Ein prif flaenoriaethau yw:

  • Integreiddio rheolaeth amgylcheddol i mewn i lywodraethu'r Brifysgol
  • Gwella'r gweithdrefnau ar gyfer defnydd effeithlon o adnoddau
  • Sefydlu systemau rheoli a fyddai'n gyrru perfformiad
  • Creu diwylliant ac ethos cynaliadwy drwy ymgysylltu â staff, myfyrwyr a chymunedau

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn brifysgol foesegol, sy'n gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ein rhanddeiliaid. Rydym yn sicrhau bod myfyrwyr a/neu gynrychiolwyr yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau trwy wahanol strwythurau pwyllgorau'r brifysgol.

Fel rhan o’r arolwg staff dwy flynedd, ym mis Tachwedd 2022 dywedodd 78% o’r staff eu bod yn gyfarwydd â strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol y Brifysgol a dywedodd 81% eu bod yn gallu cymryd rhan mewn cyfleoedd i ddod yn fwy ymwybodol o’u heffaith ar yr amgylchedd, a cynnydd o 8% a 7% ers yr archwiliad diwethaf yn y drefn honno. Yn 2022 dangosodd arolwg blynyddol yr ACF bod 72% o fyfyrwyr yn meddwl bod WGU yn annog arfer amgylcheddol da ac roedd 53% yn credu bod eu cwrs wedi eu hannog i feddwl am eu cynaliadwyedd amgylcheddol.

Isod mae ychydig o feysydd sy'n ymgorffori ein blaenoriaethau, cliciwch ar deitl i ddarganfod mwy.

 

 

Content Accordions

  • Bwyd Cynaliadwy

    Mae Prifysgol Wrecsam yn cydnabod bod cynhyrchu a bwyta bwyd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. O ganlyniad, mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i leihau’r effaith hon gymaint â phosib, yn unol â pholisïau a dogfennau Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol Prifysgol Wrecsam

    Rydym hefyd yn cydnabod bod gennym ni ddylanwad sylweddol yn ein pŵer prynu i annog ein cyflenwyr a'n contractwyr i leihau effeithiau moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol negyddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchion a gwasanaethau a ddarparwn trwy gydweithio â chyflenwyr i annog cynhyrchu a chymeriant o fwyd cynaliadwy ac iach. Mae gennym ni ddangosyddion perfformiad allweddol sy'n cyd-fynd â'n strategaeth fwyd cynaliadwy a ysgrifennwyd i'n contract arlwyo, edrychwch ar ein Meini Prawf Dyfarnu Arlwyo.

    Ers mis Awst 2017 mae Prifysgol Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni arlwyo, Aramark, ac maent wedi parhau gyda chenhadaeth PW i hyrwyddo cynhyrchion tymhorol a ddefnyddiwyd yn eu bwydlenni ac yn prynu cynhyrchion newydd gallem ni ddefnyddio yn ein cynhyrchiad bwyd sy'n seiliedig ar y fwydlen dymhorol. Maent wedi dod o hyd i ddewisiadau da i gig.

    Maent wedi bod yn gweithio gyda PW i gynnal digwyddiadau sy'n codi ymwybyddiaeth mewn bwyd Iach, Cynaliadwy a Masnach Deg.

    Mae Aramark yn prynu cynhyrchion sydd â'r holl wybodaeth berthnasol ar labeli. Mae gan Aramark resipis penodol, felly ceir unrhyw gynnyrch a wneir yn fewnol eu labelu â dyddiadau BB / UB a gwybodaeth alergeddau.

    Mae Aramark hefyd wedi newid eu cynhyrchion tafladwy, sydd bellach yn cael eu cynhyrchu gan Vegware. Maent wedi cyflwyno powlenni/platiau a mygiau seramig i helpu i leihau ar y llestri tafladwy sy’n cael eu defnyddio ar y campws. Mae Aramark wedi parhau â Chynllun Cwpanau Amldro Prifysgol Wrecsam, ac ym mis Medi 2018, cyflwynwyd tâl ychwanegol o 20c ar bris diodydd sy’n cael eu prynu mewn cwpanau untro. Defnyddiwyd y tâl ychwanegol hwn i brynu Huskups, sef cwpanau wedi’u gwneud o blisgyn reis yn hytrach na phlastig, a bydd myfyrwyr yn cael rhai am ddim yn Ffair y Glas. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

    Yn Rhagfyr 2017, daeth Aramark yn arwyddwyr o'r addewid Dinasoedd Pysgod Cynaliadwy, yn gwneud eu hymrwymiad cyhoeddus i sicrhau fod yna bolisi pysgod cynaliadwy gwiriadwy ac fe ddathlwyd hyn gyda PGW

    Dŵr Yfed Am Ddim

    Mae ffynhonnau dŵr yfed am ddim ar draws holl safleoedd y brifysgol, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr a'r brif ffreutur. Mae ein gorsafoedd ail-lenwi dŵr am ddim wedi'u cofnodi gyda'r ap Refill i helpu lleihau gwastraff, cynghori cyfleustra, arbed arian a mesur ein heffaith. I ymuno, lawrlwythwch yr ap o Refill.org.uk

    Cyfleuster Tyfu WU

    A ydych chi'n frwdfrydig am yr amgylchedd, a hoffech chi gymryd rhan mewn plannu ffrwythau a llysiau eich hun yn PGW? Ewch i'n Campws Llaneurgain i dderbyn rhan mewn un o'n pump poli twneli a rhwng Gorffennaf a Hydref, dewiswch eich afalau eich hun o berllan PGW.

    Mae cyfleuster tyfu Campws Llaneurgain y Brifysgol yn cael ei redeg ar y cyd gan y grŵp tyfu cymunedol Flintshare a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr. Gallwch gymryd rhan a dysgu am blannu gwahanol hadau, chwynnu, trawsblannu a rheoli plâu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o dechnegau garddwriaethol drwy ddysgu sut i wneud compost, palu gwlâu, ac yn datblygu gwybodaeth am wahanol blanhigion, trychfilod a’r ecosystem. Rydym bob amser yn chwilio am bobl i gymryd rhan.

    Ar y prif gampws, ceir Gardd Gymunedol lle gall staff a myfyrwyr helpu i dyfu llysiau a rheoli’r planhigion ffrwythau - neu, mae hefyd yn lle gwych i fynd am dro at y pwll a chael seibiant oddi wrth fwrlwm bywyd Prifysgol.

    Mae gweithio yn y cyfleuster tyfu yn ffordd dda o dynnu eich meddwl oddi ar eich bywyd prysur, a gallwch fwynhau awyr iach wrth ryfeddu at y golygfeydd godidog o’n campws gwledig. Mae’n hyrwyddo buddion iechyd meddwl ac iechyd corfforol bod allan yn yr awyr agored, symud, bod yn rhan o newid mawr, a chwrdd a chysylltu â phobl. Mae hefyd yn galluogi’r Brifysgol i greu cysylltiadau â thyfwyr ac elusennau lleol fel ffordd o ymgysylltu â chymuned ehangach.

     

  • Masnach Deg

    Derbyniodd Prifysgol Wrecsam Statws Prifysgol Masnach Deg ar Ddydd Llun, 29ain o Ionawr 2018. Gwnaeth y Sefydliad Masnach Deg y sylwadau canlynol ar ein cais:

    “Da iawn, rydych chi wedi rhoi set o bolisïau hynod o fanwl i ni sy'n dangos yn drylwyr eich ymrwymiad i Fasnach Deg a'r camau a roddwyd ar waith i sicrhau y cynhelir safon uchel o arfer moesegol. Mae eich cymhelliant wedi creu argraff arnom ac mae'n wych gweld y cydweithio posibl â grŵp masnach deg Wrecsam”.

    Diolch i'r rhai sy'n dewis Masnach Deg bob dydd a'r rhai sydd wedi gwneud y newid i Fasnach Deg i gefnogi'r ymgyrch hon, gyda'n gilydd rydym wedi llwyddo i ennill statws Prifysgol Masnach Deg. Llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o'r gwaith.

    Bydd PW yn parhau i ymdrechu i ddod yn Brifysgol Masnach Deg fwy cynaliadwy. Ein nod yw hyrwyddo Masnach Deg ar bob cyfle a dilyn egwyddorion y Sefydliad Masnach Deg. Rydym yn bwriadu cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda Masnach Deg yn brif ffocws iddynt yn ystod pythefnos Masnach Deg.

    O ran digwyddiadau Masnach Deg yn y gorffennol, rydym wedi achub y cyfle i hyrwyddo Masnach Deg yn ein dyddiau agored drwy gynnwys fflapjac Masnach Deg blasus ynghyd â thaflen yn esbonio beth yw Masnach Deg, pam ei bod yn bwysig a sut y gall pawb wneud gwahaniaeth. Rydym yn trefnu rafflau yn rheolaidd lle gallwch ennill basged Masnach Deg drwy brynu eitem Fasnach Deg a byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o Fasnach Deg gyda'r digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

    Grŵp Llywio Masnach Deg

    Mae'r Grŵp Llywio Masnach Deg a sefydlwyd yn 2017 â chynrychiolaeth gan staff, myfyrwyr a'n cwmni arlwyo Aramark. Cynhelir cyfarfodydd y grŵp llywio ddwywaith y flwyddyn i drafod ac ysgogi gweithrediadau dros Fasnach Deg ar draws y Brifysgol. Mae'r grŵp yn gyfrifol am y gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Masnach Deg ac am hyrwyddo cefnogaeth PW i Fasnach Deg a'r Polisi Masnach Deg. Mae grŵp llywio Masnach Deg PGW hefyd yn mynychu cyfarfodydd Prifysgolion Cymru Masnach Deg i drafod syniadau ar gyfer digwyddiadau ac ymgyrchoedd Masnach Deg.

    I gymryd rhan e-bostiwch sustainability@wrexham.ac.uk

    Cynhyrchion Ardystiedig Masnach Deg yn WU

    Mae Prifysgol Wrecsam yn gwerthu cynhyrchion Masnach Deg yn ei holl leoliadau arlwyo, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr ac yn cynnig cynhyrchion Masnach Deg o fewn cyfarfodydd mewnol ac allanol.

  • Gwasanaethau TG

    Mae cynaliadwyedd yn uchel ar agenda’r Gwasanaethau TH ym Mhrifysgol Wrecsam ac mae wedi’i mewnblannu i mewn i’n dewisiadau ar sut rydym yn caffael cynhyrchion a gwasanaethau ac yn rheolaeth a gweithrediad o’r gwasanaethau yna.

    Mae llawer o newidiadau wedi digwydd yn barod, ac mae gennym ni gynlluniau i wella’n wastad.

    Mae mentrau yn cynnwys:

    • Lleihad mewn nifer o argraffydd ar draws y safle drwy gyflwyno mwy o argraffydd grŵp gwaith rhwydweithiol.
    • Argraffu dwyochrog yw’r rhagosodiad ar y rhan fwyaf o argraffydd.
    • Mae caffaeliad yn cynnwys argraffydd dwyochrog yn safonol ac argraffu eco;
    • Newid sgriniau CRT i rai LCD, lleihau defnydd egni.
    • Monitro actif o gyfrifiaduron a ddefnyddiwyd, ac mae ymgyrch i ddiffodd dyfeisiadau heb ddefnyddwyr gyda’r nos ac yn ystod adegau anweithredol wedi lleihau gwastraff egni yn fawr. Diffoddiad awtomatig ar amserlen o gyfrifiaduron mewn labiau TG.
    • Ailgylchu deunydd pacio cynhyrchion. Cynnydd mewn defnydd o arfau cymorth o bell, yn lleihau trafaelio i beirianwyr TG.
    • Gweithrediad o wasanaeth rhybuddio testun SMS i fyfyrwyr, i’w gadw’n wybodus am newidiadau i ddarlithoedd, felly’n lleihau siwrnai gwastraff.
    • Adeiladu ystafell cyfarfod di-bapur sy’n gweithredu gliniaduron a sgriniau, a fydd yn lleihau gwastraff papur.

    Drwy edrych ymlaen, mae cynlluniau yn cynnwys y canlynol:

    • Defnydd o gyfrifiadura cleient tenau i leihau defnydd egni.
    • Diffoddiad awtomatig ar gyfrifiaduron.
    • Diffodd adrannau o’r rhwydwaith tu allan i oriau gweithio.
    • Ymchwilio i ffyrdd o ddefnyddio oeri aer allanol ar gyfer ystafelloedd offer i ategu unedau oeri aer.
    • Lleihau’r egni a ddefnyddiwyd i gadw ystafelloedd offer ar y tymheredd iawn.
    • Monitro a gwerthusiad manwl o ddeunydd argraffedig i yrru lleihad mewn gwastraff
    • Cynlluniau i gynyddu nifer o weinydd rhithwir i leihau defnydd egni.

    Gwaredu offer trydannol

    Gwaredwn ein hoffer trydanol a chyfrifiadurol i gyd drwy ddefnyddio ein cyflenwr sy’n cydymffurfio â WEEE. Ceir unrhyw beth ar offer neu gydrannau o offer a all eu hailddefnyddio neu ailgylchu eu dileu yn ddiogel a’u hail-bwrpasu. Ceir offer ble nad yw’n bosib eu hail-bwrpasu eu prosesu i ailennill deunydd ailgylchadwy. Mae’r cyflenwr hefyd yn prosesu ein cetris arlliw/inc rydym wedi defnyddio. Mae’r brifysgol, ar hyn o bryd, yn defnyddio CDL.

    Gwaredu llyfrau

    Ceir llyfrau ar ddiwedd eu hoes eu hailgylchu drwy Better World ble mae’n bosib neu drwy brosesu gwarediad papur. Mae ein cyfleuster cyfnewid llyfrau yn caniatáu i fyfyrwyr cyfnewid llyfrau testun rhyngddynt drwy ddefnyddio gwasanaeth cyfoed i gyfoed.

    Argraffyddion a chopiwyr

    O ganlyniad i fwy o ddysgu ar-lein ers y pandemig, rydym yn defnyddio llai ar argraffyddion a phapur. Mae hefyd wedi arwain at fentrau gwella eraill, gan gynnwys:

    • Cyflwyno aseiniadau yn electronig.
    • Cyhoeddi taflenni a phecynnau gwybodaeth eraill ar gyfer yr ystafell ddosbarth drwy amgylchedd dysgu rhithiol y Brifygol.
    • Darparu deunyddiau dysgu drwy systemau digidol, ar-lein.
    • Gosod terfyn ar nifer y tudalennau y caiff staff eu hargraffu.
    • Rhagosod argraffyddion i argraffu ddwy ochr.
    • Cael gwared ar argraffyddion personol, a newid i argraffu fesul grŵp gwaith.
    • Argraffu a chasglu allbrintiau gan ddefnyddio ‘rhyddhau allbrint’, sy’n lleihau ar argraffu diangen.
    • Gwybodaeth am gost tasgau argraffu i ddefnyddwyr cyn iddynt argraffu, i sicrhau bod defnyddwyr yn ystyried argraffu mewn ffordd wybodus.

    Mae’r Brifysgol hefyd yn ceisio lleihau ar becynnau a ddefnyddir ar gyfer offer cyfrifiadurol. Ar ddanfoniadau mawr, byddwn yn dewis pecynnu offer mewn paledi, gan leihau ar gynwysyddion unigol. Gofynnwn i gyflenwyr ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu neu y gellir eu hailgylchu pan fo’n bosib.

    Defnydd pŵer o offer gyfrifadurol

    • Mae tymheredd yr ystafell gweinydd wedi’i setio i 25c i leihau costau oeri.
    • Ceir cyfrifiaduron eu prynu gyda chyflenwadau pŵer egni effeithlon.
    • Rheolir cyfrifiaduron ac offer VDU ar y Campws gyda pholisïau rheoli pŵer i’w diffodd neu aeafu os ydynt yn segur
    • Mae offer gweinyddol a storio ar y safle wedi’u rhesymoli i mewn i amgylcheddau gweinydd rhithwir i leihau defnydd egni o lawer o unedau ar wahân.
  • Bioamrywiaeth

    Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn amddiffyn ac yn cynyddu’r lefel o fioamrywiaeth ledled pob campws.  

    Mae gan y brifysgol dri champws gyda gwahanol fathau o dir ac maent yn ased gwerthfawr i’r Brifysgol, y gymuned a’r byd naturiol. Rydym yn gweithio’n galed i ddiogelu’r fioamrywiaeth ar ac o gwmpas yr ardaloedd yma.

    Dyma’r tri champws:

    Wrecsam  - Trefol, Llaneurgain - Gwledig, Llanelwy - Arfordirol.

  • Cyfrifoldebau Gweithwyr

    Fel cyflogwr, rydym yn ymrwymo i greu diwylliant cynaliadwy a theg. - Employee sustainability Responsibilities - Welsh

    Ystadau a Diogelwch, Iechyd a'r Amgylchedd

    Mae Adran Ystadau y Brifysgol yn rheoli ac yn monitro’r amgylchedd mewnol. Mae swydd y Rheolwr Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd yn swydd allweddol ac yn hanfodol er mwyn i’r Grŵp Gweithredu ar Gynaliadwyedd allu cyflawni ei swyddogaethau’n llwyddiannus. Mae’r grŵp yn datblygu a gweithredu’r Cynllun Cyflwyno a Throsglwyddo i Garbon Isel gyfer y Brifysgol ac yn integreiddio mesurau effeithlonrwydd ynni ac arbed dŵr ar draws yr holl safleoedd, i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion busnes craidd. Mae pob agwedd ar gynaliadwyedd yn eitem sefydlog ar agendâu’r Pwyllgor Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd, sy’n adrodd yn uniongyrchol i fwrdd yr Is-ganghellor.

    Er mwyn cefnogi themâu strategol craidd y Brifysgol, bydd y Strategaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau allweddol canlynol: -

    • Blaenoriaeth 1 - Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

    • Blaenoriaeth 2 - Partneriaethau ac Ymgysylltu

    • Blaenoriaeth 3 - Effaith Amgylcheddol y Campws 2025

    Mae’r Rheolwr Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd yn gyfrifol am brosesau gwaredu a monitro gwastraff a gynhyrchir yn y Brifysgol, ac am gydymffurfio â deddfwriaeth. Bydd Gwasanaethau Rheoli Gwastraff yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cefnogi ac yn cyfrannu at welliant o ran y nodau ac amcanion amgylcheddol.

    Yr adran DIA yw gyrwyr prosiectau ac amcanion amgylcheddol a chynaliadwyedd sy'n meincnodi yn erbyn sefydliadau tebyg. Mae'r tîm yn sicrhau bod adrannau yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol ar gyfer y brifysgol a chaiff system rheoli amgylcheddol ei gyflawni.

    Mae adrannau unigol yn gyfrifol am waredu gwastraff eu hunain, yn unol â deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol gyfredol.

    Mae'n ofynnol i Adrannau Gwasanaeth Academaidd a Phroffesiynol:

    • Lleihau allyriadau carbon trwy arferion gwaith
    • Ymgorffori datblygiad ac ymwybyddiaeth gynaliadwy i'r cwricwlwm
    • Rheoli a lleihau'r gwastraff a gynhyrchir
    • Lleihau effaith y brifysgol ar ofynion teithio lleol, cenedlaethol a byd-eang
    • Cadw a gwella'r cynefinoedd naturiol, bywyd gwyllt lleol ac amrywiaeth fiolegol ar safleoedd prifysgol
    • Sicrhau bod caffael yn cael ei wneud mewn modd sy'n gyfrifol yn gymdeithasol

    Hyfforddiant

    Mae pob aelod o staff a myfyrwyr newydd yn mynychu hyfforddiant diogelwch, iechyd ac amgylcheddol yn ystod mis cyntaf eu cyflogaeth neu bythefnos y glas fyfyrwyr ym mis Medi. Mae'r wybodaeth a ddarperir yn seiliedig ar gyfrifoldebau amgylcheddol a chynaliadwyedd staff a myfyrwyr yn y brifysgol.

    Darllenwch mwy am hyfforddiant

    Edrychwch ar ein polisi caffaeliad

    Gallwch dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan sustainability@wrexham.ac.uk

    Cyflog Byw

    Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i weithredu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy’n annog pob sefydliad sector cyhoeddus a phob prifysgol yng Nghymru i ymrwymo i ystod o arferion cyflogaeth foesegol, gan gynnwys ystyried talu Cyflog Byw y Living Wage Foundation i’w holl staff fel lleiafswm, ac annog eu cyflenwyr i wneud yr un fath.

    Mae Prifysgol Wrecsam wedi cofrestru fel cyflogwr Cyflog Byw ac wedi ymrwymo i dalu Cyflog Byw y Living Wage Foundation i’w holl staff fel lleiafswm. Bydd y Brifysgol hefyd yn sicrhau, yn achos unrhyw drefniadau gwasanaeth ar gontract, er enghraifft darparu gwasanaethau glanhau, arlwyo a diogelwch, fod contractwyr hefyd yn ymrwymo i dalu Cyflog Byw y Living Wage Foundation pan fo’n adeg ail-dendro.

    Fe ddewch o hyd i ni yma - Cyflogwyr achrededig y cyflog byw

    Cadwyn Cyflenwad

    Mae’r Brifysgol wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gaffael Moesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae hwn wedi’i gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel yn cael eu darparu ledled Cymru gan weithlu sy’n cael ei drin yn gyfreithlon, yn deg ac yn ddiogel, ac sy’n cael ei wobrwyo’n dda. Mae’r Cod hwn yn cynnwys ymrwymiad i ystyried hyrwyddo’r Cyflog Byw mewn contractau perthnasol.

    Mae tystiolaeth o arferion gwaith teg yn cynnwys:

    • Polisi cyflog teg a chyfartal sy'n cynnwys ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw o leiaf i bob aelod o staff
    • Dod yn Gyflogwr Cyflog Byw achrededig
    • Sicrhau bod yr holl staff yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu
    • Hyrwyddo cyfle cyfartal i bob aelod o staff waeth beth fo'u hoedran, rhyw, anabledd, crefydd, hil a chyfeiriadedd rhywiol
    • Cyflogaeth sefydlog, gan osgoi defnydd amhriodol o gontractau dim oriau, a chwmnïau cyflogaeth ambarél
    • Trefniadau gweithio hyblyg i ganiatáu cefnogaeth i ofalwyr, ac ar gyfer gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd
    • Cefnogi ymgysylltiad y gweithlu, er enghraifft cydnabyddiaeth a chynrychiolaeth Undebau Llafur, neu drefniadau eraill ar gyfer grymuso staff.

    Menter am gyflogaeth foesegol yn y gadwyn cyflenwad

  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

    Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein harferion a'n gweithgareddau. Ein nod yw sefydlu diwylliant cynhwysol, sy'n rhydd rhag gwahaniaethu, yn seiliedig ar werthoedd urddas a pharch.

    Cydraddoldeb ac Amrywiaeth