Rhyfeddodau Gogledd Cymru - Pobl a’u straeon 

Mae Gogledd Cymru yn ardal hardd ac amrywiol yn llawn o bobl ryfeddol i gyfarfod â nhw, lleoedd i ymweld â nhw a chyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan.    

Rhan o nod Prifysgol y Plant Gogledd Cymru yw codi dyheadau.  Mae hynny’n golygu ein bod eisiau dangos i bobl ifanc, eu teuluoedd a’u ffrindiau, yr holl gyfleoedd gwahanol sydd yma yng Ngogledd Cymru. 

Rydym wedi casglu straeon gan bobl ddiddorol o Ogledd Cymru.  Efallai eu bod wedi cael eu geni yma, wedi gweithio yma neu’n byw yn yr ardal, ond mae pob un ohonynt wedi bod ar daith, ac mae llawer wedi goresgyn rhwystrau ar y ffordd.    

Mae gan y bobl isod i gyd yrfa, diddordeb neu fusnes difyr neu unigryw a’n gobaith yw y byddwch chi, wrth ddarllen eu straeon, yn cael eich ysbrydoli i feddwl am eich gyrfa, diddordeb neu fusnes yn y dyfodol.

Felly pa unai ydych chi’n 8 neu’n 80 oed, rydym ni’n credu y bydd y straeon yma’n eich ysbrydoli.     

I ennill cod stamp, cliciwch ar un o’r straeon isod, darllenwch yr astudiaeth achos a chwblhau’r daflen fyfyrio, sydd ar gael yma;   

Fersiwn Saesneg - dolen 

Fersiwn Gymraeg - dolen  

Dylid anfon y daflen fyfyrio at  childrens.university@glyndwr.ac.uk ble bydd un o dîm Gogledd Cymru yn darllen eich myfyrdodau ac yna anfon cod stamp atoch.   Mae angen i’ch taflen fyfyrio fod yn ddim llai na 100 gair.