Ysgolion a Cholegau
Nid yw erioed yn rhy fuan i ddechrau meddwl am eich dyfodol.
Rydym yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr o bob oedran, athrawon, rhieni/gwarchodwyr a chynghorwyr gyrfaoedd i gynnig rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth ac annog dyheadau addysg uwch, i annog pobl ifanc i gysidro'r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o weithio'n agos gydag athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd, a'r rôl hanfodol maent yn chwarae i sicrhau fod gan y myfyrwyr fynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg uwch.
Mae bod yn brifysgol lai yn gweithio i'n mantais gan ein bod ni ym Mhrifysgol Glyndŵr yn cymysgu pwysigrwydd academia gyda synnwyr cymunedol cryf. Rydym yn canolbwyntio ar y myfyrwyr, dan arweiniad y farchnad ac yn agored i bawb.
Ehangu mynediad
Beth bynnag ydi'ch cefndir, oed, rhyw neu anabledd, rydym yn cynnig cymorth a chyngor i'ch helpu i lwyddo yma.
Sbotolau arCyfryngau Creadigol
Darganfyddwch mwy am ein cwrs Cynhyrchu Cyfryngau.