Cinema goers watching a movie

Dyma ychydig o weithgareddau i’w cwblhau gartref neu yn eich cymuned.

Ydych chi’n hoffi gwylio ffilmiau neu fynd i’r theatr?

Gall plant oedran cynradd greu adolygiadau am Ffilmiau neu sioe Theatr drwy ddefnyddio’r ffurflen - https://bit.ly/3rWOhVP

I ennill 1 awr ar gyfer eich pasbort, bydd angen i chi wylio ffilm (un ai yn y sinema neu gartref) neu sioe theatr, ac yna ysgrifennu adolygiad ohono neu wneud fideo o’ch hun yn rhoi’r adolygiad. Gallwch wneud 10 adolygiad mewn blwyddyn. Fe welwch chi fwy o fanylion ar y ffurflen.

*Gall plant ysgol uwchradd wneud adolygiadau’n syth ar eu dangosfwrdd ar-lein*

Loveheart over books

Ydych chi’n hoffi darllen llyfrau?

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi hefyd adolygu llyfrau gyda Llyfrgell Wrecsam? Fe gewch chi ragor o wybodaeth yma - http://www.childrensuniversity.co.uk/activities/10988

Newsletter for childrens university

Heriau Gwyliau

Pob gwyliau’r ysgol mae tîm Prifysgol Plant Gogledd Cymru yn darparu heriau i’w cwblhau i dderbyn codau stamp. Dyma ddolenni i hen newyddlenni y mae modd i chi eu cwblhau.

Nadolig 2021: https://bit.ly/3rnwpo0 

Chwefror 2022: https://bit.ly/3gs27dr 

Join our mailing list

Newyddlenni i Aelodau

Mae tîm Prifysgol y Plant Gogledd Cymru hefyd yn darparu newyddlenni rheolaidd. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch beth sy’n digwydd ym Mhrifysgol y Plant Gogledd Cymru - Ymunwch â’n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd! 

Gweithgareddau ar-lein Rhwydwaith Prifysgol y Plant

Pob gwyliau’r ysgol mae Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant yn gosod heriau.

Mae yna lawer o heriau wedi bod ond dyma ddetholiad bychan ohonynt (Saesneg yn unig).

Mae rhagor o weithgareddau gan Ymddiriedolaeth Prifysgol y Plant a Phrifysgolion y Plant eraill yn y DU ar gael yma https://www.childrensuniversity.co.uk/get-involved/activities-to-do-at-home-and-online/ 

Open Learn Logo

Cyrsiau OpenLearn

Mae Prifysgolion Plant Gogledd Cymru a Chaerdydd yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol Agored yng Nghymru a llwyfan OpenLearn y Brifysgol Agored.

Mae OpenLearn yn caniatáu aelodau’r Brifysgol Plant o 13 mlwydd oed ymlaen, i ymrestru a chael eu gwobrwyo am gwblhau cannoedd o gyrsiau rhad ac am ddim ar-lein.

Unwaith y bydd cyfrif wedi ei sefydlu ar OpenLearn, gall aelodau’r Brifysgol Plant ddewis dysgu ar-lein ar eu cyflymder eu hunain ar amrywiaeth o destunau o’r gofod a seryddiaeth i ieithoedd a cherddoriaeth.

Unwaith bydd y cwrs wedi’i gwblhau, bydd angen i aelodau’r Brifysgol Plant lawrlwytho eu datganiad cwblhau ynghyd â hyd y cwrs a’i e-bostio i’w Prifysgol Plant.

Yn Gogledd Cymru, gallant e-bostio childrens.university@glyndwr.ac.uk.

Yna byddwn yn ateb gyda chod stamp sy’n cyfateb i’r oriau dysgu a gwblhawyd.

Cliciwch yma i weld ein tudalen bwrpasol o gyrsiau OpenLearn ar gyfer aelodau’r Brifysgol Plant.

Saesneg: https://www.open.edu/openlearn/education-development/learning/childrens-university-free-online-courses 

Cymraeg: https://www.open.edu/openlearn/education-development/learning/prifysgol-y-plant-cyrsiau-ar-lein-am-ddim 

Gweithgareddau Cymraeg/dwyieithog

Mae gweithgareddau gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam wedi’u darparu i aelodau Prifysgol y Plant eu cwblhau. Cliciwch ar y dolenni hyn i dderbyn rhagor o wybodaeth am y tasgau. 

Gweithgareddau ar-lein eraill

Dyma ddetholiad o weithgareddau sy’n cael eu darparu gan gyrchfannau dysgu ar draws y DU. Sylwch, oherwydd eu lleoliad, mae’n debygol iawn mai gweithgareddau drwy gyfrwng y Saesneg yn unig yw’r rhain.

Gallwch hefyd wirio am weithgareddau y gallwch eu cwblhau ar-lein drwy ddefnyddio'r chwiliad 'Dod o hyd i Weithgaredd' ar wefan Prifysgol y Plant

Dewch yn ôl eto gan ein bod ni’n ychwanegu rhagor o weithgareddau drwy'r amser!