.jpg)
Sbringfwrdd 2026 Ymchwil ac Addysgu
Chwilfrydedd, Pwrpas Dinesig a Dyfodol Digidol
Dechreuom y Gynhadledd Sbringfwrdd gyda chroeso gan yr Athro Joe Yates, a sefydlodd y naws yn hyfryd drwy ganolbwyntio ar chwilfrydedd, cydweithredu, a phwysigrwydd oedi i adfyfyrio ar ble rydyn ni ac i ble rydyn ni’n mynd nesaf.
Siaradodd Joe ynghylch gweledigaeth a gwerthoedd y Brifysgol, a phwysigrwydd bod yn fwriadus o ran y pwyslais a roddir ar ymchwil o fewn y sefydliad. Mae ymchwil, fel yr oedd yn ein hatgoffa, yn eistedd wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae angen ei wau’n weithredol ac yn fwriadol drwy bopeth yn hytrach na’i fod ar yr ymylon.
Thema ganolog a oedd yn rhedeg drwy’r sesiwn agoriadol oedd beth mae’n ei olygu i fod yn brifysgol ddinesig fodern: un sy’n cyfuno rhagoriaeth academaidd ag effaith yn y byd go iawn. Cafodd ymchwil a dysgu eu cyflwyno fel elfennau sy’n cynnal ei gilydd, gydag ymchwil gymhwysol yn cynorthwyo i wreiddio’r Brifysgol ym mywyd diwylliannol a chymdeithasol Wrecsam a’r rhanbarth yn ehangach. Roedd yna ymdeimlad cryf fod hyn ynghylch creu cyfleoedd ystyrlon a gwneud “y stwff sy’n gwneud i ni godi o’r gwely bob bore”, nid uchelgais haniaethol, ond gwaith sy’n teimlo’n bwrpasol ac yn gysylltiedig.
Cafodd RDAPau eu disgrifio fel “cam enfawr ymlaen” a dechrau pennod newydd gyffrous. Yn gyffredinol, roedd y neges yn eglur: ni ddylai ymchwil fod yn rhywbeth sy’n digwydd yn y cefndir neu mewn cilfachau ynysig. Yn hytrach, dylai fod yn rhywbeth sydd wedi’i ymgorffori ym mhopeth a wnawn fel sefydliad.

Content Accordions
-
Arloesi Dinesig a Lles y Cyhoedd
Cenhadaeth Ddinesig a Mapio Cymdeithasol a Diwylliannol Pontio’r Cenedlaethau Ystafell Wrecsam

Roedd sesiwn gyntaf y diwrnod yn canolbwyntio ar arloesi dinesig a lles y cyhoedd, a hynny dan arweiniad Paula Wood, ynghyd â Nina Ruddle a Steffan Gwyn, i gyd o’r tîm Cenhadaeth Ddinesig/Map Cyhoeddus. Roedd y sesiwn hon yn archwilio sut y gellir defnyddio ymchwil mewn ffordd wahanol pan fo profiad bywyd yn cael ei osod yn ganolbwynt iddo.
Cafodd y prosiect a rannwyd ei fframio o amgylch y cwestiwn canolog: sut mae lle yn dylanwadu ar fynediad at gyfalaf cymdeithasol a diwylliannol ar draws y cenedlaethau? Y nod yw helpu i bontio’r gagendor rhwng polisi a phrofiad bywyd, gan weithio gyda disgyblion Blwyddyn 8, oedolion hŷn a sefydliadau cymunedol ac ysgolion.
Yn fethodolegol, mae’r prosiect wedi’i adeiladu o amgylch TrACE ac mae’n defnyddio dulliau creadigol, cyfranogol, cymysg a dulliau sy’n pontio’r cenedlaethau. Yn hollbwysig, mae’n ymchwil gyda chymunedau, nid ymchwil arnynt yn unig. Mae’r gwaith yn cael ei wasgaru ar draws pedwar cam: casglu data yn seiliedig ar leoliad, mapio haenog, creu ystyr a chyfnewid gwybodaeth.
Mae’r sylfaen ddamcaniaethol yn tynnu ar gyfalaf cymdeithasol a diwylliannol, hunaniaeth, a thrawma, gyda ffocws ar fapio ymdeimlad o berthyn, cyfle a hunaniaeth mewn lle. Roedd yna bwyslais cryf ar y syniad y gall lleisiau plant fod yn ffurfiau trylwyr o dystiolaeth, gan adeiladu ar waith megis Lle Llais. Fe’n hatgoffwyd yn y sesiwn hon “nad cefnlen yw lle, ond amod hanfodol i ymdeimlad o berthyn.”
Polisi Digidol, Democratiaeth ac Addysg Uwch

Nesaf, fe glywsom gan Dr Garrett Grainger, Cymrawd Ymchwil mewn Cynhwysiant Cymdeithasol, a gynigiodd sesiwn ddiddorol ar ddiffygion democrataidd mewn polisi a strategaeth ddigidol addysg uwch yn y DU.
Archwiliodd Garrett y cyd-destun cymdeithasol ehangach, gan gynnwys twf gweithgarwch eithafol a’r dde eithafol ar-lein, a’r pwysau cynyddol mae hyn yn ei osod ar sefydliadau addysg uwch. Mae Prifysgolion yn aml wedi’u rhoi mewn sefyllfa o fod yn lleoedd a ddylai ymateb i radicaleiddio ar-lein a helpu i’w wrthsefyll, ond eto mae strategaeth ac arweinyddiaeth ddigidol yn parhau i fod yn anghyson ar draws y sector.
Trafododd Garrett sut mae sefydliadau addysg uwch yn aml yn adlewyrchu sgyrsiau ehangach megis cyfalafiaeth academaidd, marchnadoli a rheolwriaeth. Roedd ei ddadansoddiad yn seiliedig ar ddadansoddi cynnwys strategaethau digidol prifysgolion, gan ddefnyddio categorïau megis dinesigrwydd, entrepreneuriaeth, rheolwriaeth a pherthynoldeb.
Dangosodd canfyddiadau mai dinesigrwydd (y syniad o gyfrannu at les y cyhoedd) yw’r un a gynrychiolir leiaf mewn strategaethau sefydliadol. Mewn cyferbyniad, mae perthynoldeb (sy’n canolbwyntio ar adeiladu cymuned o fewn sefydliadau) yn ymddangos yn fwy aml, ochr yn ochr â rheolwriaeth (effeithlonrwydd, awtomeiddio, dulliau gwerth am arian) ac entrepreneuriaeth (cystadleuaeth am gyllid a safle mewn “ras arfogi digidol”).
Yn ddiddorol, er bod prifysgolion yn aml yn cyfeirio at gynhyrchu “dinasyddion da”, mae yna lawer llai o ymgysylltiad penodol â dinasyddiaeth ddigidol neu strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â radicaleiddio ar-lein.
Roedd argymhellion Garrett yn galw ar brifysgolion i:
- adolygu a chryfhau strategaethau digidol
- diffinio radicaleiddio ar-lein yn benodol fel problem gymdeithasol
- ymgorffori dinasyddiaeth ddigidol yn fwy ystyrlon yn y cwricwlwm
Roedd ei sesiwn yn codi cwestiynau pwysig ynghylch rôl ddinesig prifysgolion o fewn tirwedd ddigidol sy’n newid yn gyflym.
Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol a Mapio Ecolegau Mycelaidd

Nesaf, cyflwynodd Dr Tracy Simpson y prosiect Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol, a oedd yn cynnig golwg hynod o ddiddorol ar gynaliadwyedd, cysylltiad, a ffordd o feddwl yn seiliedig ar leoliad.
Mae’r prosiect yn archwilio’r hyn mae Tracy yn ei ddisgrifio fel “ecolegau mycelaidd”, sef ffordd o feddwl ynghylch rhwydweithiau cysylltiad sy’n aml yn gudd, yn danddaearol, ac o’r golwg, yn debyg iawn i systemau myceliwm ffwngaidd ym myd natur. Defnyddiwyd y syniad i archwilio sut rydym yn cysylltu â’n gilydd, sut mae cymunedau’n ffurfio, a sut y gallai economïau cynaliadwy a chynhwysol ymffurfio.
Un ffocws allweddol yn y prosiect yw gofyn gwahanol fathau o gwestiynau ynghylch lle, hunaniaeth a meithrin perthnasoedd: pwy ydym ni, sut rydym ni, a sut rydym ni’n cysylltu. Mae’r gwaith wedi’i wreiddio’n ddwfn yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac mae’n defnyddio dull cyfranogol sy’n seiliedig ar y celfyddydau, gan gynnwys mapio cyd-destunol a gweithgareddau sy’n meithrin perthnasoedd.
Un o’r ymarferion adfyfyriol a rannwyd oedd y dull “sut allwn ni?” - gan gymell cyfranogwyr i ystyried: os dinasyddion ecolegol yw’r ateb, beth yw’r cwestiwn? Symbylodd hyn sgyrsiau ynghylch hygyrchedd, cynaliadwyedd a chymuned fel pryderon canolog.
Rhannodd Tracy hefyd ddatblygiad EC_Wrex, rhwydwaith newydd ar gyfer Wrecsam, sy’n parhau i dyfu a dwyn pobl ynghyd o amgylch dinasyddiaeth ecolegol a gweithredu cymunedol. Bydd hyn yn dod i ben gyda’r Ŵyl Dinasyddion Ecolegol yng Nghymru ar yr 2il o Fedi, sy’n addo dwyn y syniadau hyn ynghyd mewn amgylchedd mwy cyhoeddus a chydweithredol.
-
Arloesi a Chydweithredu mewn Ymchwil
Cydweithio - (Samarbeta! - Cydweithio!) - Sweden a Chymru
Cyfleoedd a Heriau ar gyfer ymchwil rhyngwladol - astudiaeth achos

Rhannodd Dr Jason Woolley a Juhani Hemmilä yr hyn y gwnaethant ei ddysgu o’u cydweithio Cymru-Sweden, i atgyfnerthu partneriaethau ymchwil traws-Ewropeaidd.
Roedd y drafodaeth yn archwilio’r hyn sy’n debyg a beth sy’n wahanol rhwng diwydiannau cynhyrchu cerddoriaeth a sain yn y ddwy wlad, yn arbennig felly o safbwynt graddfa, cyd-destun diwylliannol a dulliau addysgeg. Mae’r ddau gyd-destun yn rhannu sectorau creadigol cryf a ffocws ar gynhyrchu cerddoriaeth, ond tynnwyd sylw at rai gwahaniaethau strwythurol ac addysgol diddorol.
Er enghraifft, mae gan KMH (Y Coleg Cerdd Brenhinol yn Stockholm) ffocws cryf ar gelfyddyd gain, lle mae Prifysgol Wrecsam yn gogwyddo mwy tuag at gelfyddyd gymhwysol a thechnoleg. Mae’r strwythurau ariannu yn gwahaniaethu’n fawr yn ogystal, gydag addysg uwch yn Sweden ar gael am ddim o’i gymharu â model y DU.
Mae KMH hefyd yn sefydliad llawer llai, gydag oddeutu 1,500 o fyfyrwyr yn arbenigo mewn cynhyrchu cerddoriaeth. Yn ogystal â dylanwadu ar ddulliau addysgu, mae’r gwahaniaethau hyn yn dylanwadu ar ymarfer a chydweithrediad mewn ymchwil.
Aeth y sesiwn ati hefyd i archwilio rhai o heriau ymarferol a moesegol ymchwil traws-genedlaethol, yn arbennig felly o ran moeseg a gwarchod data. Yn y DU, mae’r prosesau hyn fel arfer yn cael eu rheoli’n ganolog gan sefydliadau, tra yn Sweden, mae’r cyfrifoldeb yn aml yn fwy uniongyrchol gydag ymchwilwyr unigol, wedi’u cefnogi gan arweiniad gan arweinwyr ymchwil. Yn ogystal, mae KMH yn cynnal ei gweinydd preifat ei hun ar gyfer rheoli data, gan adlewyrchu ymagwedd wahanol tuag at lywodraethu a seilwaith.
Un thema arbennig o ddiddorol oedd llif gwaith digidol a “gwaith teg” ym maes cynhyrchu cerddoriaeth, gan gynnwys y cysyniad o ormod o ddewis mewn prosesau creadigol. Cafodd hyn ei archwilio drwy ddulliau megis holiaduron ar-lein, profi mewn labordy, a gweithgareddau cydbwyso sain.
Roedd un enghraifft a drafodwyd yn ymwneud â phrofi rhesymeg mewn labordy, lle roedd amgylchiadau meddalwedd yn cael eu haddasu naill ai i gyfyngu ar offer neu i ddarparu cyfres anghyfyngedig o opsiynau creadigol - gan dynnu sylw at sut y gall cyfyngiad a digonedd ddylanwadu mewn gwahanol ffyrdd ar brosesau penderfynu creadigol.
Roedd y canfyddiadau’n awgrymu cyferbyniad mewn pwyslais: yn Sweden, mae mwy o ffocws ar y broses greadigol ac archwilio, ond yn y DU yn aml mae pwyslais cryfach ar gyflogadwyedd a pharodrwydd proffesiynol.
Yn gyffredinol, gobaith y gwaith ar y cyd yw darparu effaith sylweddol, gan gynnwys datblygu cwricwlwm, cyfleoedd cyfnewid i fyfyrwyr, a chysylltiadau agosach gydag ymarfer o fewn y diwydiant.
Ymgorffori Ymholi gan Ymarferwyr ar Raddfa: Canfyddiadau Cynnar o’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Ymholi Mewn Ysgolion (NAtES)

Adfyfyriodd cydweithwyr o’r tîm addysg ar ystod o brosiectau a rhaglenni hirdymor a ddatblygwyd dros y degawd diwethaf, gan gynnwys NATES, EREIS a NPEP.
Un o’r themâu allweddol a oedd yn rhedeg drwy’r drafodaeth hon oedd y ffordd mae maint a chyd-destun Cymru’n galluogi cysylltiadau a newid ystyrlon ar draws y system. Yn hytrach na gweithio mewn cilfachau ynysig, mae yna botensial gwirioneddol ar gyfer cydweithrediad cysylltiedig ar draws ysgolion, prifysgolion a’r systemau addysg ehangach.
Roedd llawer o’r gwaith a rannwyd yn canolbwyntio ar gefnogi athrawon i ymgyfarwyddo ag addysgeg, cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a chymryd rhan mewn dulliau ymarfer sy’n seiliedig ar ymholi. Tynnwyd sylw at y ffaith fod gweithio mewn partneriaeth rhwng ysgolion a phrifysgolion yn ganolog i hyn.
Trafodwyd y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) fel ymgais i greu strwythur mwy canolog ar gyfer cefnogi ymholi sy’n cael ei arwain gan athrawon - yn ei hanfod, gweithredu fel “sbringfwrdd” i alluogi addysgwyr i ddilyn ymarfer sy’n seiliedig ar ymchwil. Roedd hyn yn cynnwys cefnogi unigolion ac ysgolion cyfan, a chreu strwythurau caniatâd sy’n galluogi athrawon i gymryd rhan ystyrlon mewn gwaith ymholi.
Un nod allweddol yw atgyfnerthu cynllunio i wella ysgolion drwy ddefnydd mwy systematig o dystiolaeth, gan gynnwys defnyddio modelau rhesymeg ac adolygiadau tystiolaeth. Cyfeiriwyd yn ogystal at y dull Defnydd o Safon o Ymchwil Mewn Addysg (QURE) fel rhan o’r ymdrech ehangach hon i gefnogi penderfyniadau mwy gwybodus.
Un her sy’n ailadrodd ei hun y tynnwyd sylw ati oedd maint sylweddol yr ymchwil a chanllawiau sy’n gallu bod yn anghyson â’i gilydd sydd ar gael i athrawon. Mewn ymateb, mae yna ymdrech amlwg dros sicrhau dulliau “siop un stop” sy’n helpu ysgolion i adnabod ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt, lleihau dyblygu a chefnogi gwneud penderfyniadau mwy eglur.
Fodd bynnag, nodwyd yn ogystal nad yw mentrau megis NPEP bob amser yn ymdreiddio drwy systemau ysgolion cyfan, gydag ymgysylltu ar adegau yn parhau i fod ar lefel unigol neu ran o ysgol yn hytrach na dod yn arfer ysgol gyfan sydd wedi’i ymgorffori. Mae yna uchelgais ehangach gan Lywodraeth Cymru i symud tuag at newid sy’n seiliedig ar dystiolaeth fwy cyson ar draws y system addysg.
Un o’r gwersi allweddol a ddysgwyd o’r drafodaeth oedd bod mentrau yn dueddol o fod yn fwy effeithiol pan fydd uwch arweinwyr, a phenaethiaid yn benodol, yn rhan weithredol ohonynt - gan helpu i ymgorffori’r defnydd o ymholi a thystiolaeth yn ddyfnach ar draws ysgolion.
Torri tir newydd: Adnoddau AI i hybu eich ymchwil

Nesaf, archwiliodd Sam Thomas o’r Llyfrgell y sefyllfa ymchwil gyfredol a heriau delio gyda “chymaint o ddewis” pan mae’n dod i ganfod a defnyddio ymchwil o safon.
Thema ganolog oedd sut mae AI eisoes yn newid y broses ymchwil. Tynnodd Sam sylw at sut y gall adnoddau AI gynorthwyo ar hyn o bryd gyda phethau megis awgrymu termau chwilio amgen, crynhoi erthyglau, ac adnabod cysylltiadau rhwng ffynonellau. Er y gall hyn fod yn ddefnyddiol, mae hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch trosglwyddo gwybyddol, tryloywder o ran sut mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu ac ymddiriedaeth mewn allbynnau sy’n cael eu cynhyrchu gan AI.
Roedd y pwyslais drwy gydol hyn ar ddefnyddio’r offer hyn mewn modd beirniadol a meddylgar, yn hytrach na dibynnu arnynt yn anfeirniadol fel llwybrau cyflym.
Cyflwynodd Sam amrywiaeth o offer defnyddiol sy’n gallu cefnogi darganfod ymchwil pan fo’n cael ei ddefnyddio gyda ffordd o feddwl beirniadol:
- Offer ymchwilio AI JSTOR, sy’n gweithredu ar lefel erthygl ac sy’n galluogi defnyddwyr i archwilio adrannau o destunau neu destunau cyflawn drwy symbyliadau sgyrsiol
- Ategyn ChatGPT ar gyfer darganfod sgyrsiol JSTOR, sy’n cefnogi chwiliad iaith fwy naturiol ar draws cynnwys
- PsychInfo, lle mae offer AI wedi’u mewnosod yn weledol ac wedi’u hintegreiddio i’r broses chwilio
- Mapiwr cyfeiriadau, sy’n ddefnyddiol ar gyfer olrhain sut mae ymchwil yn cysylltu ar draws cyhoeddiadau
- Cynorthwyydd Ymchwil Canolog ProQuest, sy’n cynnwys ffwythiannau delweddu pynciau er mwyn helpu i fapio meysydd ymchwil a pherthynas rhwng cysyniadau
Yn gyffredinol, roedd y sesiwn yn tynnu sylw at gyfleoedd a chyfyngiadau AI mewn ymchwil academaidd. Er y gall yr offer hyn wneud darganfod yn gynt ac yn fwy cysylltiedig, mae angen eu defnyddio’n ofalus ac yn feirniadol - yn arbennig felly o ran dibynadwyedd ffynonellau, tryloywder a barn academaidd.
-
Arloesi i Greu Effaith Gymdeithasol
Os Oes Rhaid i Gleifion Ofyn - Mae Systemau Wedi Methu: Mynd i’r Afael â Bylchau mewn Adsefydlu Ymarfer Corff Canser

Siaradodd Dr Chelsea Batty ynghylch gwaith sy’n mynd i’r afael â bylchau mewn adsefydlu ymarfer corff canser.
Darparodd Chelsea gefndir defnyddiol ar fioleg canser a llwybrau triniaeth, gan ganolbwyntio’n arbennig ar lewcemia celloedd plasma a amlmyeloma. Mae’r rhain yn gyflyrau prin, sy’n effeithio ar oddeutu 1 mewn 1 miliwn o bobl, ac yn aml mae ganddynt brognosis gwael. Fel arfer, mae triniaeth yn golygu cemotherapi ynghyd â thrawsblaniadau bôn-gelloedd.
Un broblem allweddol y tynnwyd sylw ati oedd nad yw adsefydlu ymarfer corff canser wedi’i integreiddio’n gyson i lwybrau’r GIG ac mae’n aml yn cael ei ddarparu drwy ddarpariaeth awdurdod lleol neu wasanaethau preifat, gan greu loteri cod post o ran mynediad at gefnogaeth.
Prif nod astudiaeth achos ymchwil Chelsea oedd gwella a diogelu ffitrwydd a màs cyhyrau drwy gydol triniaeth canser. Gall adsefydlu ymarfer corff ddigwydd ar wahanol gamau, gan gynnwys rhagsefydlu, yn ystod triniaeth, adferiad wedi triniaeth, a gofal lliniarol.
Roedd yr astudiaeth achos yn canolbwyntio ar raglen ymarfer 8 wythnos gydag un claf oedd wedi hunangyfeirio. Roedd y claf yn derbyn triniaeth cemotherapi a bôn-gelloedd a chymerodd ran mewn tair sesiwn ymarfer yr wythnos dan oruchwyliaeth dros gyfnod o 8 wythnos.
Cafodd mesuriadau eu cymryd ar y dechrau, ar y pwynt canolog, a thuag at ddiwedd y rhaglen er mwyn olrhain cynnydd. Dangosodd y canfyddiadau ddeilliannau seicolegol cadarnhaol, llai o flinder, a chynnydd mewn màs cyhyr. Yn gyffredinol, roedd y gwaith yn tynnu sylw at y ffaith fod gan adsefydlu ymarfer corff rôl ystyrlon i’w chwarae gyda gwahanol fathau o ganser a chamau gofal.
Siarad am Dlodi: Ystyried sut y mae ymarferwyr gwaith cymdeithasol yn myfyrio ar ymarfer wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o esgeulustod a cham-drin.

Nesaf, archwiliodd Dr Dawn Jones dlodi mewn gwaith cymdeithasol a sut mae gweithwyr cymdeithasol yn adfyfyrio ar dlodi ac yn ymateb iddo’n ymarferol.
Dechreuodd y sesiwn drwy dynnu sylw at y ffaith fod tlodi yn cynyddu yng Nghymru, yn arbennig felly yng ngogledd Cymru. Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol gan Lywodraeth Cymru o’r cysylltiad rhwng tlodi a nifer y plant sy’n dod i mewn i’r system gofal.
Nod yr ymchwil oedd archwilio sut mae gweithwyr cymdeithasol yn cymhwyso dull sy’n ymwybodol o dlodi mewn ymarfer a chynhyrchu dealltwriaeth newydd fel sail i ddulliau gwaith cymdeithasol yn y dyfodol. Mae hyn yn eistedd ochr yn ochr â dadleuon ehangach ynghylch yr angen am strategaeth wrthdlodi fwy eglur, gan nodi nad oes gan Wrecsam un ar hyn o bryd, a bod ymarfer yn aml yn cael ei lunio gan ddull diogelu mwy cyffredinol.
Defnyddiodd yr astudiaeth gyfweliadau ar-lein gyda gweithwyr cymdeithasol yng ngogledd Cymru, ac roedd wedi’i gwreiddio mewn methodoleg realydd beirniadol, ystyriol o ffeministiaeth. Roedd y ffocws ar ymarfer gyda theuluoedd yn byw mewn tlodi lle roedd lles plentyn yn achos pryder.
Roedd y gwaith yn defnyddio’r dull Gwaith Cymdeithasol sy’n Ymwybodol o Dlodi a ddatblygwyd gan Gymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol, sy’n cydnabod yn benodol achosion strwythurol tlodi yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb ar lefel unigol yn unig.
Awgryma’r canfyddiadau fod gweithwyr cymdeithasol yn ymwybodol bod tlodi’n broblem, fodd bynnag mae eu cyfrifoldeb craidd yn parhau i fod yn canolbwyntio ar ddiogelu a lles y plentyn. Gall hyn greu tensiwn mewn ymarfer, yn arbennig felly o ran y disgwyliad i “reoli tlodi” o fewn systemau sydd wedi’u dylunio’n bennaf ar gyfer ymyriadau risg a diogelu.
Bu i’r ymchwil hefyd dynnu sylw at bresenoldeb stereoteipiau o fewn ambell ymarfer gwaith cymdeithasol oedd yn gysylltiedig â thlodi a magu plant, gan godi cwestiynau pwysig ynghylch sut mae anghyfartaledd strwythurol yn cael ei ddeall a ‘i ystyried wrth wneud penderfyniadau ar y rheng flaen.
Cyfiawnder fel Trawma: Myfyrdodau Ymchwil ar Systemau, Hanes, a Niwed
Diweddodd Dr Tegan Brierley-Sollis sesiynau’r bore gyda sgwrs adfyfyriol oedd yn tynnu ar y gynhadledd Cyfiawnder fel Trawma a fynychodd gyda Natalie Saunders yn Vancouver, Canada.
Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar drawma hiliol a diwylliannol o fewn systemau cyfiawnder. Rhannodd Tegan sylwadau craff o’r gynhadledd, gan dynnu sylw at sut mae systemau cyfiawnder wedi cyfrannu at drawma ar y cyd ac sy’n pontio cenedlaethau drwy gamdriniaeth gyson.
Thema ganolog oedd y ffordd mae cymunedau brodorol yn parhau i brofi anfantais a sut mae hyn yn symud dealltwriaeth o niwed o brofiadau unigol i brosesau strwythurol a hanesyddol sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn.
Roedd y drafodaeth hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch y berthynas rhwng systemau cyfiawnder ac ymarfer sy’n seiliedig ar drawma, gan gynnwys p’un a fydd y dulliau hyn fyth yn gallu alinio’n llawn o fewn systemau na chawsant eu dylunio gyda thrawma na chyd-destun diwyllianol yn greiddiol iddynt.
Adfyfyriodd Tegan ar sut mae trawma’n dylanwadu ar ddiwylliant sefydliadol, a phwysigrwydd symud tuag at ddulliau dad-drefedigaethu mewn ymchwil ac addysgu. Daeth y sesiwn â’r bore i ben drwy ein herio i feddwl yn fwy beirniadol ynghylch systemau, strwythurau, a gwybodaeth gan bwy sydd wedi’i chanoli oddi mewn iddynt.
Posteri
Amser cinio, cafwyd cyfle i archwilio amrywiaeth hyfryd o bosteri o bob rhan o’r brifysgol, yn arddangos gwaith o feysydd gan gynnwys busnes, seicoleg, celf a’r amgylchedd adeiledig. Roedd yn gyfle gwych i weld ehangder y gweithgarwch ymchwil sy’n digwydd ar draws gwahanol ddisgyblaethau ac i gael sgyrsiau anffurfiol ynghylch prosiectau cyfredol.

Yn ogystal, gwelsom lansio Nexus Wrecsam: Cyfnodolyn Ymchwil. Dywedodd yr Athro Mandy Robbins ychydig o eiriau er mwyn nodi’r achlysur, gan longyfarch yr holl gyfrannwyr oedd yn gysylltiedig â’r rhifyn cyntaf, a diolch i adolygwyr cyfoedion a golygyddion am eu gwaith a’u hymroddiad i ddwyn y cyfnodolyn at ei gilydd. Roedd yn ffordd briodol o gydnabod yr ymdrech gydweithredol y tu ôl i lwyddiant y cyhoeddiad cyntaf hwn.

-
Addysgeg Arloesol ac Ymgysylltu
Datglymu Dycnwch a Chadernid: Cyd-greu cefnogaeth ar gyfer Cadw Athrawon a Llesiant Athrawon

Gydag egni a brwdfrydedd newydd wedi cinio, ymunodd mynychwyr gyda Dr Julian Ayres a drafododd yr ‘argyfwng cyfradd gadael’ o fewn addysgu a sut mae ei ymchwil wedi bod yn sail i fodiwl newydd o fewn y rhaglen hyfforddi athrawon. Mae’r modiwl wedi’i gynllunio i baratoi myfyrwyr yn well ar gyfer amgylchedd pwysau uchel addysgu, o gofio bod 25% o athrawon yn gadael y proffesiwn o fewn y flwyddyn gyntaf, a 50% yn gadael o fewn tair blynedd.
Gosododd Julian y naws gyda’r theori ‘Ffenestri Toredig’, bod arwyddion gweledol o esgeuluso yn arwydd bod anrhefn yn cael ei oddef, sydd yn ei dro yn normaleiddio problem systemig ddofn. Y rhagdybiaeth yw bod athrawon sy’n arddangos arwyddion o straen yn cael ‘datrysiad’ ar lefel unigol (y ffenest yn cael ei thrwsio), yn hytrach nag edrych ar y strwythur sy’n achosi’r straen e.e. yr amgylchedd o fod o dan bwysau mawr, straen meddyliol a diffyg cefnogaeth.
Roedd yr ymchwil yn ystyried Dycnwch a Chydnerthedd a gofynion y rhain mewn perthynas ag athrawon dan hyfforddiant. Siaradodd Julian ynghylch ‘Jangle Fallacy’ lle mae’r syniadau hyn sy’n gorgyffwrdd yn aml yn plethu i’w gilydd, sy’n gallu rhoi’r holl fyrdwn ar yr unigolyn yn hytrach nag ar y system mae’r unigolyn yn gweithredu ynddi. Dycnwch yw’r gallu ymatebol i ymateb i drallod tra bo gwytnwch yn ddull rhagweithiol o ymdrin â ‘strwythur wedi torri’, ac yn ystod yr ymchwil cafodd y syniadau hyn eu hystyried yng nghyd-destun y lluoedd arfog, chwaraeon elit, a nyrsio - y proffesiynau gofynion uchel lle mae angen amrywiol lefelau o ddycnwch a chydnerthedd.
Roedd yr ymchwil yn sail i gyflwyno modiwl craidd 20 credyd ar Gydnerthedd, Llesiant ac Adfyfyrio ar gyfer athrawon o fewn PcET. Yr addysgeg greiddiol yw’r Cylch Deialog Deongliadol, neu fel y’i disgrifiwyd gan Julian, ‘sgwrs syml’, dull cefnogi cyfoedion o ymdrin â phrosesu straen a thrawma, gan fod cyfoedion yn aml yn y sefyllfa orau i ddeall a chynnig cyngor.
Canfod Ymdeimlad o Berthyn: Adnoddau cymunedol y gellid defnyddio mwy arnynt er mwyn ailymgysylltu dysgwyr

Nesaf i siarad oedd yr Athro Carl Hughes, a ddarparodd sylwadau craff ar 2 o 24 o brosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yn ymchwilio i ymddygiad mewn ysgolion. Mae ymddygiadau sy’n cael eu profi gan athrawon, gan gynnwys myfyrwyr blynyddoedd cynnar iawn, yn broblem gynyddol, yn arbennig felly o ran presenoldeb yn yr ysgol. Yn ogystal â phrofi newid o ran agwedd plant a phobl ifanc tuag at bresenoldeb, mae’r proffesiwn hefyd yn profi newid o ran agwedd rhieni tuag at bresenoldeb, gan fod diffyg cefnogaeth cynyddol gan rieni o ran sicrhau bod plant a phobl ifanc yn mynychu’r ysgol.
Diffiniodd Carl y r ymddieithrio oddi wrth y system ysgol fel:
Sgiliau sylfaenol gwael: er y gellir dysgu iaith o fewn y teulu / sefyllfa gymdeithasol, mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamlygu i dechnoleg yn gynnar ac yn gwylio sgriniau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol yn rhwystr, gan na ellir dysgu iaith o sgriniau ac mae amser ar y sgrin yn lleihau rhyngweithio gan oedolion gyda’r plant a’r bobl ifanc. Mae darllen yn sgil sy’n cael ei addysgu nid ei ddysgu. Gall sgiliau cymdeithasol hefyd fod yn brin.
Methiant mynych yn y lleoliad ysgol → Osgoi y lleoliad ysgol lle mae methiant yn digwydd →Chwilio am ffynonellau amgen o berthyn → Ymddieithrio oddi wrth y system addysg
Mae’r ymchwil yn archwilio gwerth yr angorau cymunedol cudd fel ffynonellau amgen posib o berthyn ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi ymddieithrio. Mae’r astudiaeth achos gyntaf yn edrych ar Theatr Clwyd fel llwybr creadigol at ailymgysylltu drwy eu rhaglen Hwb Haf. Caiff plant a phobl ifanc eu cyfeirio at y rhaglen drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer rhaglen pythefnos o brosiectau celfyddydol a chreadigol sy’n darparu cyfleoedd i ‘gyfrannu, llwyddo a pherthyn’. Mae’r ymchwil yn ceisio deall y broses seicolegol mae Theatr Clwyd yn ei dilyn er mwyn cefnogi, gyda chanlyniadau cyfweliadau’n dangos bod plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, yn teimlo’n ddiogel, yn datblygu hyder yn sgil llwyddiant, yn meithrin cyfeillgarwch ac yn dod o hyd i ymdeimlad o berthyn.
Mae’r ail astudiaeth achos yn canolbwyntio ar Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, gyda phêl-droed yn llwybr at ailymgysylltu. Unwaith eto, caiff y plant a’r bobl ifanc eu cyfeirio at y rhaglen drwy’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac ysgolion, ac mae’r rhaglen yn cynnig mentora, cyfranogi, a hyfforddiant. Canfu ymchwil bod y cyfranogwyr yn profi mwy o hyder, a gwell llesiant ac ymddygiad.
Er bod y ddarpariaeth gan y celfyddydau a chwaraeon yn wahanol iawn, gellir dod o hyd i debygrwydd o safbwynt ymgysylltu plant a phobl ifanc er mwyn meithrin cysylltiadau, cyfranogi mewn ffordd ystyrlon, a llwyddo, sy’n gallu gweithredu fel cyfle dysgu posib ar gyfer ysgolion:
Ofn Methu → Cyfranogiad → Llwyddiant → Ymgysylltiad → Dysgu → Perthyn
Y Fframwaith C.O.R.E
Yn cloi’r sesiwn hon roedd Monty Kennard, a gyflwynodd fframwaith meta ar gyfer cyd-greu wedi’i hwyluso gan dechnoleg ar draws addysg gynradd, uwchradd, Addysg Bellach (AB), Addysg Uwch (AU) ac addysg oedolion. Cyflwynodd Monty’r syniad nad yw’n achos o ‘yr un peth sy’n addas i bawb’ pan mae’n dod i fframweithiau cyd-greu yn yr amgylchedd addysg, gyda llawer o’r llenyddiaeth ddiweddar ar gyd-greu a phartneriaeth wedi’i chreu drwy lens AU. Mae diffyg o ran ‘sut’ mae cymhwyso fframweithiau cyd-greu ar draws y sectorau addysgol, ac mae Monty’n cynnig defnyddio C.O.R.E (Llunio, Cytgordio, Adnewyddu, Gwerthuso - Construct, Orchestrate, Renew, Evaluate) er mwyn helpu i bontio’r gagendor hwn.
Disgrifir C.O.R.E fel ‘fframwaith meta, nid cyfarwyddeb’ sy’n cadw strwythur fframwaith ond sy’n galluogi newidiadau o ran ei weithredu yn ôl y ffordd mae’n cael ei ddefnyddio yn y sector. Eglurodd Monty ei fod yn ffordd o ddefnyddio technoleg er mwyn addasu cyd-greu ‘yn foesegol ac yn realistig’. Rhoddodd y drafodaeth ystyriaeth i ddefnyddio AI gyda chymhwysiad o’r fath a ph’un a yw AI wedyn yn ‘adnodd’ ynteu’n ‘gyd-grëwr’, a ellir diffinio hyn yn eglur neu a yw’n faes lle ceir amwysedd. Ystyriaeth allweddol yw ‘pwy sydd wedi gwneud y dysgu’ yn y broses addasu, gan y gallai hyn fod yn ffactor hanfodol o safbwynt statws ‘adnodd’ neu ‘cyd-grëwr’. Daeth y sesiwn i ben drwy atgoffa na all C.O.R.E. wneud i gyd-greu fod yn addas i bob sefyllfa, rhaid iddo gael ei ddefnyddio ar raddfa briodol, ac mae’n cefnogi yn hytrach na chymryd lle yr arbenigwyr perthynol.
-
Arloesi, Arweinyddiaeth a Systemau’r Dyfodol
Dysgu Peirianyddol, Dadansoddi Sensitifrwydd a Data Agored mewn Rhwydweithio sy’n cael ei Ddiffinio gan Feddalwedd

Addawodd Dr Mobayode Akinsolu, sy’n beiriannydd, y byddai’n hepgor elfennau technolegol a mathemategol uwch ei ymchwil rhag colli’r gynulleidfa, a chafodd hyn groeso.
Mae ymchwil Mobayode yn canolbwyntio ar rwydweithio a ddiffinir gan feddalwedd (SDN) a dysgu o ymddygiad rhwydwaith, adnabod metrigau allweddol, a rhannu ffynonellau data er mwyn parhau gyda datblygiadau. Nid yw SDN yn rhywbeth sy’n rhan annatod o’r rhwydweithio, sy’n gwella hyblygrwydd, gwelededd a rhaglenadwyedd, fodd bynnag y mae hefyd yn cynyddu’r perygl o amharu ar y rhwydwaith gan ymosodwyr sy’n gallu ychwanegu meddalwedd ar ben SDN. Mae’r ymchwil yn edrych ar ddysgu peirianyddol er mwyn canfod a chategoreiddio amrywiol foddau gweithredu megis ‘arferol’ ac ‘ymosodiadau llifogi’, mae’n dadansoddi metrigau perfformiad, ac mae’r data hwn wedyn yn cael ei rannu fel y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil a dysgu yn y dyfodol.
Cafodd trosolwg o’r amserlen ymchwil ei rannu gyda mynychwyr, gan ddangos y daith o 2020, pan fu i gydweithiwr rannu set data ffynhonell agored gyda Mobayode, sef dechrau’r prosiect, hyd at gyhoeddiadau a chyflwyno canfyddiadau’r ymchwil yn rhan o raglen addysgu.
Defnyddiwyd rhwydwaith sy’n ddibynnol ar SDN er mwyn efelychu senarios ‘arferol’ a ‘dan ymosodiad’, gyda 15 munud ar gyfer pob senario’n symbylu dros 900 o sylwadau i bob senario, a oedd yn dod i gyfanswm o 3600 drwy’r ymchwil. Roedd y prosiect wedyn yn symud ymlaen i brofi tri phrif fetrig: trwybwn, amrywioldeb ac amser ymateb. Cafodd y metrigau eu rhedeg 50 tro fel rhan o’r broses ddilysu, gyda’r amrywioldeb yn cael ei adnabod fel yr un mwyaf sensitif.
Yn 2021 symudodd y prosiect ymlaen i gategoreiddio ac adnabod ymosodiadau, ac yn 2022 ymgymerwyd â dadansoddi data archwiliol ar ymddygiad cyn modelu. Roedd hyn yn dilysu amser ymateb fel prif fetrig gan adnabod y mathau o lif oedd yn cael yr effaith fwyaf ar berfformiad. Roedd datblygiadau technolegol yn galluogi ymchwil pellach gyda’r set data yn 2025, gan gynnwys dyluniad hybrid o arbrofion, cynhyrchu data synthetig, a dysgu peirianyddol gyda chymorth Rhwydwaith Niwral Artiffisial. Rhannodd Mobayode fod yr ymchwil wedi cyfrannu at ddatblygiadau academaidd, ymarferol ac addysgol.
Arloesi Gallu Arwain yn y Sector Cyhoeddus drwy Ymgysylltu Man Agored ac ar y Cyd

Aeth Deon newydd y Gyfadran Fusnes, Dr Ruth Slater â ni ar daith o dorri’r gadwyn, Van Gogh, a chlai modelu yn enw addysgeg amrywiol ac adeiladu capasiti arweinyddiaeth! Gofynnodd Ruth i fynychwyr ystyried sut y gellir asesu adenillion ar fuddsoddiadau wrth ddelio’n aml â theimladau, hunanymwybyddiaeth a grymuso wrth ddatblygu arweinyddiaeth.
Yr astudiaeth achos gyntaf a rannwyd oedd grŵp mawr o Arweinwyr Gwasanaethau Clinigol a Phroffesiynol o ddarparwr gofal iechyd preifat byd-eang lle defnyddiodd Ruth ‘dechnoleg Man Agored’ fel ffordd o gymell trafodaeth agored. Pwy bynnag fydd yn cyrraedd yno fydd y bobl gywir i fod yno, pryd bynnag y mae’n dechrau yw’r amser cywir i ddechrau, pryd bynnag y mae’n dod i ben yw’r amser cywir iddo ddod i ben, ac os nad yw pobl yn cael unrhyw beth o’r sesiwn, mae ganddynt ffordd o adael ac ailymuno eto yn hwyrach os ydynt yn dymuno. Mewn ffordd, mae pob rheol draddodiadol yn cael ei diystyru, sy’n rhoi’r lle a’r rhyddid i bobl gyfrannu mewn ffordd ystyrlon. Rhannodd Ruth y ffaith bod arweinwyr, er eu bod yn bryderus ynghylch y diffyg strwythur, yn teimlo ei bod yn apelgar i fod yn rhan o ddull o ddatrys problemau ar y cyd sy’n grymuso pobl. Mae’n golygu gwneud pethau’n wahanol ar gyfer deilliant gwahanol.
Roedd yr ail astudiaeth achos yn canolbwyntio ar arweinyddion gweithredol sy’n galluogi o Awdurdod Cyfunol Dinas Ranbarth gan ddefnyddio datblygu arweinyddiaeth yn seiliedig ar gelfyddyd gyda’r artist Emma Rogers. Canfu Ruth fod yr arweinwyr oedd yn teimlo dan straen a oedd â ffyrdd deuol o feddwl am broblemau yn sydyn yn cymryd arnynt wedd wahanol pan roddwyd clai i chwarae iddynt. Newidiodd yr agwedd gelf holl deimlad yr ymarfer, ac fe wnaeth pobl ymlacio a bod yn agored i ffyrdd newydd o feddwl; roedden nhw’n ymgysylltu â phobl eraill ac yn symud tuag at arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y bobl. Roeddent yn edrych y tu hwnt i’r dulliau llinol ac yn dod o hyd i ddulliau amgen.
Roedd yr astudiaeth achos derfynol a rannwyd gan Ruth yn seiliedig ar foment bersonol, ddofn a gafodd yn ystod profiad celf drochol Van Gough, lle roedd Ruth wedi ymgolli cymaint yn y profiad fel ei fod yn gwneud iddi fod eisiau helpu eraill i brofi sefyllfaoedd gyda’r un emosiwn teimladol. Aeth Ruth ati, mewn cydweithrediad â Focal Studios, i greu profiad dysgu synhwyraidd trochol ar gyfer arweinwyr strategol o sefydliad addysg bellach a groesawyd yn fawr. Rhannodd cyfranogwyr bod “ y profiad wedi creu dealltwriaeth emosiynol yn hytrach na deilliannau neu resymeg yn unig”. Creodd y profiad synhwyraidd gysylltiad a dysgu llawn effaith. Ymunodd Nathan Roberts â Ruth i gyflwyno’r ganolfan dysgu drwy efelychu a throchi newydd ym Mhrifysgol Wrecsam a gwahoddwyd pobl i gysylltu â Nathan er mwyn trefnu ymweliad i weld sut y gellir defnyddio’r amgylchedd.
Ffordd o Feddwl Entrepreneuraidd

Daeth y sesiwn i ben gyda chyfraniad gan Sasha Kenny o’r Tîm Menter a roddodd drosolwg o’i hymchwil PhD ar ffordd o feddwl entrepreneuraidd. Cyflwynodd Sasha ffordd o feddwl entrepreneuraidd fel un o’r asedau mwyaf mae pobl ei angen er mwyn llwyddo mewn busnes a bywyd; mae’n safbwynt sy’n galluogi pobl i weld cyfleoedd, addasu i newid, a gwneud penderfyniadau allweddol gyda gwybodaeth gyfyngedig. Roedd enghreifftiau a rannwyd yn cynnwys Del Boy, Elon Musk a Gwyneth Paltrow.
Rhannodd Saha ychydig o hanes ei theulu gyda’i chysylltiad hi â ffordd o feddwl entrepreneuraidd a dyma hi’n meddwl ‘os na alla’ i gael y gorau arnyn nhw, wna’ i ymuno â nhw’ ac arweiniodd hyn at ei rôl bresennol a’i maes PhD. Mae gwaith ymchwil Sasha yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar y sgiliau a’r wybyddiaeth sy’n arwain at y ffordd o feddwl entrepreneuraidd, sydd wedi’i wreiddio mewn seicoleg personoliaeth. Rhai o’r nodweddion personolaeth perthnasol sy’n cael eu hystyried yw hunaneffeithlonedd, hunanhyder, cymhelliant, cymryd risgiau, a dycnwch a chydnerthedd. Ystyriodd Sasha rai o’r rhain yn eu tro gan gysylltu hyn ag Ecosystem Prifysgol Wrecsam o safbwynt gweithgareddau a phrofiadau cwricwlaidd ac allgwricwlaidd sydd ar gael i’n myfyrwyr a’n graddedigion a sut y gall hyn helpu i ddatblygu’r ffordd o feddwl entrepreneuraidd.
Adfyfyriadau’r Panel Uwch Arweinyddion
Daeth y gynhadledd Sbringfwrdd llawn gweithgareddau a sylwadau craff i ben gyda phanel uwch arweinyddion yn rhannu eu hadfyfyriadau ar weithgareddau a chyfraniadau’r diwrnod. Ymunodd Dr Ruth Slater, yr Athro Damian Sutton, yr Athro Anne Nortcliffe, a’r Athro Mandy Robbins gyda Dr Caroline Hughes er mwyn ateb nifer o gwestiynau ynghylch Sbringfwrdd. Rhannodd y panel uchafbwyntiau allweddol y dydd, gwersi ar gyfer eu rhoi ar waith yn y dyfodol a’u gobeithion a’u dyheadau ar gyfer dyfodol ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam. Roedd cysylltiad, cydweithrediad, effaith ac amser i gyd yn themâu allweddol drwy gydol y drafodaeth, gyda phawb yn teimlo wedi adfywio yn dilyn y sesiynau, ac yn awyddus i barhau â’r gwaith a’r momentwm y tu ôl i ymchwil ac arloesi ar draws y Cyfadrannau. Nododd Caroline yn briodol iawn ein bod yn brifysgol fach ond yn un gref gydag uchelgais pellgyrhaeddol, a bod angen i ni barhau â’r gwaith anhygoel yr oeddem eisoes wedi gosod sylfeini ar ei gyfer.
Rydym eisoes yn cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn edrych ymlaen.
