Logo for Wrexham and Flintshire / Wrecsam a Sir Y Fflint Children's University with smiley face

Sut i ymuno â Phrifysgol y Plant Gogledd Cymru

Mum and kid with cosplayer

Os ydych chi’n lleoliad ysgol

Ar gyfer ysgolion yn Wrecsam a Sir y Fflint, os nad yw’r llwybr a ariannwyd ar gael i’ch lleoliad, mae gennych hefyd gyfle i ymuno fel aelod sy’n talu am 12 mis.  Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y pecyn aelodaeth yma.

Yn anffodus, nid ydym yn gallu cynnig y pecyn aelodaeth a delir i ysgolion y tu allan i ardal ddaearyddol Wrecsam a Sir y Fflint ar hyn o bryd.  Os yw eich ysgol yn gweithredu yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Ynys Môn, anfonwch e-bost at y tîm Gogledd Cymru i gofrestru eich diddordeb.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau o ran cyllid a fyddai’n caniatáu ehangu’r cynllun.

Os ydych chi’n grŵp cymunedol

Mae gan grwpiau cymunedol yn Wrecsam a Sir y Fflint hefyd yr opsiwn o ymuno fel aelod sy’n talu am 12 mis.  Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y pecyn aelodaeth yma. 

Yn anffodus, nid ydym yn gallu cynnig y pecyn aelodaeth a delir i grwpiau cymunedol y tu allan i ardal ddaearyddol Wrecsam a Sir y Fflint ar hyn o bryd.   Os yw eich grŵp yn gweithredu yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Gwynedd neu Ynys Môn, anfonwch e-bost at y tîm Gogledd Cymru i gofrestru eich diddordeb.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau o ran cyllid a fyddai’n caniatáu ehangu’r cynllun.

Os ydych chi’n rhiant neu ofalwr

Yn anffodus, nid yw Prifysgol y Plant Gogledd Cymru ar gael i bobl ifanc sy’n cael eu haddysgu gartref neu deuluoedd unigol, fodd bynnag, mae Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant, sy’n llywodraethu’r cynllun, wedi lansio opsiwn aelodaeth newydd yn ddiweddar er mwyn i’ch plentyn gymryd rhan! Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan

Beth os nad oes Prifysgol y Plant yn fy ardal?

Er na allwn gynnig tanysgrifiad aelodaeth i chi, oherwydd ein contract gydag Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant, os yw eich ysgol mewn ardal lle nad yw Prifysgol y Plant yn gweithredu ynddo, gallwch dal gofrestru.   Gallwch gofrestru fel trwyddedai Prifysgol y Plant a chael yr holl offer sydd ei angen arnoch i’w redeg yn eich ysgol neu ymddiriedolaeth aml-academi.  Cysylltwch â Sonya Christensen a gofynnwch am ‘Prifysgol y Plant mewn Bocs’.