A yw Math Seicolegol yn Dylanwadu ar Ganfyddiad a Chof Cynrychioliadau Meddyliol wrth Archwilio Amgylchedd Rhithwir?

Dr Gwennan Barton, Darlithydd mewn Seicoleg Wybyddol

Nod yr ymchwil oedd archwilio a yw math seicolegol yn dylanwadu ar sylw unigolyn a'i gof am dirnodau wrth archwilio amgylchedd rhithwir newydd. Roedd y cyhoeddiad arfaethedig yn canolbwyntio ar gyfnod penodol o'r astudiaeth wreiddiol, gan archwilio a yw math seicolegol yn dylanwadu ar y sylw i wybodaeth am dirnod. Defnyddiwyd cynllun arbrofol a oedd yn cynnwys nifer o ddulliau o fewn yr astudiaeth wreiddiol gyffredinol ac roedd nifer o gamau. Dewiswyd y cynllun er mwyn deall y cwestiwn ymchwil yn llawnach o ran math seicolegol. Yn yr erthygl arfaethedig mae'r ffocws ar y cam traciwr-llygaid meintiol. Cafodd sampl o 93 o unigolion eu recriwtio o blith gwirfoddolwyr hunan-ddewisedig. Rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a glynwyd wrth God Moeseg ac Ymddygiad Cymdeithas Seicolegol Prydain (2018).

Archwiliodd unigolion amgylchedd bwrdd gwaith rhithwir a oedd yn cynnwys tirnodau tra bod symudiadau llygaid yn cael eu recordio drwy ddefnyddio traciwr llygaid Eye-Tribe a meddalwedd OGAMA. Edrychwyd ar y cam archwilio a’r traciwr-llygaid i ganfod cyfanswm y nifer o weithiau yr ailedrychwyd ar dirnodau. Gwnaed dadansoddiad ar sail eitem hefyd. Ar ôl y cam archwilio a’r traciwr-llygaid aethpwyd ymlaen i’r camau eraill - tasgau cof a chwestiynau penagored. Yn ogystal â hyn, cwblhaodd cyfranogwyr wybodaeth ddemograffig ac adnodd math seicolegol (FPTS; Francis, 2005).

Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystadegol arwyddocaol rhwng pob lefel o fath seicolegol (parau swyddogaethol a mathau amlwg) a chyfanswm ailymweliadau (ailedrych) â’r tirnodau. Mae'r canfyddiadau'n cyfrannu at fath seicolegol a llenyddiaeth wybyddol a chânt eu trafod mewn perthynas â ffactorau sy'n dylanwadu ar sylw i wrthrychau tirnod mewn perthynas â Damcaniaeth Math Seicolegol