Kids sat around a teacher in a drama workshop

Ein digwyddiadau

Mae Prifysgol y Plant Gogledd Cymru yn bennaf yn atgyfeirio pobl ifanc a’u teuluoedd, at weithgareddau a digwyddiadau sy’n digwydd yn ac o amgylch Gogledd Cymru. Mae’r holl weithgareddau yr ydym yn eu hatgyfeirio, yn cael eu darparu gan Gyrchfannau Dysgu, yr enw rydym yn ei roi ar sefydliadau sydd wedi ymuno â ni ac sy’n darparu gweithgareddau allgyrsiol a gwirfoddoli. Mae ganddynt godau stamp i’w rhoi i’ch gwobrwyo chi ar gyfer yr amser a dreuliwyd yn gwneud gweithgaredd, felly sicrhewch eich bod yn parhau i wirio gwefan Prifysgol y Plant, gan fod Cyrchfannau Dysgu newydd yn ymuno â ni bob wythnos.

Ar adegau rydym yn trefnu ein digwyddiadau ein hunain felly hoffwch a thanysgrifiwch i’n sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Gallwch ddarganfod mwy drwy ymweld â’n tudalen Twitter, tudalen Facebook, tudalen Instagram neu ein tudalen LinkedIn. Mae gennym hefyd sianel Eventbrite!

Mae rhai o’r digwyddiadau rydym yn cynnal yn flynyddol, yn cynnwys

Ffotomarathon - cystadleuaeth ffotograffiaeth o fewn cyfnod penodol, lle rydym yn rhoi geiriau i chi, ac eich her chi yw tynnu llun sy’n adlewyrchu’r gair hwnnw.

Collection of photos from photomarathon

Fforymau Ieuenctid - a gynhelir bob ychydig fisoedd. Rydym yn casglu eich syniadau ar bopeth sy’n ymwneud â Phrifysgol y Plant fel y gallwn wella’r cynllun yn barhaus, ac rydym hefyd yn prynu bwyd a diod i chi, McDonalds fel arfer!

two girls with t shirts designed for childrens university

Gweithdai Podlediad - dysgu sut i greu podlediad! Rydym yn cynnal digwyddiadau untro a chyrsiau byr ar gyfer pobl ifanc siaradus ar bopeth i wneud gyda chreu podlediad!

Mae’r digwyddiadau hyn unai am ddim, neu gyda chost fechan (mae mwyafrif y gost yn cael ei ysgwyddo gennym ni) ac ar gyfer y mwyafrif, nid oes angen bod yn aelod o Brifysgol y Plant.

Rydym hefyd wedi helpu i drefnu Criw Celf a gweithdai Portffolio Celf ar gyfer pobl ifanc, wedi’i ariannu gan un o’n cyrchfannau dysgu yn Wrecsam - Tŷ Pawb.

Group of students in robes

OND y digwyddiad rydym wrth ein boddau yn trefnu, yw ein SEREMONÏAU GRADDIO blynyddol! Rydym yn cynnal y digwyddiadau hyn bob blwyddyn i wobrwyo pobl ifanc am gyflawni 100, 200, 300 awr, hyd at 1000 o oriau!

Cliciwch ar unrhyw un o’r dolenni uchod i ddarganfod mwy am y digwyddiadau rydym yn eu cynnal.