.jpg)
Darllenwch Nexus Wrecsam
Darganfyddwch Nexus Wrecsam - Arddangos ymchwil Prifysgol Wrecsam ar waith
Darllenwch y rhifyn llawn neu neidiwch yn syth at erthyglau unigol.
Oes gennych chi ddiddordeb cyfrannu at ein rhifyn nesaf? Darllenwch yr alwad am bapurau a chanllawiau awdur. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich gwaith!
Content Accordions
-
Lawrlwythwch y Rhifyn Llawn
Wrexham Nexus Volume 1, Issue 1, 2026
Cyfrol 1, Rhifyn 1, 2026
Ar-lein ISSN 2977-6341
Prif Olygydd: Yr Athro Mandy Robbins
Golygydd Rheoli: Dr Emma Harrison
- Golygyddol
-
Awtistiaeth fel Cyflwr, Gwahaniaeth a Hunaniaeth: Anghysylltiad Strwythurol Fframwaith Hybrid
Crynodeb
Cefndir: Mae dealltwriaethau cyfoes o awtistiaeth yn cyfuno elfennau o anhwylder, anabledd, gwahaniaeth, a hunaniaeth. Yn y Deyrnas Unedig, caiff awtistiaeth ei ddiagnosio drwy offer clinigol, ei chydnabod yn y gyfraith fel anabledd, ei dathlu’n gyhoeddus fel gwahaniaeth, ac fe’i gwrthodir yn benodol fel clefyd. Cyflwynir y fframio hybrid hwn fel un cynhwysol, ond mae’n cynhyrchu tensiynau o ran diagnosis, mynediad at gymorth, a thrafodaeth gyhoeddus. Nod: Mae’r erthygl hon yn archwilio sut y daeth y fframio hybrid hwn i’r amlwg, a sut y mae’r defnydd ar yr un pryd o resymeg feddygol, gyfreithiol, gymdeithasol ac yn seiliedig ar hunaniaeth yn cynhyrchu anghydlyniad strwythurol yn y modd y caiff awtistiaeth ei threfnu a’i chefnogi. Dull: Adolygiad cysyniadol sy’n syntheseiddio llawlyfrau diagnostig, fframweithiau cyfreithiol a pholisi, a llenyddiaeth gymdeithasol-ddiwylliannol, gyda chyfeiriadau at feysydd eraill o seiciatreg ac astudiaethau anabledd. Prif ganfyddiadau: Dengys y dadansoddiad fod y fframio hybrid yn gweithredu fel cyfaddawd haenog ar draws parthau clinigol, cyfreithiol a diwylliannol, gan ganiatáu i sefydliadau symud rhwng anhwylder, anabledd, gwahaniaeth a hunaniaeth yn ôl yr angen, gan gadw awdurdod diagnostig tra’n ymddangos yn gynhwysol. Mae diagnosis yn gweithredu llai fel disgrifiad niwtral ac yn fwy fel dyfais ddyrannu adnoddau, hyd yn oed wrth i hunan-ddiagnosis a hawliadau yn seiliedig ar hunaniaeth ddod yn fwy amlwg. Mae naratifau dathlu sy’n canolbwyntio ar gryfderau a rhethreg y sbectrwm yn tueddu i ganoli unigolion awtistaidd mwy annibynnol, tra bo’r rhai â lefelau uwch o anghenion cymorth yn parhau i gael eu hymyleiddio, eu meddygoli, neu eu gwneud yn anweledig yn strwythurol. Goblygiadau: Mae mynd i’r afael â’r gwrthddywediadau hyn yn gofyn am onestrwydd strwythurol ynghylch beth y deellir awtistiaeth i fod, beth a gyfrifir yn niwed, a pha ganlyniadau y mae systemau’n ceisio eu dilyn. Heb eglurder o’r fath, mae perygl i bolisi ac ymarfer awtistiaeth barhau’n rhetoraidd flaengar ond yn strwythurol anghyfrifol, gan gynnal darpariaeth anghyfartal ar draws sbectrwm yr angen.
Allweddeiriau: Awtistiaeth; niwroamrywiaeth; anabledd; diagnosis; hunaniaeth; polisi; adolygiad cysyniadol
Monty Kennard and Catrin Street-Mattox

-
Deall ‘Parodrwydd’ Graddedigion Ffisiotherapi yng Nghymru: Astudiaeth Ansoddol Peilot
Crynodeb
Mae’r papur hwn yn cyflwyno astudiaeth beilot o dri ffisotherapyddion profiadol sy’n goruchwylio graddedigion diweddar mewn lleoliadau cyhyrysgerbydol yng Nghymru. Fe’i cynhaliwyd er mwyn archwilio lefel o ‘fod yn barod’ ymysg graddedigion ffisiotherapi drwy geisio cael eu safbwyntiau a safbwyntiau rhai sy’n gweithio ochr yn ochr â graddedigion ffisiotherapi yng Nghymru, neu sy’n eu goruchwylio. Yn dilyn adolygiad llenyddiaeth, cafodd cwestiynau eu datblygu er mwyn ymgymryd â chyfweliadau lled-strwythuredig. Dadansoddwyd y cyfweliadau drwy Ddadansoddiad Thematig Adfyfyrgar. Y tair thema gafodd eu hadnabod yn ystod y broses o Ddadansoddiad Thematig Adfyfyrgar oedd, Yn barod i ymarfer, Yn pontio’r bwlch, ac yn Croesawu i’r byd go iawn! Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon wedi eu cyd-destunoli o fewn corff y llenyddiaeth a bydd yn helpu i fod yn sail i ddyluniad ymchwil ar raddfa fwy ar y pwnc hwn a allai hefyd gael ei berfformio’n yn hydredol er mwyn gwerthuso pa mor barod yw graddedigion ffisiotherapi, yn ogystal â graddedigion o Broffesiynau Iechyd Perthynol eraill.
Geiriau Allweddol: Bod yn Barod, Ffisiotherapi, Graddedigion, Lleoliad

-
Archwilio Gorfeddyginiaethau Meddyginiaeth Gwrth-iselder: Astudiaeth Dull Cymysg yn Defnyddio Cyfwel
Crynodeb
Mae meddyginiaethu iechyd meddwl wedi cyfrannu at ddibyniaeth gynyddol ar feddyginiaeth gwrth iselder ar draws y Deyrnas Gyfunol, gyda Chymru’n arddangos cyfraddau rhagnodi arbennig o uchel. Mae’r astudiaeth dulliau cymysg hwn yn archwilio canfyddiad ymarferwyr iechyd meddwl y dyfodol o’r defnydd a wneir o wrth-iselyddion mewn perthynas â pholisi Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda phedwar myfyriwr seicoleg (N=4) gafodd eu recriwtio drwy samplu pwrpasol, a chafodd data ei ddadansoddi gan ddefnyddio dadansoddi thematig ochr yn ochr â dadansoddiad cynnwys amlwg o ddogfennau polisi. Mae canfyddiadau’n awgrymu cydgyfeiriant rhannol rhwng safbwyntiau polisi a chyfranogwr wrth werthuso gofal holistig sy’n ystyriol o drawma; fodd bynnag, cafodd gwahaniaethau eu hadnabod mewn gweithrediad canfyddedig. Roedd cyfranogwyr yn rhagweld dibyniaeth barhaus ar ddulliau ffarmacolegol oherwydd pwysau systemig, seicoaddysg gyfyngedig, a mynediad cyfyngedig at ymyriadau seicolegol. Mae’r canfyddiadau hyn yn rhai archwiliol ac yn adlewyrchu canfyddiadau yn hytrach na phrofiad clinigol uniongyrchol. Mae’r astudiaeth wedi’i chyfyngu gan faint sampl bach, sydd, er ei fod yn briodol ar gyfer y dyfnder sydd ei angen mewn dadansoddiad thematig a gynhaliwyd ochr yn ochr â dadansoddiad cynnwys o fewn yr amserlen a roddwyd, yn cyfyngu ar gyffredinolrwydd. Yn ogystal, ni chafodd safbwyntiau uniongyrchol rhagnodwyr eu cynnwys oherwydd yr heriau’n sicrhau cymeradwyaeth foesol gan y GIG. Er mwyn mynd i’r afael â’r cyfyngiad hwn, cafodd llythyr agored a awdurdodwyd gan Dr Davis a’i gyd-feddygon teulu eu hymgorffori er mwyn rhoi cyd-destun i bryderon ymarferwr cyfoes ynghyd gor-ddibyniaeth ar feddyginiaeth o fewn iechyd meddwl yng Nghymru. Byddai ymchwil y dyfodol yn elwa o recriwtio sampl mwy, o safbwynt meddygol, gan gynnwys rhagnodwyr sy’n ymarfer, er mwyn gwella cymhwysedd a dyfnder y canfyddiadau.
Geiriau Allweddol: Gwrth iselyddion, Gor-feddyginiaethu, Dulliau Cymysg, Cymru, Seicoleg, Polisi
Morgaine Jeffreys-Evans

-
Golwg Fanwl ar Godi Hwyl: Datgelu Anafiadau Cyffredin Ymysg Oedolion sy’n Athletwyr Codi Hwyl Allsta
Crynodeb
Mae gofynion corfforol a chyfranogiad codi hwyl Allstar wedi cynyddu dros y ddau ddegawd diwethaf ac felly hefyd y perygl o anaf. Fodd bynnag, ychydig iawn sy’n hysbys am epidemoleg anaf mewn rhai sy’n codi hwyl i Allstar o fewn y Deyrnas Unedig. Diben yr astudiaeth hon oedd adnabod y safle anaf fwyaf cyffredin, mecanwaith a’r safleoedd sy’n agored i anaf ymysg oedolion sy’n athletwyr codi hwyliau Allstar yn y Deyrnas Unedig ac archwilio triniaeth gyffredin a rheolaeth ohono. Cynhaliwyd astudiaeth feintiol ddisgrifiadol, trawsadrannol gan ddefnyddio holiadur electronig a ddosbarthwyd ymysg oedolion sy’n codi hwyliau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r data a gasglwyd yn cynnwys demograffeg, hanes hyfforddiant, nodweddion anaf, a thriniaeth a rheolaeth gyda dadansoddiad amlder yn cael ei berfformio. Cyfranogodd cyfanswm o 130 o oedolion sy’n codi hwyliau. Y lleoliad anaf mwyaf cyffredin oedd y pen/wyneb (15.99%). Bod mewn safle sy’n codi/taflu athletwyr eraill yw’r mecanwaith anaf mwyaf cyffredin (28.03%), gyda’r prif rai sydd ar y gwaelod ac sy’n cael eu troelli yn adrodd am y cyfraddau anaf canolrifol (~4). Cafodd y rhai oedd yn codi hwyl eu cynghori’n bennaf i gael seibiant llwyr oddi wrth hyfforddiant (63.39%) a defnyddio rhew ar yr anaf fel triniaeth (23.14%). Roedd anafiadau i’r breichiau yn fwy cyffredin nag anafiadau i’r coesau ymysg oedolion sy’n codi hwyliau i Allstar, gyda nifer fawr i’r pen/wyneb, sy’n wahanol i’r llenyddiaeth gyfredol. Mae angen ymchwil pellach er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd i ddatblygu rhaglenni atal anafiadau penodol ac archwilio gwahaniaethau rhwng y rhywiau.
Geiriau Allweddol: Allstar, Anafiadau, Epidemoleg, Codi Hwyl
Kristian Weaver and Ella Dyke

-
Dulliau Ymchwil SAGE Ar-lein
Sage Research Methods Book Review
Jacqui Maung a Sam Thomas
-
Dulliau blêr o ymchwilio i grefydd
Messy Research Methods Book Review
Prof. Mandy Robbins
