Criminology lecturer walking with a student carrying criminology textbooks

Manylion cwrs

Côd UCAS

M240

Blwyddyn mynediad

2025, 2026

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser) 6 BL (rhan-amser)

Tariff UCAS

96-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

1af yn y DU

ar gyfer boddhad myfyrwyr* 

 

1af yn y DU

ar gyfer Ansawdd Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr*

1af yn y DU

ar gyfer addysgu*

Pam dewis y cwrs hwn?

Bydd ein gradd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn eich galluogi i archwilio amrywiaeth hynod ddiddorol o gwestiynau o pam mae pobl yn cyflawni trosedd a sut mae’n effeithio ar gymdeithas, i dirnodau hanesyddol yn y system gyfiawnder ac achosion proffil uchel sydd wedi llunio’r dirwedd gyfreithiol.

 

Byddwch yn:

  • Defnyddio gyfleusterau blaengar, gan gynnwys ystafell llys ffug fodern a 'thŷ lleoliad trosedd dysgu'
  • Profi maes troseddeg a chyfiawnder troseddol yn uniongyrchol gydag ymweliadau safle â meysydd gweithredol y system cyfiawnder troseddol fel carchar sy'n gweithio
  • Ennill sgiliau ymarferol a gwella eich cyflogadwyedd trwy amrywiaeth o gyfleoedd gwaith gwirfoddol
  • Elwa o fewnwelediadau amhrisiadwy tîm o ddarlithwyr arbenigol a hefyd siaradwyr gwadd proffil uchel, gan gynnwys barnwyr, swyddogion heddlu, swyddogion prawf, a gweithwyr proffesiynol cyfiawnder ieuenctid
  • Yn barod i gael effaith ar ôl graddio, gyda'r sgiliau i ddilyn gyrfaoedd mewn cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth carchardai, yr heddlu, a sefydliadau gwirfoddol eraill

 

*Mae'r maes pwnc hwn yn 1af yng Nghymru am Foddhad Myfyrwyr yn nhablau cynghrair maes pwnc Cymdeithaseg yn y Canllaw Prifysgolion Cyflawn, 2025.

*Mae'r cwrs hwn yn 1af yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr yng Nghanllaw Prifysgolion Da’r Times a’r Sunday Times, 2025

*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn:   

  • 1af yn y DU am Addysgu ar fy nghwrs. 
  • Cydradd 1af yn y DU am Gymorth Academaidd. 
  • 2il allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am Foddhad Cyffredinol. 
  • Y 3 uchaf yn y DU am Gyfleoedd Dysgu ac Asesu ac Adborth
  • 5 Uchaf yn y DU ar gyfer Llais Myfyrwyr.  

- Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, 2024 

criminology students in corridor

Astudio Troseddegyn Prifysgol Wrecsam

Rydw i wedi dewis astudio yma am fod y darlithwyr a gwrddais ar y diwrnod agored yn anhygoel- mae’n debyg y gorau i mi eu cwrdd erioed! Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nhrin fel myfyriwr yn hytrach na rhif wrth imi siarad â nhw.

Louis Lambert-Ward, myfyriwr Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Prif nodweddion y cwrs

  • Byddwch yn cael y cyfle i addasu eich gradd i weddu i'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa gydag ystod o fodiwlau dewisol.
  • Mae’r radd hon yn cynnig modiwl Dysgu Seiliedig ar Waith, sy’n eich galluogi i gael profiad mewn ymarfer cyfiawnder troseddol proffesiynol trwy leoliad gwaith, gan wella eich cyflogadwyedd a’ch profiad ym maes troseddeg a chyfiawnder troseddol yn y pen draw.
  • Byddwch yn rhan o gymuned glos ac yn cael y cyfle i ymuno â'n Cymdeithas Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol weithgar lle gallwch gymryd rhan mewn digwyddiadau hwyliog, rhyngweithiol, sgyrsiau gwadd, cynadleddau, a chodwyr arian elusennol.
  • Mae gan y cwrs ddulliau dysgu ac addysgu sydd â'r nod o wella'ch profiad myfyriwr trwy weithgareddau sy'n ysgogi'r meddwl, sesiynau ystafell ddosbarth strwythuredig, a thrafodaethau beirniadol.
  • Mae'r cwrs yn eich galluogi i astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol trwy lensys cymdeithasol, gwleidyddol a seicolegol, gan ganolbwyntio ar ddulliau plismona modern, datblygu polisi, a gwaith llysoedd ynadon a llysoedd y goron. 
  • Byddwch yn archwilio cyfraith droseddol a rolau'r asiantaethau amrywiol sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol heddiw.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

Mae'r flwyddyn gyntaf yn gyflwyniad i faterion ymarfer yn ymwneud â gweithio yn y system cyfiawnder cymunedol a deall ac ymgysylltu ag ymddygiad troseddol. Mae'r ystod o fodiwlau sydd yn cael eu harchwilio yn y flwyddyn gyntaf yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o achosion trosedd ar lefel gymdeithasol ac unigol ac yn archwilio gwaith yr asiantaethau sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol.

MODIWLAU:

  • Sgiliau Astudio mewn Addysg Uwch (Craidd): bydd hwn yn cefnogi eich dysgu ach datblygiad personol a phroffesiynol mewn addysg uwch 
  • Cyflwyniad i Droseddeg a Chyfiawnder Troseddol (Craidd): Cewch yr wybodaeth sylfaenol am gyfiawnder troseddol ar gyfraith. Bydd yn canolbwyntio ar gysyniadau allweddol megis diffinio trosedd ac athroniaeth dedfrydu. 
  • Troseddwyr a Throseddau Arwyddol (Craidd): Erbyn diwedd y modiwl byddwch wedi cael eich cyflwyno i drobwyntiau a dadleuon allweddol syn gysylltiedig ag ymarfer cyfiawnder troseddol.
  • Cyffuriau, Alcohol a Throseddau (dewisol): Byddwch yn ystyried amrywiaeth y cyffuriau a ddefnyddir, ac i ba raddau y cânt eu defnyddio, ynghyd â gwerthfawrogi cyd-destun cymdeithasol eu defnydd. Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i wneuthuriad cymdeithasol y ‘broblem gyffuriau’. 
  • Trosedd, Cymdeithas a Pholisi Cymdeithasol (Opsiynol): Mae’r modiwl yma yn archwilio trosedd mewn cyd-destun cymdeithasol, er enghraifft, tai, addysg ac iechyd.
  • Cyflwyniad i Seicoleg Fforensig (Opsiynol): Cewch ymgyfarwyddo â phrif ystyriaethau Seicoleg Fforensig. 
  • Ymlyniad a Throsedd (Opsiynol): Mae’r modiwl hwn yn cymhwyso damcaniaeth ymlyniad i ddeall rhagolygon datblygiad problemus mewn poblogaethau fforensig. Mae’r ffocws ar theori ymlyniad yn cyflwyno dull sydd yn ceisio deall dylanwad perthnasoedd ar bersonoliaeth a datblygiad cymdeithasol. Mae’r modiwl yn cwestiynu dulliau ymchwil theori ymlyniad sydd yn archwilio profiadau niweidiol sydd fwyaf tebygol o arwain at weithredu cymdeithasol gwael ac ymddygiad troseddol.

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

Maer ail flwyddyn wedii chynllunio i adeiladun uniongyrchol ar y sgiliau ar wybodaeth a gawsoch yn ystod y flwyddyn gyntaf. Byddwch yn astudio cyfraith trosedd, ac mewn darlithoedd a theithiau maes traddodiadol lle bo hynnyn bosibl e.e. i'r carchar ar llys, byddwch yn dysgu am faterion uwch mewn ymarfer effeithiol gyda mathau penodol o droseddwyr. Mae damcaniaeth droseddegol ac ymchwil yn cael ei archwilio i ddechrau’r broses o ddatblygu gallu myfyrwyr i feddwl yn ddamcaniaethol ac yn feirniadol am ymarfer cyfiawnder troseddol.

MODIWLAU:

  • Gwahaniaeth Cymdeithasol ac Anghydraddoldeb (Craidd): Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o berthynas dosbarth cymdeithasol, rhyw, hil, oedran, ethnigrwydd, iaith ac agweddau amlwg eraill ar amrywiaeth mewn perthynas ag erledigaeth, trosedd ac ymatebion i’r ffenomenau hyn.
  • Troseddeg (Craidd): Bydd hwn yn eich galluogi  i ddeall y prif gysyniadau a dulliau damcaniaethol sydd wedi datblygu ac sydd wrthi’n datblygu mewn perthynas â throseddu, erledigaeth ac ymatebion i droseddu a gwyredigaeth. 
  • Trosedd ac Ymddygiad Troseddol (Craidd): I ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol i fyfyrwyr o ystod o droseddau ac ymddygiad troseddol cyfredol sydd yn cael eu cyflawni yn y gymdeithas gyfoes.
  • Dulliau Ymchwil (Craidd): Byddwch yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad beirniadol o natur a defnydd priodol o strategaethau ymchwil mewn perthynas â materion trosedd, erledigaeth, ac ymatebion i drosedd a gwyredd.
  • Dysgu yn y Gweithle (Dewisol): Bydd y modiwl hwn yn rhoi mewnwelediad a phrofiad uniongyrchol i fyfyrwyr o ymarfer cyfiawnder troseddol proffesiynol a’i nod yw paratoi myfyrwyr i weithio mewn cyd-destunau proffesiynol
  • Gweithio mewn Lleoliadau Gwarchodol a Chymunedol gyda phobl sydd wedi troseddu (Dewisol): Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu am ac ymarfer y sgiliau sydd yn hanfodol i weithio’n effeithiol gyda throseddwyr a lleihau’r risg o aildroseddu.
  • Cyfraith Droseddol a’r Broses Cyfiawnder Troseddol (Dewisol): Mae'r modiwl hwn yn darparu myfyrwyr â dealltwriaeth o natur a chyd-destun y gyfraith, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gyfraith droseddol. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r Broses Cyfiawnder Troseddol gan gynnwys - llysoedd a gwrandawiadau ar gyfer oedolion a phobl ifanc; theori ac ymarfer dedfrydu; carchar a chosbau yn y gymuned; a lle hawliau dynol yn y prosesau hyn.

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

Yn y flwyddyn olaf, mae’r modiwlau yn datblygu gallu myfyrwyr i gymhwyso safbwyntiau damcaniaethol a beirniadol i brosesau ac ymarfer cyfiawnder troseddol. Cynigir rhywfaint o ddewis hefyd o ran opsiynau modiwlau. Mae natur wleidyddol-gymdeithasol llunio polisi cyfiawnder troseddol yn cael ei archwilio gan edrych drwy lens feirniadol ar y system cyfiawnder troseddol.

Yna gall myfyrwyr ddewis archwilio sut y gall euogrwydd a dieuogrwydd gael eu trafod yn yr heddlu a’r llys, a chyfraniad y gallai seicoleg fforensig ei wneud i ddeall trosedd, cyfiawnder troseddol neu ymateb cyfiawnder troseddol amlasiantaethol i drosedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cwblhau eu project ymchwil eu hunain (opsiwn i gynnal casglu data cynradd neu eilaidd), gan archwilio maes sydd o ddiddordeb iddynt dan oruchwyliaeth un o’r darlithwyr troseddeg profiadol yn yr adran.

MODIWLAU:

  • Prosiect Ymchwil (Craidd): Llunio prosiect ymchwil annibynnol sy'n seiliedig ar ddata cynradd neu eilaidd. Dadlau traethawd ymchwil sydd yn seiliedig ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o theori troseddeg, arfer da mewn ymchwil a pholisi cyfiawnder troseddol. Cyfosod gwybodaeth a dealltwriaeth a ddatblygwyd trwy gydol eu rhaglen troseddeg o astudiaeth israddedig.
  • Rheolaeth, Cyfiawnder a Chosb (Craidd): Gwerthusiad beirniadol o ddatblygiad cymdeithasol a hanesyddol cyfiawnder, dedfrydu a rheolaeth gymdeithasol. 
  • Gwaith Aml-Asiantaeth yn y System Cyfiawnder Troseddol (Dewisol): Canolbwyntio ar gydweithio rhwng asiantaethau fel yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol, a darparwyr gofal iechyd wrth reoli achosion cyfiawnder troseddol
  • Cyfiawnder Ieuenctid (Dewisol): Archwilio yn feirniadol yr ystyron sydd ynghlwm wrth blentyndod, ieuenctid a throsedd a'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n troseddu.
  • Terfysgaeth (Dewisol): Archwilio dehongliad cymdeithasol cyfoes o derfysgaeth a’r goblygiadau i gymdeithas.
  • Plismona Cymunedau Cyfoes (Dewisol): Nod y modiwl hwn yw archwilio natur esblygol plismona a materion cyfoes wrth plismona cymdeithas.
  • Dehongli Euogrwydd a Dieuogrwydd (Dewisol): Nod y modiwl hwn yw astudio dehongliadau cyfreithiol a chymdeithasol o euogrwydd a dieuogrwydd; Archwilio natur broblemus “ffeithiau” a “gwirionedd” wrth ddehongli euogrwydd a dieuogrwydd gan wahanol fathau o actwyr: cyhuddwyr, y sawl a gyhuddir, dyfarnwyr, y cyfryngau, ymchwilwyr a’r cyhoedd, ac astudio detholiad o achosion sydd wedi mynd i achos troseddol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofyniad academaidd ar gyfer y cwrs yw 96-112 pwynt tariff UCAS ar TAG Safon Uwch neu gyfatebol.

Mae’n bosib y bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (a elwid gynt yn CRB) ar gyfer gweithgaredd lleoliad ar y modiwl dewisol Dysgu Seiliedig ar Waith.

Addysgu ac Asesu

Mae amrywiaeth o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, astudiaethau achos ac arholiadau.  

Ym mlwyddyn 3, byddwch yn cynhyrchu traethawd hir blwyddyn olaf, wedi'i gynllunio i werthuso eich dealltwriaeth a'ch cymhwysiad o gysyniadau troseddegol. Bydd gofyn i chi wneud prosiect ymchwil ar bwnc o ddiddordeb i chi. Bydd hwn yn ddarn eilaidd o ymchwil sy'n tynnu ar wybodaeth ac ymchwil gyfredol.   

Defnyddir dulliau addysgu hyblyg, hygyrch a chynhwysol ar draws y rhaglen radd.  Bydd myfyrwyr yn mynychu darlithoedd wyneb yn wyneb dri diwrnod yr wythnos. Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau safle â meysydd gweithredol y system cyfiawnder troseddol, sydd yn y gorffennol wedi cynnwys ymweliadau â llys y goron a charchar.

ADDYSGU A DYSGU 

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd fel ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr archebu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu i ddelio ag ymarferoldeb gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael. 

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol pe bai unrhyw fyfyrwyr yn mynnu bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud oherwydd anabledd cyffredinol cydnabyddedig, cyflwr meddygol, neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ymroddedig wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni'ch nodau proffesiynol. Maent yn darparu cyngor personol, adnoddau defnyddiol, a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.

Gall graddedigion y cwrs hwn ddilyn gyrfaoedd yn:

  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaeth Prawf
  • Gwasanaeth Carchar
  • Heddlu
  • Adsefydlu Cymunedol
  • Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau
  • Cefnogaeth i Ddioddefwyr  
  • Gwasanaethau Digartrefedd
  • Sefydliadau Gwirfoddol/Trydydd Sector  
  • Gwasanaeth Cyfreithiol (ee Llysoedd ac Ynadon)

Yn ogystal, efallai y byddwch yn dewis datblygu eich arbenigedd trwy astudiaethau ôl-raddedig. Archwiliwch ein cyrsiau ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas! 

Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych. 

Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref. 

Laura Chapman

BA Troseddeg a chyfiawnder troseddol

“Fe wnaeth prifysgol Glyndŵr a'r rhaglen a ymgymerais â mi fy nghefnogi i baratoi ar gyfer gweithio o fewn y system cyfiawnder troseddol gan fod popeth a ddysgais yn berthnasol i'r system cyfiawnder troseddol, o ddysgu am newidiadau mewn deddfwriaeth, i berthnasedd sut y caiff system ei hadeiladu.”

Crime scene tape with police car in background

Cymerwch ran yn ein hymarferhyfforddi amser-real blynyddol

Pob blwyddyn rydym yn cynnal efelychiad dysgu ar ffurf Diwrnod Safle Trosedd proffil-uchel, gyda myfyrwyr o ystod o gyrsiau yn actio, bod yn dystion, archwilio ac adrodd ar drosedd proffil-uchel sydd wedi digwydd ar y campws.