Chwefror 2024 

Cyhoeddwyd papur cydweithredol newydd yn cynnwys Lisa Formby, Arweinydd Ymchwil Addysg ym Mhrifysgol Wrecsam, ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bryste, a’r Drindod Dewi Sant y mis hwn yn y Journal of Pedagogy, Culture, and Society. 

Mae'r papur yn adeiladu ar adroddiad gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd y llynedd am rwpio plant ysgol yn seiliedig ar eu galluoedd. Roedd y tîm am archwilio barn y dysgwyr am gael eu grwpio yn ôl cyrhaeddiad, ac o ganlyniad cynhaliodd yr astudiaeth ymchwil gyntaf ar lais y dysgwyr, ochr yn ochr â chymhorthwyr addysgu ac athrawon. Y cwestiynau ymchwil a archwiliwyd oedd: 

1. Beth oedd profiadau a chanfyddiadau arferion grwpio dysgwyr mewn grwpiau cyrhaeddiad is a beth oedd eu negeseuon i’w hathrawon? 

2. Pa ffactorau a ddylanwadodd ar benderfyniadau addysgwyr ynghylch ffurfio ac addysgu grwpiau cyrhaeddiad is? 

Dull 

Cynhaliodd y tîm waith maes ansoddol mewn saith ysgol uwchradd yng Nghymru, gan sicrhau bod sampl y dysgwyr yn gynrychioliadol o ran anfantais economaidd-gymdeithasol, lleoliad, a chanran y dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda dysgwyr mewn grwpiau cyrhaeddiad is, a chyfweliadau â dysgwyr unigol, ochr yn ochr â chyfweliadau staff addysgu a chymorth. 

Dadansoddi 

Defnyddiodd yr ymchwilwyr dechneg dadansoddi thematig ymatblyg sy'n golygu eu bod yn chwilio am themâu ar draws y data yn unigol, ac yna'n trafod dehongliadau o fewn y tîm. Roedd y trafodaethau hyn yn caniatáu i'r data gael ei archwilio'n drylwyr. 

Canfyddiadau 

Roedd grwpiau cymorth yn bwysig ar gyfer perthyn 

Roedd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn mwynhau bod mewn grwpiau cymorth â chyrhaeddiad is ac roedd ganddynt berthnasoedd athro-disgybl ffafriol. Disgrifiwyd tasgau ac amgylcheddau dysgu yn gadarnhaol, a theimlai dysgwyr y gallent bob amser ofyn am gymorth pe bai ei angen arnynt. Roedd perthnasoedd cyfoedion hefyd yn dda, ac roedd rhai disgyblion yn “ffrindiau da iawn” yn y dosbarthiadau hyn. Pan ofynnwyd iddynt am y dyfodol, roedd y dysgwyr yn dymuno i'r grwpiau barhau yn eu ffurf bresennol. 

Pwysleisiodd grwpiau cyrhaeddiad hierarchaeth dysgwyr 

Roedd rhai dysgwyr yn rhwystredig o fewn eu grwpiau ac nid oeddent yn gallu symud i fyny set. Er bod dysgwyr yn hoffi cymorth y grwpiau is, nid oeddent yn hoffi anhyblygrwydd y grwpio a'r diffyg ymgynghori ynghylch ble y cawsant eu lleoli. Teimlai rhai dysgwyr hefyd fod y grwpiau is yn arafach, a bod hyn weithiau'n rhwystr i gynnydd. Yn olaf, roedd tystiolaeth i ddangos bod rhai dysgwyr wedi datblygu safbwyntiau negyddol amdanynt eu hunain, gan ddefnyddio enwau fel “diflas,” “twp,” a “rhyfedd.” 

Safbwyntiau cymysg ar ddiben grwpiau cyrhaeddiad 

Disgrifiwyd grwpiau cyrhaeddiad is a grwpiau cymorth yn aml fel rhai cyfforddus a phleserus, lle gallai dysgwyr feithrin hyder a chynhesrwydd emosiynol. Roedd rhai athrawon o'r farn bod y grwpiau cymorth yn rhoi'r cyfle i'r dysgwr 'ddarbwyllo' mewn lleoliad a oedd dan lai o bwysau, yn enwedig os oedd gwrthdaro rhyngddynt a'i athro neu ddosbarth arferol. 

Casgliad 

Roedd yn amlwg o’r astudiaeth fod y rhan fwyaf o’r grwpiau cyrhaeddiad is a grwpiau cymorth yn safleoedd hanfodol ar gyfer lle’r oedd y dysgwr yn perthyn. Mynegodd dysgwyr foddhad â'u profiad o'r gweithgareddau, y cyfarwyddiadau a'r cymorth sydd ar gael. Roedd y berthynas rhwng yr athrawon a’r disgyblion yn bwysig iawn i'r dysgwyr yn y grwpiau hyn. Pwysleisiodd athrawon a chymhorthwyr addysgu troshaenu gwerthoedd teuluol ar waith grwpiau cymorth, a oedd yn creu teimladau o undod ac ymddiriedaeth. Fodd bynnag, gallai hyn hefyd helpu i gynnal y status quo o’r hierarchaeth teulu/grŵp cyrhaeddiad, oherwydd bod cysylltiadau gofal yn awgrymu anghydraddoldebau pŵer. Yn aml, dywedodd yr athrawon fod angen gofal a sylw ar y dysgwyr unigol, tra bod y dysgwyr yn codi materion ehangach ar draws yr ysgol gyfan, gan wrthod y cyfrifoldeb. Mae’r papur yn amlygu’r angen am ystyriaeth bellach ar syniadau addysg gynhwysol, pwrpas grwpio cyrhaeddiad, a hunaniaeth dysgwyr. 

Darllenwch y papur llawn.