.jpg)
Darlithoedd Agoriadol
Yn newydd ar gyfer 2024, mae Prifysgol Wrecsam yn falch o gyflwyno cyfres gyffrous o Ddarlithoedd Cychwynnol. Rydym wrth ein bodd cael cyflwyno ein Hathrawon sydd newydd eu penodi, a fydd yn cyflwyno sgyrsiau ynghylch eu teithiau o fewn Addysg Uwch a thu hwnt a sut y maent wedi cyrraedd y pwynt hwn yn eu gyrfa.
Byddem wrth ein bodd pe baech yn dod i ddathlu cyflawniadau gwych ein hacademyddion yn eu meysydd o ddiddordeb ar draws addysgu, dysgu, ac ymchwil.
Mae Darlithoedd Cychwynnol yn ddigwyddiadau agored sy’n agored i bawb gyda derbyniad bwyd a diod i ddilyn.

Content Accordions
-
25 Mawrth 2026 | Gweithio gydag Ynni: Lleihau newid hinsawdd
Yr Athro Rob Bolam: Gweithio gydag Ynni: Lleihau newid hinsawdd

Dechreuodd yr Athro Rob Boilam ei daith fel prentis yn British Aerospace ac astudiodd yn Sefydliad Addysg Uwch Gogledd-ddwyrain Cymru. Ers hynny mae wedi ennill cydnabyddiaeth am gydweithio ar ystod eang o brosiectau awyrennau sifil a milwrol rhyngwladol. Ym 1992, sefydlodd Altitude Products Ltd., ymgynghoriaeth gweithgynhyrchu a dylunio offer awyrennau, a redodd tan 2004.
Trosglwyddodd Rob i’r byd academaidd fel uwch ddarlithydd yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy lle bu’n rheoli rhaglen Prentisiaethau Awyrenegol. Mae’n Gymrawd gweithredol o’r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol ac yn gadeirydd is-bwyllgor y gynhadledd ar gyfer Pwyllgor Gyriant Cyfun IMechE / RAeS. Mae wedi trefnu digwyddiadau a chynadleddau yn WU ac wedi sefydlu'r cwrs MSc mewn Technoleg Awyrennau Heb Griw. Ar hyn o bryd mae’n bennaeth ar y labordy Gyriant Trydanol ac arweiniodd y prosiect ymchwil dwy flynedd FastFan yn llwyddiannus. Mae’n mwynhau rhannu ei brofiadau diwydiannol gyda myfyrwyr a chydweithwyr a datblygu cysyniadau arloesol i gyflawni manteision cymdeithasol.
Hysbysiad hygyrchedd: mae'r fideo hwn yn cynnwys fflachio sgrin achlysurol a all achosi anghysur mewn gwylwyr sy'n sensitif i olau
-
21 Ionawr | Meddwl drwy’r Lens
Yr Athro Karen Heald: Meddwl drwy’r Lens

Mae’r Athro Karen Heald yn Arlunydd, yn Academydd ac yn Athro mewn Ymarfer Celf Ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae ffilmiau arbrofol Karen yn archwilio amser, safle a hreadigrwydd o safbwynt arluniol. Mae’n cydweithredu ac yn lledaenu ymchwil yn fyd-eang drwy breswylfeydd, arddangosfeydd, gwyliau ffilm, cynadleddau a chyhoeddiadau.
Ym Mhrifysgol Wrecsam, mae arweinyddiaeth greadigol Karen yn cael ei harddangos wrth arwain MA Cyfres Celf a Dylunio, gan gynnwys MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol a MA Celf mewn Iechyd. Mae ei hymchwil yn cwmpasu cyfadrannau a sefydliadau allanol, gweithredu fel Cyd-gynullwr, Cyd ymchwilydd, a Chynghorydd ar grantiau UKRI mawr. Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Cyfiawnder i’r Bobl (AHRC, 2025-2030), Llwyfan Map Cyhoeddus (AHRC, 2023-2025), a Dinesydd Ecolegol (EPSRC, 2022-2026).
Y tu hwnt i rolau Karen ym Mhrifysgol Wrecsam, roedd ei swyddi blaenorol yn cynnwys: mentora artistiaid ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru (2018-2019). Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Bangor (2012–2018). rlunydd/Ymchwilydd Anrhydeddus, adran seiciatrig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (2011–2014). Ymchwilydd mewn naratif, deallusrwydd synhwyraidd a dysgu cinesthetig drwy fframweithiau creadigol, Prifysgol Salford (2009- 2012).
-
5 Tachwedd | Saernïo Cynhwysiant o fewn STEAM, Sut?
Yr Athro Anne Nortcliffe: Athro Peirianneg a Thechnoleg Gynhwysol
Mae'r Athro Anne Nortcliffe yn wyddonydd ail genhedlaeth ac yn beiriannydd trydedd cenhedlaeth. Datblygodd Anne o fod yn dechnegydd profi deunydd i'w thad pan oedd yn blentyn, i arwain tîm peirianneg awyrofod academaidd, ac ymlaen i sefydlu Ysgol Peirianneg, Technoleg a Dylunio ym Mhrifysgol Canterbury Christ Church.
Mae arweinyddiaeth strategol Anne yn amlwg fel Deon newydd Cyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadureg a Pheirianneg ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae'n dwyn ynghyd ei diddordebau proffesiynol a phersonol, cyfleoedd, synergeddau traws-ddisgyblaethol gwirioneddol a chreadigrwydd mewn pynciau STEAM. O dan ei harweiniad hi, mae'r Gyfadran yn arddel addysgeg greadigol, addysg gynhwysol a chynaliadwy, arloesi ac ymchwil sy'n cael ei feithrin gyda chydweithwyr mewn diwydiant lleol er mwyn dod â budd i'r holl bartneriaid a chefnogi twf rhanbarthol ac economaidd.
Mae Anne yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ac wedi ennill gwobrau am ei chyfraniadau i amrywiaeth rhywedd o fewn gwaith adeiladu a pheirianneg. Fel ymchwilydd technoleg addysg cenedlaethol a rhyngwladol profiadol, mae Anne yn frwd dros ddatblygu'r arferion addysg peirianneg a chyfrifiadureg gorau er budd pawb.
Cefndir y Ddarlith
Bydd y ddarlith yn darparu mewnwelediad i sut i greu addysg gynhwysol sy'n delio gyda ac yn cael effaith bositif ar y ffrwd dalent o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys deilliannau cyflogaeth graddedigion a thu hwnt. Byddwch chi, y gynulleidfa, yn cael mewnwelediad i sut allwch chi gyfrannu mewn ffordd ragweithiol tuag at greu cymuned gynhwysol ac ystyried datrysiadau i broblemau sydd o fudd i'r gymdeithas, gan gael traweffaith positif ar bobl, ac ar economïau rhanbarthol a chenedlaethol.
