Student on computer

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

1 Fl (LlA) 2 Fl (RhA)

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Modiwlau ar-lein

sy'n galluogi dysgu annibynnol parhaus

 

Gweithgareddau ymchwil

yn gysylltiedig â chanolfan ymchwil y brifysgol

 

CISCO

 

opsiynau i sefyll cymwysterau Tystysgrifau Cisco

 

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae'r sector cyfrifiadurol yn esblygu'n barhaus, felly mae'n angenrheidiol i ddatblygu a chynnal eich sgiliau i sicrhau eich bod yn aros ar y blaen yn hanfodol.

  • Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar ddiwydiant wedi'i chynllunio'n benodol i raddedigion o ddisgyblaethau cyfrifiadurol i gymryd y cam nesaf a hogi eu sgiliau i ddiwallu anghenion diwydiannol a masnachol cyfoes, trwy astudio pynciau craidd hanfodol a meysydd arbenigol, modern, y mae yna alw amdanynt.
  • Gan gynnwys nifer o ddulliau astudio. Fel enghraifft, darlithoedd a thiwtorialau â modiwlau ar-lein. Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag astudiaeth bersonol hefyd.
  • Byddwch hefyd yn gallu ymchwilio i dechnolegau blaengar, gweithredu a phrofi datrysiadau newydd, neu ddatblygu a dadansoddi meysydd gwreiddiol technoleg gysylltiedig fel rhan o'ch traethawd hir.

Prif nodweddion y cwrs

  • Cyfle i astudio amrediad o sgiliau'n drwylwyr, sgiliau sy'n amrywio o raglennu masnachol a datblygu cymwysiadau symudol i rwydweithio cyfrifiadurol.
  • Cyfoethogir darlithoedd/tiwtorialau a sesiynau ymarferol gan ddeunyddiau ar-lein ychwanegol, sy’n cynnwys llawer o adnoddau fydd yn eich galluogi i barhau i ddysgu’n annibynnol trwy amrywiaeth o ddulliau
  • Addysgir gan staff sy’n arwain ymchwil i feysydd y rhyngrwyd a rhwydweithiau cyfrifiadurol
  • Mae gweithgareddau ymchwil yn gysylltiedig â chanolfan ymchwil y Brifysgol
  • Mae'r dysgu'n symud o ddylunio a datblygu i adeiladu a dadfygio cymwysiadau a rhwydweithiau.
  • Mae opsiynau i gwblhau cymwysterau Ardystiad Cisco allanol

Beth fyddwch chin ei astudio

Fel yn achos y rhan fwyaf o raglenni Meistr mae gan y cwrs hwn 2 ran, rhan a addysgir a ddilynir gan draethawd hir.

MODIWLAU

  • Dulliau Astudio ac Ymchwil Ôl-raddedig
  • Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio
  • Technegau a Thechnolegau Rhwydweithio   
  • Datblygu Rhaglenni Ar-lein a Symudol 
  • Datblygu Meddalwedd - Rhaglennu Gwrthrych-gyfeiriadol  
  • Sganio Gorwelion Technolegol
  • Traethawd Hir

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofyniad mynediad safonol ar gyfer y rhaglenni hyn yw gradd anrhydedd dosbarth 2:2 o leiaf mewn maes pwnc sy'n gysylltiedig â Chyfrifiadureg, neu gymhwyster cyfwerth mewn unrhyw radd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a chanddi elfen gyfrifidura/peirianneg gryf. Mewn rhai achosion, gall ymgeiswyr sydd â phrofiad masnachol neu ddiwydiannol sylweddol gael eu derbyn, yn amodol ar gyfweliad a geirda.

 

Addysgu ac Asesu

MAE POB MODIWL A ADDYSGIR YN FODIWL 20 CREDYD 

Dulliau Astudio ac Ymchwil Ôl-raddedig

  • Gwaith cwrs - 40% - 1500  o eiriau
  • Gwaith cwrs - 60% - 2000  o eiriau


Caledwedd a Meddalwedd Rhwydweithio

  • Gwaith cwrs - 50% - 2000  o eiriau
  • Prawf yn y dosbarth - 20%
  • Tasgau ymarferol – 30%


Technegau a Thechnolegau Rhwydweithio 

  • Gwaith cwrs - 50% - 2000  o eiriau
  • Prawf yn y dosbarth - 20%
  • Tasgau ymarferol – 30%

 
Datblygu Rhaglenni Ar-lein a Symudol 

  • Gwaith cwrs - 100%


Datblygu Meddalwedd - Rhaglennu Gwrthrych-gyfeiriadol  

  • Gwaith cwrs - 50% 
  • Gwaith cwrs - 50% 


Sganio Gorwelion Technolegol

  • Gwaith cwrs - 70% - 3000  o eiriau
  • Cyflwyniad - 30%


Traethawd Hir

  • Cynnig ymchwil- 10% - 2,000  o eiriau
  • Traethawd Hir - 90% - 15,000 to 20,000 o eiriau

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i ganolbwyntio mwy ar eich llwybrau gyrfaol ym maes datblygu rhaglenni masnachol neu'r llwybrau addysgol. Byddwch yn meddu ar yr wybodaeth a’r cymhwysedd angenrheidiol i barhau i ddatblygu'n broffesiynol yn y gweithle. Efallai y byddwch yn manteisio ar y cyfle i fynd ymlaen i ymchwiliad academaidd ar lefel uwch.

Disgwylir y byddwch yn gallu cael hyd i waith ar lefelau technegol a rheoli uwch, datblygu sgiliau technegol ac ymgynghorol arbenigol penodol, a bod yn gallu cychwyn ar astudiaethau lefel Doethur.

Mae myfyrwyr yn y gorffennol wedi cael gwaith fel:

  • Datblygwyr Meddalwedd
  • Computing Consultants
  • Rheolwyr
  • Parhau i wneud ymchwil i lefel PhD
  • Addysgu mewn Colegau Chweched Dosbarth

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer MSc Cyfrifiadureg yw £5,940.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

Manyleb y rhaglen

 Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

 

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.