Tŷ Agored Ymchwil | Gorffennaf 2026

O bêl-droed i realiti rhithiol: Darganfod ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth

Beth sydd gan sefydliadau pêl-droed, enciliadau ysgrifennu doethurol a realiti rhithiol mewn ysgolion yn gyffredin? Roedd yna bynciau eithriadol o ddiddorol yn cael eu harchwilio mewn Tŷ Agored Ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam.

Wedi’i chadeirio gan yr Athro Mandy Robbins, roedd y sesiwn yn tynnu sylw at sut mae ymchwil ar draws y Brifysgol yn helpu i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn a gwella bywydau yn ein cymunedau.

Ymunodd ein siaradwr cyntaf, Sara Hilton, gyda ni drwy fideo a recordiwyd ymlaen llaw gan nad oedd yn gallu bod yno. Mae ymchwil Sara’n amlygu gwaith sefydliadau pêl-droed, megis Sefydliad Cymdeithas Bêl-droed Wrecsam. Er bod nifer o bobl yn gyfarwydd gyda’r sefydliadau hyn am eu cysylltiadau gyda chlybiau pêl-droed, maent hefyd yn darparu ystod eang o raglenni cymunedol, gan gynnwys cefnogaeth gyda chyflogadwyedd, mentrau iechyd, a phrosiectau sy’n hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.

Mae gwaith Sara’n archwilio sut mae sefydliadau pêl-droed yn gwneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar y gweithgareddau hyn. Ymhle ddylai cyllid gael ei fuddsoddi? Sut mae sefydliadau’n cydbwyso disgwyliadau arianwyr, cymunedau, a sefydliadau partner? A sut maent yn parhau i fod yn gynaliadwy’n ariannol wrth barhau i aros yn driw i’w cenhadaeth gymdeithasol? Gan dynnu ar waith y cymdeithasegydd Pierre Bourdieu, mae’r ymchwil yn darparu dealltwriaeth werthfawr i’r hyn sydd ei angen i redeg sefydliad pêl-droed modern.

Nesaf, rhannodd Nikki Ewing ei gwaith ar gefnogi ymchwilwyr doethurol drwy gefnogaeth cyfoedion ac enciliadau ysgrifennu penodol. Fel rhan o’i gradd Doethur Addysg (EdD), mae Nikki’n archwilio cymhellion menywod sy’n ymgymryd ag astudiaeth ddoethurol a phwysigrwydd meithrin cymunedau ymchwil cefnogol.

Nikki presenting

Gydag ariannu gan y Grant Diwylliant Ymchwil Mewnol, mae Nikki wedi cyflwyno enciliadau ysgrifennu strwythuredig sy’n cyfuno sesiynau datblygu gydag amser penodol i ysgrifennu, a chynnig “amser heddychlon, yn benodol ar gyfer canolbwyntio”. Mae’r fenter eisoes wedi derbyn adborth positif, gyda chyfranogwyr yn tynnu sylw at fuddion cael lle i ysgrifennu wrth ymyl eraill, a chynnig syniadau ynghylch sut y gallai’r rhaglen barhau i dyfu.

Cafwyd y cyflwyniad olaf gan Monty Kennard, sy’n archwilio sut y gall technolegau realiti estynedig (XR) helpu i greu ysgolion mwy cynhwysol. Yn hytrach na gofyn beth mae’r dechnoleg yn gallu’i wneud, mae’r ymchwil yn dechrau drwy ofyn beth sydd wirioneddol ei angen ar ysgolion a phobl ifanc. Yn dilyn adolygiad craffu, mae’r prosiect yn gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc drwy weithdai a gweithgareddau cyd-greu er mwyn archwilio sut y gall XR gefnogi hunaniaeth, perthyn a lles.

Mae’r ymchwil yn dangos bod deilliannau llwyddiannus yn dod o ddyluniad ystyrlon yn hytrach na’r dechnoleg ei hun. Drwy wrando ar bobl ifanc a pharchu’r iaith maent yn ei defnyddio i ddisgrifio eu profiadau, mae’r prosiect yn creu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau ystyrlon ynghylch pynciau sensitif.

O atgyfnerthu cymunedau drwy chwaraeon i gefnogi ymchwilwyr doethurol a datblygu profiadau addysgol mwy cynhwysol, mae’r prosiectau hyn yn arddangos ehangder yr ymchwil sy’n digwydd ym Mhrifysgol Wrecsam, a’i botensial i wneud gwahaniaeth parhaus.

Mae Tŷ Agored ar gyfer Ymchwil yn parhau i ddwyn ymchwilwyr, staff proffesiynol a myfyrwyr ynghyd i danio sgyrsiau a dathlu ymchwil sydd wedi cael effaith wirioneddol y tu hwnt i’r Brifysgol.