ 1af
o’r math yng Nghymru ar gyfer astudiaeth ac ymchwil taffonomig

Fforensig yn PGW
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r radd hon yn darparu gwybodaeth fanwl o ddisgyblaethau gwyddonol niferus a sut y gellir eu cymhwyso i ymchwilio ystod eang o droseddau. Mae wedi ei theilwrio i hyfforddi myfyrwyr i ddod yn wyddonwyr cymwys a medrus, sydd yn gallu cynnal dadansoddiad o ddeunyddiau, dehongli canlyniadau cymhleth a chyflwyno eu tystiolaeth fel tystion arbenigol.
O drawma grym miniog i sbectra, o esgyn i bryfaid…bydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn eich paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous mewn gwyddoniaeth.
Byddwch yn:
- hyfforddi mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys archwilio safleoedd trosedd, bioleg a chemeg
- defnyddio ein labordai pwrpasol, tŷ safle trosedd, a chyfleuster taffonomig (fferm cyrff) i brofi a gloywi eich sgiliau gwyddonol
- elwa o berthynas cydweithio hirdymor gyda phartneriaid gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, cwmnïau sydd yn arbenigo mewn meysydd megis hyfforddi cŵn chwilio a dadansoddi olion dynol, yn ogystal â chwmnïau dadansoddi sydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr berfformio ymchwil flaengar a chyhoeddi papurau.
- Cymryd rhan yn ein hymarfer hyfforddi amser real blynyddol
Prif nodweddion y cwrs
- Yn cynnwys blwyddyn sylfaen i’ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach
- Cyfleusterau hynod arbenigol gan gynnwys tŷ safle trosedd pwrpasol, wedi ei leoli ar y campws, a’r fferm gyrff drwyddedig gyntaf, a’r unig un, yng Nghymru ar gyfer astudiaeth ac ymchwil taffonomig.
- Staff hynod brofiadol sydd yn gweithio ar achosion ac ym maes ymchwil ac sydd yn darparu sesiynau ymarferol gydag offer labordy modern
- Cyfleoedd i fynychu gwibdeithiau a digwyddiadau cysylltiedig â’r cwrs, gan gynnwys cynadleddau gwyddor fforensig a bod yn gymwys i gael Aelodaeth Myfyriwr o Gymdeithas Siartredig Gwyddor Fforensig (am gost ychwanegol)
- Addysgu cynhwysol a chefnogol gyda chymorth tiwtorial ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- Partneriaethau cadarn gyda nifer o ddiwydiannau ym meysydd gwyddor fforensig, gemegol, dadansoddi a deunyddiau gan gynnwys cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar brosiectau ymchwil ym maes ymchwiliadau fforensig.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae’r cwrs yn cwmpasu tair prif elfen Gwyddor Fforensig, sef: chwilio am, ac adennill tystiolaeth, dadansoddi biolegol (gan gynnwys DNA), cemegol a ffisegol; a chyflwyno tystiolaeth yn y llys. Mae’r cwrs yn hynod ymarferol felly bydd gennych yr holl sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu eich gyrfa.
Ymysg y dulliau addysgu mae darlithoedd, sesiynau labordy, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau penodol i’w pwnc a sgiliau allweddol. Mae dysgu annibynnol yn cael ei hyrwyddo drwy astudiaeth dan arweiniad neu’r adborth a roddir i fyfyrwyr.
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
Bydd y flwyddyn sylfaen yn gyflwyniad i’r ystod o gysyniadau a dulliau gwyddonol sydd yn sail i’r gwyddorau biolegol. Byddwch yn derbyn hyfforddiant trwyadl mewn sgiliau labordy ac yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a mathemateg.
Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu eich sgiliau eich hunain mewn gwyddoniaeth, gyda chronfa sylfaenol o wybodaeth ar draws y prif feysydd gwyddonol.
Modiwlau
- Bioleg Planhigion ac Anifeiliaid
- Sgiliau Labordy a Maes
- Mathemateg a Dylunio Arbrofol
- Cyflwyniad i Wyddoniaeth
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
- Astudiaethau Cyd-destunol
BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)
Mae lefel 4 yn gyflwyniad i ystod eang o wybodaeth a sgiliau gwyddonol, gan roi sylw i fathemateg, ystadegau, bioleg a chemeg. Byddwch hefyd yn cael eich addysgu yn hanfodion gwyddor fforensig, cyfiawnder troseddol ac ymchwilio safle trosedd. Mae ymarfer dwys yn y labordai a’r tŷ safle trosedd yn rhan bwysig o’r flwyddyn hon.
Modiwlau
- Bioleg Celloedd, Biocemeg a Geneteg
- Cyflwyniad i Gemeg
- Sgiliau Hanfodol ar gyfer y Gwyddorau Bywyd
- Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Gwyddoniaeth
- Tystiolaeth Fforensig a Chyfiawnder Troseddol
- Ymchwilio Safle Trosedd
BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)
Mae lefel 5 yn adeiladu ar ac yn ehangu eich portffolio astudio, gan gyflwyno sgiliau dadansoddi offerynnol uwch a gwybodaeth gyfoes mewn bioleg fforensig a gweithdai adnabod dynol. Mae pwyslais yn cael ei roi ar brofiad ymarferol ac ar fethodoleg ymchwil.
Modiwlau
- Bioleg Fforensig
- Dulliau Dadansoddi mewn Gwyddor Gymhwysol
- Anatomeg, Patholeg ac Archwiliad Fforensig o Weddillion Dynol
- Dadansoddi Offerynnol
- Dadansoddi Offerynnol mewn Labordy
- Dulliau Ymchwil: Theori ac Ymarfer
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
Mae’r flwyddyn olaf yn arwain myfyrwyr i feysydd penodol gwyddor fforensig, gan gynnwys taffonomi (dadelfeniad), cyffuriau a thocsicoleg, a chyflwyno tystiolaeth yn y llys. Byddwch yn cynnal prosiect ymchwil mewn maes o’ch dewis.
Modiwlau
- Taffonomi Fforensig
- Cyffuriau a Thocsicoleg
- Gwyddoniaeth yn y Llys
- Ymchwiliad Fforensig i Farwolaethau Torfol
- Prosiect Ymchwil
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Ein gofynion mynediad cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48 pwynt tariff UCAS ond mae pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, hyfforddiant/cymwysterau galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.
Addysgu ac Asesu
Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu; ymysg y rhain mae ymarferiadau seiliedig ar dasgau, senarios safle trosedd ac ystafell lys, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy, arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl drwy amrywiaeth o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd hir ar eich prosiect yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.
DYSGU AC ADDYSGU
Mae’r dulliau addysgu yn cynnwys modiwlau sgiliau craidd mewn gweithdai, darlithoedd gan ymarferwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr ac ymchwil dan arweiniad.
Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, gan ei fod yn gallu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau pynciol penodol a’u sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy’r adborth a roddir i fyfyrwyr, sydd ar gael ar sawl ffurf gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ac un i un.
O ran anghenion penodol, gall gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyrwyr oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.
Rhagolygon gyrfaol
Gall cymhwyster gwyddonol a sgiliau trosglwyddadwy (h.y. sgiliau ymchwil, ysgrifennu adroddiadau, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, cyfathrebu, gweithio mewn tîm, rhifedd a mathemategol a gwneud penderfyniadau) agor y drws i gyfleoedd gyrfaol mewn sawl maes.
Er enghraifft:
- Swyddog Safleoedd Trosedd (SST)
- Cymorth Gwyddonol
- Dadansoddi mewn Labordy
- Yr Heddlu
- Addysgu
- Y Sector Cyhoeddus
- Y Lluoedd Arfog
- Tollau
- Yswiriant
Mae gan ein graddedigion hanes cyflogaeth da, gan fynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus yn yr heddlu, ysgolion/colegau, cwmnïau dadansoddi/cemegol neu astudio cyrsiau ôl-raddedig ledled y wlad neu’n rhyngwladol. Mae rhai wedi mynd ymlaen i weithio ym maes Sicrwydd Ansawdd Labordai, Dadansoddwyr Fforensig Digidol neu hyd yn oed Swyddogion Cŵn Canfod Gweddillion Dynol.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Mae ffioedd dysgu 2024/25 Prifysgol Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.
I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ym Mhentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.
