Mae Prifysgol y Plant (CU) yn sefydliad elusennol sy’n cydweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol i hybu cariad tuag ar ddysgu drwy weithgareddau allgyrsiol, gan sicrhau cyfleoedd cyfartal i bob plentyn. Cafodd prosiect Prifysgol y Plant Wrecsam a Sir y Fflint (WCFU) ei ailsefydlu ym mis Mawrth 2021 dan reolaeth Natalie Edwards o Genhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam. Roedd y gwerthusiad, a gynhaliwyd ar ffurf astudiaeth achos fechan, yn canolbwyntio ar flwyddyn academaidd 2021-2022 i ganfod cyfleoedd a chamau gweithredu i wella’r prosiect. Bu Natalie, a Dr Kirsty Fuller o’r adran Addysg, yn cydweithio ar y gwaith ymchwil a’r casgliadau ysgrifenedig.

Kids putting ideas onto a board

Prif Amcanion

  1. Canfod effaith Prifysgol y Plant ar gyfranogwyr drwy gasglu data cyn ac ar ôl y cynllun peilot yn ymwneud â chyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol.
  2. Asesu addasrwydd seilwaith Prifysgol y Plant ar gyfer ei ehangu ymhellach, gan ganfod meysydd ar gyfer gwella.

Cyd-destun

Mae nifer o astudiaethau’n amlygu effeithiau cadarnhaol yn ymwneud â chymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant, gan ddangos cynnydd mewn agweddau academaidd, gwaith tîm a chyfrifoldeb cymdeithasol. Roedd Prifysgol y Plant yn Sheffield yn dangos cysylltiad cryf rhwng gweithgareddau Prifysgol y Plant a pherfformiad academaidd. Daeth Rose a Rose (2018) i’r casgliad bod cymryd rhan ym Mhrifysgol y Plant yn dylanwadu’n gadarnhaol ar ddysgwyr, gan godi dyheadau ac ymwybyddiaeth.

Partneriaid a Dull

Bu wyth ysgol/ grŵp cymunedol yn cymryd rhan yng nghynllun peilot Prifysgol y Plant yn Wrecsam, gan gynnwys amrywiaeth o leoliadau ac anghenion dysgu. Roedd y gwaith o gasglu data yn cynnwys holiaduron a chydlynu gydag arweinwyr ysgolion/grwpiau cymunedol Prifysgol y Plant.

Effaith cynllun Peilot Prifysgol y Plant Wrecsam

Roedd y data yn dangos effaith gadarnhaol ar fwynhad o’r ysgol, dysgu a gwaith tîm, gyda rhywfaint o ostyngiad o ran mwynhad o ddysgu yn gyffredinol. Roedd ymatebion cyfranogwyr yn dangos y byddai gan 90% ohonynt ddiddordeb mewn ymuno â Phrifysgol y Plant eto. Roedd adborth cadarnhaol yn pwysleisio ar fagu hyder a gwella sgiliau cymdeithasol.

Seilwaith Prifysgol y Plant

Roedd y rhan fwyaf o blant yn adrodd nad oedd unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan, ond roedd y gwerthusiad yn amlygu meysydd i’w gwella, gan gynnwys heriau llythrennedd a’r angen am fwy o ymgysylltiad ar-lein. Nodwyd cyfyngiadau amser ar gyfer cymorth staff a heriau wrth fewnbynnu data.

Meysydd Gwella

Roedd adborth yn awgrymu gwella diweddariadau cymunedol, hyfforddiant i rieni a strategaethau cyfathrebu. Arweiniodd pryderon ynghylch ymgysylltu ar-lein at ystyried dull mwy amrywiol. Nodwyd heriau o ran ymgysylltu â myfyrwyr hŷn a bylchau mewn llythrennedd, gan bwysleisio’r angen am ddeunyddiau wedi’u teilwra.

Camau Nesaf

Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus, llwyddodd Prifysgol y Plant yn Wrecsam i sicrhau cyllid i ehangu ar draws Gogledd Cymru. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Wrecsam a Bangor. Mae camau ar gyfer gwella yn cynnwys gwell mynediad at gasglu data, mynd i’r afael â’r bylchau mewn technoleg, darparu cymorth gweinyddol, a lleihau rhwystrau economaidd. Mae strategaethau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ar waith.

Potensial ar gyfer Ymchwil

Mae cyflwyno Prifysgol y Plant yn cynnwys cwestiynau ymchwil newydd yn ymwneud â lles, iechyd meddwl a datblygu sgiliau cymdeithasol. Gan gyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor, nod y prosiect yw cynnal gwerthusiad proses a gweithredu manwl.  

Casgliad

Mae cynllun peilot Prifysgol y Plant Wrecsam wedi darparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer gwella’r prosiect, ac wedi dangos effaith gadarnhaol gweithgareddau allgyrsiol ar gariad plant tuag at ddysgu.

Cymerwch olwg ar y llyfryn a ddyluniwyd gan y myfyriwr, Migs Valyte, am y stori lawn.