Disgyblion ysgol a chweched dosbarth yn cael blas ar y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona mewn digwyddiad darganfod

Date: Dydd Mawrth, Rhagfyr 19

Mae dros 100 o ddisgyblion chweched dosbarth ac ysgol uwchradd ledled gogledd Cymru wedi bod yn ymchwilio i'r wyddoniaeth sydd wrth wraidd olion bysedd mewn digwyddiad darganfod ym Mhrifysgol Wrecsam.

Fel rhan o’r digwyddiad a drefnwyd gan adrannau’r Gyfraith, Troseddeg a Phlismona yn y Brifysgol, cymerodd ddisgyblion o Goleg Chweched Dosbarth y Rhyl; Ysgol Uwchradd a Chweched Dosbarth Prestatyn; ac Ysgol Glan Clwyd ran mewn nifer o sesiynau yn ymwneud â’r pynciau. Y nod oedd pwysleisio yr hyn sydd ei angen i weithio yn y maes.

Yn ystod y dydd, cymerodd fyfyrwyr ran mewn sesiynau lle cawsant wybod am hanes trosedd a chosb, efelychu achos mewn llys yn Ffug Lys y Brifysgol, sesiwn ‘pwy yw’r troseddwr?’ i ymchwilio i ffug drosedd gan ddefnyddio proffilio troseddol a dadansoddiad critigol, yn ogystal â sesiwn olion bysedd gyda'r adran Blismona.

Dywedodd Caelan Harms, myfyriwr Blwyddyn 13 yn Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Prestatyn, sy’n bwriadu astudio Plismona yn y brifysgol y flwyddyn nesaf: “Roedd y sesiwn gyda'r adran Blismona yn arbennig o ddefnyddiol gan mai dyma’r proffesiwn yr hoffwn gamu iddo ar ôl bod yn y brifysgol. Roedd dysgu am wyddor fforensig drwy olion bysedd yn ddiddorol iawn.”

Meddai Darren Jacks, Uwch-ddarlithydd mewn Plismona Proffesiynol, a gyflwynodd yr agwedd Blismona yn ystod y dydd: “Gwych oedd rhoi trosolwg o Blismona i’r disgyblion, o’r hanes i archwilio'r agwedd wyddonol honno i olion bysedd, deintyddiaeth, DNA a gwaith fforensig ddigidol.

“Mae ein gradd Plismona Broffesiynol yn cyfuno’r cyfuniad hollbwysig hwnnw o ddysgu drwy senario i efelychu achosion gyda'r heddlu a darlithoedd a seminarau, sy’n cynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth academaidd, yn ogystal â’u sgiliau ymarferol.

“Diolch yn fawr i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn ein diwrnod darganfod.”

Dywedodd Charlotte Thomasson, Athrawes Gwasanaethau Cyhoeddus a Throseddeg yn Ysgol Uwchradd a Chweched Dosbarth Prestatyn: “Mae ein disgyblion wedi mwynhau diwrnod darganfod y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona yn y Brifysgol yn arw. Dyddiau fel hyn, sy’n cynnwys elfennau ymarferol, sy’n rhoi profiadau cofiadwy i ddysgwyr. Mae hefyd wedi rhoi blas iddynt ar fywyd yn y brifysgol.”

Ychwanegodd Dr Sarah Dubberley, Prif Arweinydd y meysydd pwnc: “Pleser yw gweld y disgyblion yn elwa o’r diwrnod darganfod a pha mor dda wnaethant gyfrannu at y sesiynau. Rydym wedi cael adborth arbennig o dda. Roedd y diwrnod yn gyfle gwych i ni ddangos ein cyrsiau, yn ogystal â’r rhagolygon gwaith ar gyfer y dyfodol sydd ar gynnig i ddarpar fyfyrwyr.”

Fis Medi, cyhoeddwyd bod y Brifysgol, unwaith eto, wedi’i gosod ymhlith y 10 gorau yn y DU am ansawdd addysgu yn Good University Guide 2024 The Times a Sunday Times

Yn ogystal, cyflawnodd y Brifysgol sgoriau uchel mewn Troseddeg – y 9fed gorau yn y DU ar y cyfan, a'r gorau yn y DU am ansawdd addysgu ac am brofiad myfyrwyr.