Rhwng Tachwedd 2021 a Mai 2022 roedd nifer fechan o ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws Wrecsam a Sir y Fflint wedi eu gwahodd i fod yn rhan o’n cynllun peilot.  

School pupils are filmed by a pupil using a large video camera

Y rheiny gymerodd rhan

  • Ysgol Bodhyfryd
  • Ysgol Morgan Llwyd
  • Ysgol Min y Ddol
  • Ysgol Gynradd Gatholig Saltney Ferry
  • Ysgol Uwchradd St David's
  • Ysgol Annibynnol Bryn Tirion Hall
  • Art & Soul Youth Tribe
  • Fforwm Ieuenctid Partneriaeth Parc Caia

176 o bobl ifanc wedi dechrau’r cynllun peilot ac wedi cael eu herio i gwblhau 30 awr o weithgareddau allgyrsiol er mwyn mynychu seremoni raddio arbennig iawn. 

Mae pob ymgeisydd yn derbyn Pasport Addysgu, eu cyfrif PP ar-lein personol a hyfforddiant wyneb yn wyneb.  Ar ddechrau a diwedd y cyfnod peilot gofynnwyd i’r bobl ifanc lenwi holiadur byr i’n helpu ni ddeall eu taith.

Boy with slime on his hands

O’r 176 wnaeth ddechrau, roedd 126 yn llwyddiannus mewn ennill 30 awr o weithgareddau. 

Eisiau gweld beth y mae pawb wedi bod fyny iddo?  Gwyliwch y fideos byr llawn hwyl hyn i weld sut mae ein haelodau o’r cynllun peilot wedi cyflawni eu targedau - 

Fideo Peilot 1

Fideo Peilot 2

O’r 126 a fu’n llwyddiannus dyma 112 yn mynychu ein Seremoni Graddio cyntaf erioed a dyma achlysur arbennig iawn. 

Wyddoch chi ein bod wedi derbyn fideo gan y Michael Sheen yn llongyfarch yr aelodau!

Michael Sheen on screen on stage at William Aston Hall   

Yr Ystadegau

  • 176 o bobl ifanc wedi dechrau’r cynllun peilot
  • 126 wedi cwblhau 30 awr o weithgareddau 
  • 112 wedi mynychu’r seremoni Raddio
  • 210 wedi cymryd rhan yn y Seremoni Raddio yn cynnwys rhieni/gofalwyr, staff cymorth, gweithwyr ieuenctid a chynrychiolwyr o’r  gymuned. 
  • Pobl ifanc wedi cwblhau 6173 o oriau mewn 6 mis.

Yr hyn wnaethon ni ei ddysgu o ddata y cynllun peilot

  • Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol oedd y gweithgareddau mwyaf poblogaidd ymysg y bobl ifanc. 
  • Roedd Sgiliau Bywyd Ymarferol ac Iechyd Meddwl a Lles yn weithgareddau o ddewis hefyd. 
  • Roedd gweithgareddau Celf a Diwylliant a dysgu yn yr awyr agored yn boblogaidd hefyd.  
  • Roedd aelodau’r cynllun peilot yn mwynhau derbyn newyddlenni gwyliau ysgol oedd yn llawn o weithgareddau i’w cwblhau.  Gweithgareddau o ddewis yn cynnwys coginio, pobi a thynnu llun. 

Diolch i’r bobl a’r partneriaid canlynol a wnaeth hi’n bosib cynnal Seremoni Graddio 2022; 

  • Staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
  • Coleg Cambria
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cyngor Sir y Fflint
  • GwE

Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i’r staff addysgu a’r cydlynwyr grwpiau sydd wedi gweithio’n galed i gefnogi eu pobl ifanc ac i gyflawni’r cynllun peilot;  

  • Lisa Jones o Ysgol Bodhyfryd
  • Bryn Jones o Ysgol Morgan Llwyd
  • Tom Evison o Ysgol Min y Ddol
  • Nick Martin o Ysgol Gynradd Gatholig Saltney Ferry
  • James Walker o Ysgol Uwchradd St David’s
  • Sarah Gaffney o Ysgol Annibynnol Bryn Tirion Hall
  • Jane Bellis o Art & Soul Youth Tribe
  • Alice Williams o Fforwm Ieuenctid Partneriaeth Parc Caia

Graduation 2022 screen

Mae mwy o fanylion am Brifysgol y Plant ar gael yn www.childrensuniversity.co.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y peilot, e-bostiwch childrens.university@glyndwr.ac.uk