Teenage girl wearing a mortarboard who is celebrating.

"Ym Mhrifysgol y Plant rydym yn credu mewn dysgu

diderfyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth."

Croeso i dudalen Seremoni Raddio Prifysgol Plant Gogledd Cymru i rieni a gofalwyr.

Yma fe gewch fanylion ynglŷn â seremoni’ch plentyn a sut i archebu dau o docynnau am ddim.

Pinacl calendr Prifysgol y Plant Gogledd Cymru yw ein Seremonïau Graddio sy’n cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun. 

Maent wedi cael eu herio i gyflawni nifer penodol o oriau (100 ar gyfer ein Grwpiau Cymunedol a 30 ar gyfer ein hysgolion) y gallant eu hennill drwy gymryd rhan naill ai mewn gweithgareddau allgyrsiol neu drwy wirfoddoli.  Mae’r gweithgareddau hyn yn digwydd yn yr ysgol amser cinio ac mewn clybiau ar ôl ysgol, trwy fynd i weithgareddau yn y gymuned, sy’n cael eu rhedeg gan sefydliadau ac unigolion yn y gymuned (a elwir yn Gyrchfannau Dysgu) yn ogystal â chwblhau gweithgareddau neu heriau ar-lein trwy newyddlenni a llyfrau gweithgareddau PyP.  

Yn y gorffennol, rydym wedi dathlu gyda chôr Prifysgol Wrecsam, perfformwyr ‘cosplay’, actau syrcas, Xplore! yn mynychu gyda gemau STEM a gemau gardd enfawr. Mae'n siŵr o fod yn llawer o hwyl i bawb sy'n cymryd rhan!

Graduation

Bydd pobl ifanc yn derbyn cap a gwisg graddio am ddim i’w gwisgo yn y seremoni a byddant yn derbyn 2 docyn gwestai am ddim ar gyfer eu rhieni/gofalwyr. Gwahoddir cynrychiolwyr o'r ysgolion a’r grwpiau cymunedol hefyd.

Mae ein seremonïau Graddio nesaf yn cael eu cynnal yn 2024 mewn amryw o leoliadau ledled Gogledd Cymru.  Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gael rhannu lluniau o'r digwyddiadau, byddant yn llawer o hwyl! 

  • Y dyddiad cau ar gyfer oriau cynllun peilot Ysgolion Gogledd Cymru yw 7 Ionawr 2024.
  • Y dyddiad cau ar gyfer oriau cynllun peilot Grwpiau Cymunedol Dinas Diwylliant yw 31 Ionawr 2024.

Bydd y rhai sydd wedi llwyddo i gyflawni eu horiau yn derbyn gwahoddiad i'r seremonïau nesaf;

Bydd mwy o fanylion am y lleoliadau a'r amseroedd yn cael eu cynnwys yn y gwahoddiad.

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i unigolyn ifanc sydd wedi’i wahodd i seremoni (neu os ydych chi'n meddwl y dylai fod) ac nad ydych wedi cael gwahoddiad, cysylltwch â ni, yn childrens.university@glyndwr.ac.uk. Sylwch y bydd gwahoddiadau yn cael eu hanfon trwy ysgol eich plentyn neu arweinydd y grŵp cymunedol, hyd at bythefnos ar ôl y dyddiad cau perthnasol, felly peidiwch â chysylltu â ni nes bod yr amser hwnnw wedi mynd heibio.