Rydym wedi ymrwymo i gefnogi anghenion datblygu ein staff academaidd a’n myfyrwyr PhD drwy raglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau a hyfforddiant ymchwil.

Trwy gydol y flwyddyn academaidd, rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd hyfforddiant sydd wedi’u cynllunio i gefnogi ymchwilwyr yn ystod pob cam o’u gyrfaoedd-p’un a ydych yn dechrau arni yn y maes ymchwil, yn fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig, yn ymchwilydd gyrfa gynnar neu ganol gyrfa, neu’n ymwneud ag arweinyddiaeth academaidd. Mae ein sesiynau yn cwmpasu sgiliau ymchwil hanfodol, methodoleg ymchwil, datblygu ymchwilwyr, goruchwylio doethuriaeth, arweinyddiaeth academaidd, datblygiad proffesiynol, a dilyniant gyrfa.

Gallwch archwilio ein hyfforddiant a'n digwyddiadau mewn dwy ffordd:

  • Yn ôl Rhaglen: Dewiswch raglen hyfforddi benodol isod i weld yr holl sesiynau cysylltiedig
  • Yn ôl Mis: Gweld yr holl sesiynau sydd i ddod yn nhrefn dyddiad gan ddefnyddio'r golwg calendr misol isod

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk. 

Content Accordions

  • Tachwedd 2026

     

    Digwyddiadau Hyfforddiant Tachwedd 2026:  

     

    Dyddiad ac amser Teitl y Sesiwn Cyflwyno Rhaglen Hyfforddi Crynodeb o'r Sesiwn

    Dydd Mercher 04 Tachwedd 2026


    13:00-15:00

    Cyflwyno mewn Cynadleddau

    Wyneb yn wyneb yn 

    Theatr Nick Whitehead

    Ymgysylltiad, dylanwad, ac effaith

     

    Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio rhai sgiliau allweddol cyflwyno mewn cynhadledd, gan edrych ar sut i wneud gwybodaeth gymhleth a chysyniadau'n hygyrch ac apelgar ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol. Mae'r sesiwn yn addas i bawb, p'un a ydych chi'n paratoi ar gyfer eich cynhadledd gyntaf neu'n awyddus i atgyfnerthu eich sgiliau cyflwyno presennol. 

    Deilliannau’r Sesiwn

    1. Teilwra ymchwil i wahanol gynulleidfaoedd

    2. Cyflwyno cysyniadau ymchwil cymhleth 

    3. Arddangos sgiliau cyfathrebu hyderus

     

    Dydd Iau 12 Tachwedd 2026 

    14:30 -15:30

    Sut i Ddefnyddio Adolygiad gan Gymheiriaid Ar-lein Ymgysylltiad, dylanwad, ac effaith

    Gofynnwyd i chi lunio adolygiad gan gymheiriad o erthygl mewn cyfnodolyn. A ddylech chi dderbyn? Os ydych chi, sut ddylech chi fynd i'r afael â'r dasg hon, a beth sy'n gwneud adolygiad adeiladol? Bydd y sesiwn yn chwalu dirgelion y broses adolygiad gan gymheiriaid, gan archwilio sut mae'n cefnogi colegoldeb, cydweithrediad ac adborth adeiladol, wrth ddatblygu cyfathrebu ymchwil i wahanol gynulleidfaoedd yn eglur ac effeithiol. Bydd hefyd yn ystyried buddion adolygu gan gymheiriaid.

    Deilliannau’r sesiwn

    Erbyn diwedd y sesiwn, dylai cyfranogwyr fod yn gallu:

    1. Adnabod rôl adolygu gan gymheiriaid yn yr ecosystem ymchwil
    2. Adnabod cyfleoedd i ymgysylltu gydag adolygu gan gymheiriaid
    3. Cyfathrebu ymchwil i wahanol gynulleidfaoedd

     

    Dydd Iau 26 Tachwedd 2026

    11:00-12:00

    Cyflwyniad i Ymgysylltu â Diwydiant

    Wyneb yn Wyneb

    B08

    Ymgysylltiad, dylanwad, ac effaith

    Gall ymgysylltu â diwydiant helpu ymchwilwyr i gynyddu cyrhaeddiad, perthnasedd a gwerth eu gwaith yn y byd go iawn. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno rhai o'r ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithio gyda phartneriaid allanol, o adnabod diddordebau a rennir a deall anghenion y diwydiant, hyd at ddatblygu cydweithrediadau o amgylch ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth.

    Rhan allweddol o'r sesiwn fydd archwilio sut mae blaenoriaethau'n cael eu gosod a'u halinio ar draws amgylcheddau academaidd a'r diwydiant. Gall ymchwilwyr academaidd a phartneriaid yn y diwydiant ddelio gyda'r un heriau o fannau cychwyn gwahanol, gweithio i amserlenni gwahanol a diffinio gwerth neu lwyddiant mewn gwahanol ffyrdd. Gall deall y gwahaniaethau hyn helpu ymchwilwyr i adnabod ble mae diddordebau'n gor-gyffwrdd mewn gwirionedd, llunio cydweithrediadau cryfach, a chyfathrebu eu syniadau mewn ffordd sy'n berthnasol i anghenion a chyd-destun partneriaid allanol.

    Gan dynnu ar brofiad gan Ymchwil a Datblygu cydweithredol, prosiectau Innovate UK, ymchwil wedi'i ariannu'n uniongyrchol gan ddiwydiant a throsglwyddo technoleg, bydd y sesiwn hefyd yn ystyried beth sy'n gwneud i gydweithrediadau weithio'n dda a rhai o'r problemau ymarferol ddylai ymchwilwyr fod yn ymwybodol ohonynt wrth ymgysylltu'n allanol.

    Bydd hefyd yn cyflwyno'r gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael ar draws y Brifysgol er mwyn helpu ymchwilwyr i feithrin cysylltiadau allanol a symud cyfle yn ei flaen. Mae hyn yn cynnwys gwybod pwy i gysylltu â hwy am help gyda meysydd megis adnabod partneriaid addas, datblygu cydweithrediadau, ariannu llwybrau, eiddo deallusol, cyfrinachedd, cytundebau a masnacheiddio, fel nad yw ymchwilwyr yn teimlo eu bod angen mynd drwy'r broses ar eu pen eu hunain.

    Deilliannau Dysgu

    Erbyn diwedd y sesiwn, dylai cyfranogwyr fod yn gallu:

    1. Adnabod gwahanol ffyrdd y gall ymchwilwyr ymgysylltu gyda'r diwydiant a deall beth allai partneriaid allanol fod yn chwilio amdano mewn cydweithrediad academaidd.

    2. Adnabod y gwerth posibl, y cymwysiadau a'r partneriaid allanol sy'n gysylltiedig gyda'u hymchwil eu hunain a chyfathrebu'r rhain yn effeithiol i gynulleidfaoedd anacademaidd.

    3. Cydnabod prif ystyriaethau allweddol wrth ddatblygu 

     Archebu: Archebwch os gwelwch yn dda 

    Cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk os oes angen i chi dderbyn y ddolen outlook/Teams. 

  • Rhagfyr 2026

     

    Digwyddiadau Hyfforddiant Rhagfyr 2026:  

     

    Dyddiad ac amser Teitl y Sesiwn Cyflwyno Rhaglen Hyfforddi Crynodeb o'r Sesiwn

    Dydd Mawrth 01 Rhagfyr 2026

    10:00-11:00

    Cyflwyniad i Ymgysylltiad Cyhoeddus Ar-lein  Ymgysylltiad, dylanwad, ac effaith

    Gall ymchwil sy'n ymgysylltu gyda'r cyhoedd fod yn llawn sylwadau craff, ysbrydoledig a bod â thraweffaith hirdymor sylweddol. Ond sut ydym ni'n dylunio gwaith ymchwil ac ymddygiad ymgysylltiad cyhoeddus sy'n effeithiol ac yn foesegol?  Bydd y sesiwn yma'n cyflwyno ac yn archwilio prif ystyriaethau ar gyfer ymchwilwyr wrth ymgysylltu gyda'r cyhoedd, gan gynnwys y mesurau moesegol gofynnol a thechnegau rheoli effeithiol.

    Deilliannau’r sesiwn

    1. Adnabod prif egwyddorion ymchwil ymgysylltiad cyhoeddus.

    2. Rhoi arferion moesegol mewn ymgysylltiad cyhoeddus ar waith.

    3. Defnyddio technegau er mwyn

    Dydd Mercher 02 Rhag 2026

    13:00 -14:00

    Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil

    Hybrid (Teams / B103)

    Digwyddiad Agored ar gyfer Ymchwil Mae’r Digwyddiad Agored yn blatfform i rannu ymchwil ac i rwydweithio gyda staff a myfyrwyr ymchwil ar draws y Brifysgol. Mae pob siaradwr yn cael 6 munud i siarad am brosiect ymchwil presennol, gweithgaredd, neu syniad. Mae’r Diwrnod Agored ar gyfer Ymchwil yn gyfle gwych i rannu eich ymchwil â chydweithwyr, cael adborth gan gymheiriaid ac ymarfer eich sgiliau cyflwyno a chynhadledd. Ar gyfer mynychwyr, mae hwn yn ffordd dda i ddysgu am weithgareddau ymchwil sy’n digwydd ar draws y Brifysgol, canfod eich cydweithredwr nesaf, a chefnogi’ch cydweithwyr a’n cymuned ymchwil myfyrwyr.  

    Dydd Lau 10 Rhag 2026

     

    12:00 -13:00

    Adeiladu eich Presenoldeb Ymchwil eich Hun

    Wyneb yn wyneb

    B12

    Ymgysylltiad, dylanwad, ac effaith

    Bydd y sesiwn gweithdy ymarferol yma yn helpu ymchwilwyr i adeiladu eu presenoldeb ar-lein, codi eu proffil ymchwil a chysylltu gyda chynulleidfaoedd ehangach. Byddwch yn archwilio sut i greu a gwella eich proffil ymchwilydd Prifysgol Wrecsam, gosod a gwneud defnydd effeithiol ar blatfformau megis ResesarchGate ac ORCID, a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gynyddu gwelededd eich ymchwil. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried sut i gyfathrebu eich ymchwil mewn ffydd apelgar a hygyrch, gan eich helpu i adeiladu eich hunaniaeth fel ymchwilydd a rhannu eich gwaith gyda'r cyhoedd.

    Deilliannau’r sesiwn

    1. Adeiladu eich proffil ymchwilydd drwy greu neu wella eich proffil Prifysgol Wrecsam 

    2. Defnyddio platfformau ymchwil yn effeithiol er mwyn arddangos eich ymchwil a gwella'r ffordd y gellir ei ddarganfod.

     

    3. Hyrwyddo eich ymchwil i gynulleidfaoedd ehangach drwy adnabod ffyrdd o ddefnyddi'r cyfryngau cymdeithasol. 

    Dydd Lau 10 Rhag 2026

     

    13:15 -14:15

    Adeiladu eich Presenoldeb Ymchwil: Llwybr at Draweffaith

    Wyneb yn wyneb

    B14

    Ymgysylltiad, dylanwad, ac effaith

    Sut ydych chi'n gallu troi eich presenoldeb ymchwil yn gyfleoedd i wneud gwahaniaeth y tu hwnt i'r byd academaidd? Bydd y gweithdy rhyngweithiol yma'n helpu ymchwilwyr i archwilio sut allai eu gwaith fod yn sail i bolisi ac ymarfer, dylanwadu ar sefydliadau, neu fod o fudd i gymunedau a'r gymdeithas yn ehangach. 

    Drwy gyfres o weithgareddau ymarferol, dan arweiniad, byddwch yn adnabod cynulleidfaoedd potensial ar gyfer eich ymchwil, yn mapio llwybrau o ganfyddiadau ymchwil i newid yn y byd go iawn, ac ystyried sut i ymgysylltu gyda'r bobl a fyddai'n defnyddio eich gwaith neu'n cael budd ohono. 

    Byddwch yn gadael gyda dealltwriaeth o botensial eich ymchwil ar gyfer traweffaith a cham ymarferol nesaf tuag at ei ddatblygu.

    Deilliannau’r Sesiwn

    1. Adnabod cynulleidfaoedd posibl a'r rhai fyddai'n cael budd o'ch ymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd.

    2. Archwilio llwybrau y gallai ymchwil fod yn sail i arfer, dylanwadu ar bolisi, neu greu buddion cymdeithasol ehangach.

    3. Adnabod gweithgareddau ymgysylltu ymarferol a'r camau nesaf er mwyn helpu i ddatblygu traweffaith posibl eich ymchwil.

     

     Archebu: Archebwch os gwelwch yn dda 

    Cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk os oes angen i chi dderbyn y ddolen outlook/Teams.