(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Les
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2024, 2025
Hyd y cwrs
6 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i amrywiaeth o bynciau a all helpu i hyrwyddo lles i unigolion a grwpiau. Dylai hyn helpu i ddeall faint o bobl, a meysydd, sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i iechyd pobl.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o'r hyn y mae llesiant yn ei olygu, gwybodaeth am rywfaint o'r dystiolaeth y tu ôl i weithgareddau hybu iechyd, yn ogystal â syniadau i'w rhoi ar waith.
Dros yr wythnosau byddwch yn datblygu cyfnodolyn myfyriol, gan eich helpu i atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu.
Mae'r cwrs hwn yn wych i unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli gydag eraill mewn rôl gynorthwyol, neu i unrhyw un sy'n dymuno arallgyfeirio eu harfer.
Prif nodweddion y cwrs
- Modiwl cyfranogol
- Cysylltiadau da gyda'r diwydiant
- Canolbwyntio ar lesiant (unigryw)
- Atal salwch
- Iechyd meddwl
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd y pynciau ar y modiwl hwn yn cynnwys
- Deall penderfynyddion ehangach iechyd a lles
- Deall penderfynyddion ehangach iechyd meddwl
- Lleoliadau, lleoedd a lles
- Lles a gweithgarwch corfforol
- Lles a newid yn yr hinsawdd
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes angen astudiaeth flaenorol.
Addysgu ac Asesu
- Yn rhedeg dros 9 wythnos (gyda phob trydydd sesiwn ar-lein)
- Sesiynau 2 awr: mae'r awr gyntaf yn seiliedig ar gyflwyno cynnwys, ac mae'r ail awr yn ymroddedig i fyfyrio a thrafod.
- Bydd gennych fynediad i'r ystafell ddosbarth ar-lein, lle bydd gweithgareddau wythnosol a darllen ar gael
- Bob wythnos byddwch yn cwblhau dyddiadur myfyriol. Bydd hyn yn ffurfio eich asesiad.