.jpg)
Darlithoedd Agoriadol
Yn newydd ar gyfer 2024, mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gyflwyno cyfres gyffrous o Ddarlithoedd Cychwynnol. Rydym wrth ein bodd cael cyflwyno ein Hathrawon sydd newydd eu penodi, a fydd yn cyflwyno sgyrsiau ynghylch eu teithiau o fewn Addysg Uwch a thu hwnt a sut y maent wedi cyrraedd y pwynt hwn yn eu gyrfa.
Byddem wrth ein bodd pe baech yn dod i ddathlu cyflawniadau gwych ein hacademyddion yn eu meysydd o ddiddordeb ar draws addysgu, dysgu, ac ymchwil.
Mae Darlithoedd Cychwynnol yn ddigwyddiadau agored sy’n agored i bawb gyda derbyniad bwyd a diod i ddilyn.

Content Accordions
-
21 Ionawr | Meddwl drwy’r Lens
Yr Athro Karen Heald: Meddwl drwy’r Lens

Mae’r Athro Karen Heald yn Arlunydd, yn Academydd ac yn Athro mewn Ymarfer Celf Ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae ffilmiau arbrofol Karen yn archwilio amser, safle a hreadigrwydd o safbwynt arluniol. Mae’n cydweithredu ac yn lledaenu ymchwil yn fyd-eang drwy breswylfeydd, arddangosfeydd, gwyliau ffilm, cynadleddau a chyhoeddiadau.
Ym Mhrifysgol Wrecsam, mae arweinyddiaeth greadigol Karen yn cael ei harddangos wrth arwain MA Cyfres Celf a Dylunio, gan gynnwys MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol a MA Celf mewn Iechyd. Mae ei hymchwil yn cwmpasu cyfadrannau a sefydliadau allanol, gweithredu fel Cyd-gynullwr, Cyd ymchwilydd, a Chynghorydd ar grantiau UKRI mawr. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Cyfiawnder i’r Bobl (AHRC, 2025-2030), Llwyfan Map Cyhoeddus (AHRC, 2023-2025), a Dinesydd Ecolegol (EPSRC, 2022-2026).
Y tu hwnt i rolau Karen ym Mhrifysgol Wrecsam, roedd ei swyddi blaenorol yn cynnwys: mentora artistiaid ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru (2018-2019). Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor (2012–2018). rlunydd/Ymchwilydd Anrhydeddus, adran seiciatrig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (2011–2014). Ymchwilydd mewn naratif, deallusrwydd synhwyraidd a dysgu cinesthetig drwy fframweithiau creadigol, Prifysgol Salford (2009- 2012).
-
5 Tachwedd | Saernïo Cynhwysiant o fewn STEAM, Sut?
Yr Athro Anne Nortcliffe: Athro Peirianneg a Thechnoleg Gynhwysol
Mae'r Athro Anne Nortcliffe yn wyddonydd ail genhedlaeth ac yn beiriannydd trydedd cenhedlaeth. Datblygodd Anne o fod yn dechnegydd profi deunydd i'w thad pan oedd yn blentyn, i arwain tîm peirianneg awyrofod academaidd, ac ymlaen i sefydlu Ysgol Peirianneg, Technoleg a Dylunio ym Mhrifysgol Canterbury Christ Church.
Mae arweinyddiaeth strategol Anne yn amlwg fel Deon newydd Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadureg a Pheirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae'n dwyn ynghyd ei diddordebau proffesiynol a phersonol, cyfleoedd, synergeddau traws-ddisgyblaethol gwirioneddol a chreadigrwydd mewn pynciau STEAM. O dan ei harweiniad hi, mae'r Gyfadran yn arddel addysgeg greadigol, addysg gynhwysol a chynaliadwy, arloesi ac ymchwil sy'n cael ei feithrin gyda chydweithwyr mewn diwydiant lleol er mwyn dod â budd i'r holl bartneriaid a chefnogi twf rhanbarthol ac economaidd.
Mae Anne yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ac wedi ennill gwobrau am ei chyfraniadau i amrywiaeth rhywedd o fewn gwaith adeiladu a pheirianneg. Fel ymchwilydd technoleg addysg cenedlaethol a rhyngwladol profiadol, mae Anne yn frwd dros ddatblygu'r arferion addysg peirianneg a chyfrifiadureg gorau er budd pawb.
Cefndir y Ddarlith
Bydd y ddarlith yn darparu mewnwelediad i sut i greu addysg gynhwysol sy'n delio gyda ac yn cael effaith bositif ar y ffrwd dalent o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys deilliannau cyflogaeth graddedigion a thu hwnt. Byddwch chi, y gynulleidfa, yn cael mewnwelediad i sut allwch chi gyfrannu mewn ffordd ragweithiol tuag at greu cymuned gynhwysol ac ystyried datrysiadau i broblemau sydd o fudd i'r gymdeithas, gan gael traweffaith positif ar bobl, ac ar economïau rhanbarthol a chenedlaethol.
